Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd yn newydd ar gyfer ffenestr 11

  • Mae’r Datganiad o Ddiddordeb yma ar gael i reolwyr tir a fydd yn gallu cwblhau’r holl waith cyfalaf a phlannu erbyn 31 Mawrth 2023.
  • Wnaiff y 11fed DOD o GWC agor ar 30 Fedi 2021 a cau am hanner nos 28 Hydref 2021.
  • Fel y amlinellir yn ystod y plymiad dwfn i goed a phren, mae’r ffenest yn cael ei lansio er mwyn sicrhau fod y cyllid llawn a glustnodir o dan gynllun Taliad Datblygu Gwledig (RDP) yn cael ei glustnodi. Mae’r ffenest yn cael ei rhedeg o dan reolau cyfredol yr RDP, felly prin yw unrhyw newidiadau i reolau a chanllawiau’r cynllun. Gaiff prosiectau gyda gwerth cyfanswm o £5.5 miliwn eu dewis drwy'r ffenestr yma.
  • Y flwyddyn nesaf fe fyddan yn edrych i agor cynllun ariannu creu coetir newydd a fydd yn adeiladu ar Glastir Creu Coetir ond yn symlach ac ar gael yn gyson drwy gydol y flwyddyn. Fel rhan o hyn, fe fydd ariannu ar wahân ar gael ar gyfer cynllunio coetir. Rydym yn lansio peilot o’r cynllun cynllunio coetir law yn llaw a ffenestr 11 o Glastir Creu Coetir.
  • Fe fydd angen i chi benderfynu pryn ai ymgeisio ar gyfer y ffenestr yma, neu'r cynllun peilot. Yr ydym yn argymell i chi ddewis y cynllun cynllunio os nad ydych yn hyderus o fedru cyflawni'r gwaith plannu erbyn y dyddiad terfyn 31 Mawrth 2023. Ni fedrwch gymryd rhan yn ffenestr 11 o Glastir Creu Coetir a’r cynllun peilot gyda’r un prosiect. Os byddwch yn ceisio am y ddau gynllun, gaiff eich cais ar gyfer ffenestr 11 o Glastir Creu Coetir ei ystyried yn gyntaf. Os byddwch yn llwyddiannus yn ffenestr 11 o Glastir Creu Coetir  ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y peilot.
  • Bydd rhaid cadw at y dyddiadau yn y tabl canlynol:
Amserlen
Cyflwynwch eich Datganiad o Ddiddordeb ar lein rhwng30 Medi 2021 a 28 Hydref 2021
Cyflwyno cynllun creu coetir i RPW Ar-lein erbyn8 wythnos ar ôl i dewisiad yr DOD gael ei gadarnhau
Cwblhau’r holl waith Sefydlu a Chyfalaf erbyn31 Mawrth 2023 
Cyflwyno eich hawliad ar gyfer gwaith Sefydlu a Chyfalaf erbyn30 Mehefin 2023
  • Yn dilyn adborth gan gynllunwyr coetir, mae rheolau ar gyfranogiad y cyhoedd wedi ei newid ar gyfer ffenestr 11. Gellir ddarllen y rheolau newydd yn Adran D.
  • Mae newidiadau i reolau’r Cod Carbon Coetiroedd golygu yn nawr fod rhaid i brosiectau gael eu cofrestru cyn i’r gwaith plannu gychwyn.
  • Mae meddalwedd mapio GeoPDF wedi cael ei oresgyn gan ffeiliau siâp. Ar gyfer y rownd yma o Glastir Creu Coetir fe fydd angen lanlwytho'r holl ardaloedd yw plannu ymlaen i ffeil siâp.
  • Ar gyfer y rownd yma bydd DODau yn cael eu sgorio a’i rhestru mewn trefn yn unol â’r criteria sgorio. Bydd dewis DODau yn seiliedig ar eu lle yn y rhestr fyny at y pwynt pan fydd cyllid y ffenestr wedi ei glustnodi’n llawn. Bydd mwyafswm o 2 rownd o ddewisiad yn cael ei gwblhau fesul ffenest er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyllid sydd ar gael.

