Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r lleoedd ychwanegol yn cael eu creu fel rhan o becyn buddsoddi ehangach i ddatblygu gwasanaethau deintyddol newydd a gwell i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r lleoedd ychwanegol yn cael eu creu fel rhan o becyn buddsoddi ehangach i ddatblygu gwasanaethau deintyddol newydd a gwell i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. 

Fel rhan o'r buddsoddiad hwn, bydd £450,000 yn cael ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a £300,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn caniatáu i ragor gael gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd. Mae poblogaeth Caerdydd wedi cynyddu'n sylweddol a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i ddiwallu angen cynyddol. Y bwriad hefyd yw cynyddu nifer y lleoedd yn yr ardaloedd o angen mwyaf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Yn ogystal â hyn, bydd arian yn cael ei fuddsoddi i atgyfnerthu gwasanaethau deintyddol arbenigol i blant. Drwy hyn, bydd apwyntiadau ag ymgynghorydd ac apwyntiadau arbenigol ychwanegol ar gael wrth gydweithio â gwasanaethau presennol yn y gymuned ac yn yr ysbyty. Bydd hyn yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n gallu cael gwasanaethau deintyddol pediatrig arbenigol yn nes at adref a sicrhau bod y plant hynny sydd angen triniaeth fwyaf yn cael mynediad amserol ati. 

Bydd yr arbenigwyr newydd yn gweithio'n agos gyda thimau practisau deintyddol cyffredinol i wella gofal ataliol a gwasanaethau triniaeth i blant o fewn gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae disgwyl y bydd modd i hyd at 3,000 o gleifion ychwanegol y flwyddyn fanteisio ar wasanaethau deintyddol pediatrig arbenigol, a bydd hyn yn lleihau amseroedd aros am wasanaethau mewn ysbytai. 

Mae buddsoddiadau eraill sy'n rhan o ddiwygiad ehangach i'r ffordd y caiff gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd eu darparu yn cynnwys: 

  • • Arian ar gyfer cyrsiau i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar yr holl ddeintyddion yng Nghymru i arwain eu timau er mwyn darparu gofal a thriniaeth ataliol effeithiol 
  • System rheoli e-atgyfeirio deintyddol sy'n cael ei harwain gan glinigwyr i Gymru a fydd yn gwella ansawdd gofal cleifion a lleihau amseroedd aros am driniaeth   
  • Gwella'r wybodaeth ddeintyddol er mwyn deall yr amrywiad yn y ddarpariaeth yn well a chysylltu'r defnydd o wasanaethau gan gleifion i wella gwerth gwasanaethau a chanlyniadau gofal 
  • Ehangu mynediad at hyfforddiant ac addysg ar gyfer cymunedau drwy gynnig cyfleoedd i bobl sydd am hyfforddi a gweithio fel gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol. 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae gwella gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd a'r mynediad atyn nhw yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. 

"Rwy'n falch iawn y bydd y buddsoddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn creu 10,000 o leoedd deintyddol newydd yn y gwasanaeth iechyd. Bydd hyn yn gwella mynediad at wasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd i bobl yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. 

"Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol pediatrig arbenigol newydd er mwyn sicrhau bod anghenion y plant mwyaf agored i niwed yn cael eu diwallu. Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol pediatrig arbenigol yn helpu i wella triniaeth ddeintyddol y gwasanaeth iechyd a'r gofal i'r plant hynny sy'n dioddef o glefyd deintyddol."