Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu canlyniad y prosiect ymchwil blwyddyn o hyd.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, dyfarniadau gostyngiadau’r dreth gyngor, ôl-ddyledion y dreth gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried profiad unigolion sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a rhanddeiliaid.

Mae’r casgliadau’n dangos bod Credyd Cynhwysol yn newid sylweddol mewn cymorth lles ar gyfer aelwydydd ar incwm isel. Mae’r adroddiad yn rhoi tystiolaeth bod symud i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith ar wytnwch aelwydydd ac ar lefelau dyled preswylwyr incwm isel yng Nghymru. 

Mae tystiolaeth o lefelau is o ddyfarniadau gostyngiadau’r dreth gyngor, ôl-ddyledion y dreth gyngor uwch ac ôl-ddyledion rhent uwch, wrth i aelwydydd symud i Gredyd Cynhwysol. Mae tystiolaeth hefyd y gall pob math o ôl-ddyledion gronni pan fydd aelwydydd wedi symud i Gredyd Cynhwysol.

Mae agweddau o Gredyd Cynhwysol, fel y cyfnod aros o bum wythnos, taliadau misol a lefelau cymorth, mewn perygl o achosi anawsterau ariannol a dyled i rai hawlwyr. Ond mae’n werth nodi bod nifer fach o aelwydydd sy’n cymryd rhan yn ffafrio bod mewn rheolaeth o’u hawliad, fel y cynigir gan Gredyd Cynhwysol.

Adroddiadau

Credyd Cynhwysol, cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Credyd Cynhwysol, cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru: cwestiynau arolwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

John Broomfield

Rhif ffôn: 0300 025 0811

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.