NEGESEUON ALLWEDDOL

  • Ar gyfer y rownd yma bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ei tir gyda’r System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Taliadau Gwledig Cymru a bod gyda rheolaeth lawn o’r tir yna pan fydden yn cyflwyno eu DOD. Oherwydd yr amser byr sydd ar gael, ni fyddem yn gallu derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd heb gyflwyno ffurflen Rheoli fy Nhir gyda’r holl ddogfennau ategol priodol cyn i’r ffenest yma agor.
  • Mae’n rhaid i DOD gael ei gyflwyno gan Cynlluniwr Creu Coetir Glastir Cofrestredig (cynlluniwr cofrestredig). I gyflwyno DOD, bydd rhaid i chi gysylltu a cynlluniwr cofrestredig i drafod eich cynigion a fe wnaiff y cynlluniwr cofrestredig chyflawni a chyflwyno eich DOD ar eich rhan. Fe fydd DODau sydd heb cael eu cyflwyno gan cynllunwyr cofrestredig yn cael eu gwrthod.
  • Bydd angen i chi sicrhau fod y cynlluniwr cofrestredig yr ydych wedi ei ddewis wedi ei awdurdodi i gyflwyno DOD ar eich rhan drwy RPW Ar-lein.
  • Mae’r rhestr o gynllunwyr cofrestredig sydd wedi eu awdurdodi i gyflwyno DOD ar gael yn Grantiau a thaliadau gwledig.
  • Mae cyllid o £5.5miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y rownd yma o Glastir Creu Coetir
  • Os cynigir contract, fe fydd angen i chi dderbyn neu wrthod y cynnig drwy eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad a roddir yn eich llythyr. Ar gyfer y ffenestr yma o Glastir Creu Coetir fe fydd ymgeiswyr a ddewiswyd yn cael 7 diwrnod i ddychwelyd eu derbyniad o’r contract. Bydd methiant i wneud hyn yn arwain i’r cynnig o gontract gael ei dynnu’n ôl.
  • Fe fydd gan ymgeiswyr llwyddiannus 8 wythnos o’r dyddiad gafodd dewisiad ei gynnig i gyflwyno Cynllun wedi ei gwblhau, ffeil siâp a phob dogfen ategol arall sydd ei hangen drwy eu cyfrif RPW Ar-lein. Bydd methiant i gyflwyno’r holl ddogfennau sydd ei hangen ar gyfer gwiriad erbyn y dyddiad yma yn arwain i’ch contract gael ei wrthod.
  • Caiff contract GWC nawr ei gynnig yn dilyn cwblhau profion cymhwyster ynghyd a’r cynnig o ddewis. Fe alluogir y contract i’r ymgeisydd a’r cynlluniwr baratoi Cynllun GWC sydd wedi ei gwblhau yn llawn ar gyfer ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru.
  • Caiff cynlluniau GWC eu gwirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a cynhyrchir map contract. Ni ddylai dalwyr contract gychwyn unrhyw waith cyn derbyn map contract wedi ei wirio sydd yn cadarnhau y safleoedd sydd yw plannu yn dilyn gwiriad gan NRW.
  • Os sydd angen caiff y contract ei ddiweddaru a caiff contract diwygiedig ei gynnig.
  • Os ddarganfyddir yn ystod gwirio fod arwynebau arwyddocaol o dir sydd yn anaddas yw blannu wedi eu cynnwys yn y DOD a’r cynllun, wnaiff Llywodraeth Cymru ail-sgorio gweddill y tir sydd wedi ei wirio. Os yw’r sgôr o dan y drothwy dewis, caiff y contract ei dynnu’n ôl.
  • Mae taliad yn ddibynnol ar Llywodraeth Cymru yn derbyn cynllun wedi ei wirio’n llawn gan CNC a’r gwaith cyfalaf yn cael ei gyflawni i’r manyleb cywir sydd yn y contract.
  • I fod yn gymwys ar gyfer y broses ddewis, mae’n rhaid i’r tir sydd yw blannu gael ei gofrestru gyda’r System Adnabod Parseli Tir (yr LPIS) Taliadau Gwledig Cymru, ac mae rhaid i’r tir fod o dan eich rheolaeth lawn cyn i’r Ffenestr Datganiad o Ddiddordeb gael ei hagor. Os yw’r tir yn cael ei ddefnyddio gan rheolwr arall, er enghraifft tenant, a nhw sydd gyda rheolaeth am y tir, ni fyddwch yn gymwys i gyflwyno DOD gan nad oes gennych rheolaeth lawn o’r tir.
  • Bydd rhaid i ffurflen Rheoli eich Tir (MML) a holl ddogfennau ategol fod wedi eu cyflwyno erbyn yr 30 Medi 2021 i’n hysbysebu o unrhyw cofrestru tir, newidiadau neu trosglwyddiad er mwyn i’r tir fod yn gymwys ar gyfer dewis o dan y rownd yma o GWC. Os na fydd MML wedi ei chyflwyno erbyn 30 Medi 2021 caiff y caeau eu tynnu allan o’r DOD cyn iddo gael ei sgorio.
  • Os ydych yn cyflwyno DOD ar gyfer tir comin, bydd angen i chi gyflwyno caniatâd o dan Adran 38 o’r Ddeddf Comin 2006 neu cadarnhad ysgrifenedig nad os angen caniatâd o dan adran 38 gan Gweinidogion Cymru erbyn 30 Medi 2021 er mwyn i’r tir fod yn gymwys ar gyfer detholiad. Bydd methiant i wneud hyn yn arwain i’r caeau cael eu gwrthod.
  • Os gewch gynnig Contract GWC o dan y ffenestr yma ni fydd angen i chi ddewis flwyddyn hawlio yn lle fydd angen i chi gyflwyno eich Hawliad Gwaith Cyfalaf. Bydd angen i holl Hawliadau Gwaith Cyfalaf ar gyfer y rownd yma o GWC gael eu cyflwyno rhwng 01 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.
  • I fod yn gymwys am y grant Cynllun GWC o £800, fydd rhaid i Gynllun GWC cymeradwyol arwain i blannu wedi i’r contract GWC gael ei dderbyn ar lein.  
  • Mae’r cynllun hwn yn neilltuo cymorth ariannol ar gyfer gwaith cyfalaf, plannu newydd, ffensio ac mewn rhai amgylchiadau, telir taliadau premiwm a chynnal blynyddol.
  • Mae cymorth ariannol ar gael hefyd ar gyfer plannu coed ar dir sy’n parhau i gael ei bori fel rhan o system Amaeth-Goedwigaeth h.y. sy’n cyfuno amaethyddiaeth a choedwigaeth.  Gweler Adran C am y manylion llawn.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i blannu coed ar dir rydych wedi rhoi’r gorau i gynhyrchu’n amaethyddol arno o dan y GWC a hawlio’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) arno cyn belled ag y cafodd y tir hwnnw ei ddefnyddio i hawlio Cynllun Taliad Sengl (SPS) yn 2008, tra bod eich ymrwymiad i goedwigo y tir sydd yn gymwys o dan y contract yma yn parhau yn weithredol.
  • Mae’n bosibl y bydd cae y plannwyd coed gwasgaredig arno o dan y system Amaeth-Goedwigaeth yn parhau i fod yn gymwys am y Taliad Sylfaenol. Bydd angen tynnu arwynebedd y coed yn unol â rheolau’r BPS.
  • Mae ffurflen mynegi diddordeb GWC yn ffurflen ddigidol a rhaid ei llenwi ar wasanaeth RPW Ar-lein. 
  • Bydd angen Cyfeirif Cwsmer (CRN) arnoch a cyfrif RPW Ar Lein cyn ichi allu cael gafael ar y Ffurflen i Fynegi Diddordeb yng nghynllun GWC
  • I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein. Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru i gael rhagor o fanylion.  Gallwch newid y rhan fwyaf o fanylion eich busnes ar-lein. Ond os ydych am gofnodi newidiadau mawr, efallai y bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn ichi am ragor o fanylion. Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 am ragor o wybodaeth. Am ragor o wybodaeth am fynegi diddordeb, ewch i Adran D y llyfryn hwn. Os oes angen cymorth digidol arnoch cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid gan ddefnyddio’ch cyfrif RPW ar-lein neu drwy ffonio 0300 062 5004.
  • Gofalwch eich bod yn gallu bodloni holl amodau’r Cynllun am oes eich contract (gweler adran C am fanylion). Mae’r contract yn dod i ben, ble yn berthnasol, yn dilyn y taliad olaf o daliadau gwaith Sefydlu a Chyfalaf, premiwm a chynnal.
  • Ar ôl y gwaith plannu, os yw’r cyllideb ar gael, mae’n bosibl y cewch hawlio’r taliadau cynnal a phremiwm 12 mlynedd. Dim ond am 5 mlynedd mae taliadau cynnal ar gael o dan opsiwn Amaeth-Goedwigaeth.
  • Bydd yn rhaid ichi lunio cynllun GWC fydd yn gorfod bodloni rheolau GWC a Safon Goedwigaeth y DU (UKFS). Rhaid defnyddio Cynlluniwr Cofrestredig i gynhyrchu y cynllun GWC. Mae manylion cyswllt Cynllunwyr Cofrestredig ar gael ar dudalen we GWC.
  • Rhaid plannu o leiaf 0.25ha o dir a rhaid i floc unigol fod o leiaf 0.1 ha. Gweler Adran C am y manylion. 
  • Drwy helpu cynnal cyfoeth naturiol Cymru byd GWC yn rhoi cymorth i Llywodraeth Cymru yn darparu elfennau o’r Ddeddf Amgylchedd 2016 a cyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol, Cymru hydwyth (drwy helpu i wella amgylchedd bio-amrywiol naturiol), Cymru iachus (drwy gefnogi yr amgylchedd fel adnodd o ddiddanwch) a Chymru llewyrchus (drwy amddiffyn buddsoddiad cyfredol ac yn y dyfodol mewn coetir newydd a fydd, mewn tro, yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth ac gweithgareddau economaidd.   
  • Mae Goetiroedd Glastir wedi cael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i unrhyw newidiadau i’r canllawiau ac ymrwymiadau Glastir yn Gwlad a lle bydd angen, byddwn yn cysylltu â'r rheini y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.

CYMORTH GWLADWRIAETHOL

  • Mae grantiau sy'n cael eu rhoi o dan y cynllun hwn yn gymorth sy'n dod o fewn cwmpas fframweithiau Cymorth gwladwriaethol. Mae Erthyglau 107, 108 a 109 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU) yn berthnasol i'r cymorth a roddir ar gyfer datblygiad gwledig o dan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (ref: SA 43466).
  • O’r 01 Gorffennaf 2016 ymlaen, bydd gofynion Tryloywder Cymorth Gwladwriaethol, a nodir yn Erthygl 9 Rheoliad y Comisiwn 702/2014 wedi dyddio 25 Mehefin 2014 sydd yn datgan rhai categorïau o gymorth yn y sectorau amaethyddol a choedwigaeth mewn ardaloedd cefn gwlad gydnaws a’r farchnad fewnol yn gweithredu Erthygl 107 a 108 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn i bob gwobr o gymorth unigol (am Amaeth) sydd yn uwch na’r trothwy o €500,000 i gael ei adroddi yn uniongyrchol i’r Comisiwn Ewropeaidd pob 6 mis. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei gyhoeddi drwy Wefannau Tryloywder Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.
  • Mae grant a ddarparir o dan yr opsiynau canlynol y cynllun yn gymorth ufudd oherwydd ei fod yn parchu’r amodau a amlinellir yn Erthygl 32, 33 a 35 o Rheoliad y Comisiwn 702/2014 (Rheoliadau Eithriadau Bloc Amaethyddol)
     
  • Coetir Cymysg Gwell, Opsiwn 803 Glastir
  • Coetir Brodorol - Bioamrywiaeth, Opsiwn 801 Glastir
  • Coetir Brodorol – Carbon, Opsiwn 802 Glastir
  • Amaeth-Goedwigaeth - Coed Gwasgaredig Opsiwn 804 Glastir
  • Ffensio – Opsiwn 595 Glastir
  • Grant Cynllun Creu Coetir

Adran A – cyflwyniad

Mae’r llyfryn hwn wedi’i baratoi ar gyfer rheolwyr tir, gan gynnwys ffermwyr, sy’n bwriadu cael Cynlluniwr Cofrestredig i fynegi diddordeb i gymryd rhan yng GWC ar gyfer gwaith i’w gwblhau erbyn y dyddiadau a gyhoeddwyd. Nid yw’r manylion yn y llyfryn hwn yn gynhwysfawr a gallai newid.

Mae’r cynllun yn cefnogi ymrwymiad i ehangu coetiroedd yng Nghymru fel a nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru, Coetiroedd i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i blannu mwy o goed yng Nghymru trwy GWC er mwyn sicrhau amrywiaeth eang o fanteision, i:-

  • Cysgod i stoc ac adeiladau adeg tywydd mawr.
  • Rheoli symudiadau da byw trwy ffensio a phlannu mannau anhygyrch fel llethrau serth.
  • Tyfu cyflenwad cynaliadwy o bren a choed tân e.e. ar gyfer adeiladau a ffensys.
  • Creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Lleihau’r perygl o lifogydd ym mhen isa afonydd a rhwystro pridd rhag cael ei olchi i gyrsiau dŵr.
  • Sgrinio llygredd sŵn e.e. o ffyrdd a rheilffyrdd.

Bydd angen ichi weithio gyda Cynlluniwr Cofrestredig i gyflwyno eich DOD a paratoi cynllun GWC sy’n cydymffurfio â rheolau GWC a’r UKFS. Bydd y cynllun yn esbonio’ch amcanion wrth greu coetir a sut y bydd y coetir yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru ac yn rhoi gwerth ei harian iddi.

Mae Cynllun GWC yn cynnig cyfleoedd newydd i sefydlu systemau amaeth-goedwigaeth.  Gweler Adran C am fanylion.

Serch hynny, os ydych yn dewis opsiynau newydd fel amaeth-goedwigaeth, mae’n bwysig eich bod yn dangos ar eich cynllun rheoli Creu Coetir sut ydych yn bwriadu cyflwyno’r system, er lles eich fferm. Yn arbennig, ni allwn gefnogi cynllun amaeth-goedwigaeth oni bai bod gennych fwriad clir i gynnal system tymor hir, i barhau i integreiddio gwaith amaethyddol a choedwigaeth a pharhau i bori’r tir am oes y contract. 

Noddir GWC ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Raglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.

Rheolir GWC gan Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 OS rhif 3222 (cy.327) sy’n gymwys i Raglenni Datblygu Gwledig, Rheoliadau’r Cyngor (EU) rhif 1305/2013, 1303/2013 ac (EU) rhif 1306/2013, Rheoliad y Comisiwn (EU) rhif 808/2014 ac (EU) rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 640/2014 ac 807/2014 (fel y’u diwygir o dro i dro). Mae copïau o’r Rheoliadau ar gael ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru neu gallwch ofyn i Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru am gopïau caled.

Adran B – pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys am GWC, rhaid:

  • Eich bod wedi cofrestru fel cwsmer gyda RPW ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN).
  • Sicrhau fod eich DOD yn cael ei gyflwyno gan Cynlluniwr Cofrestredig.
  • Byddwch wedi cofrestru’ch tir ar System Adnabod Parseli (LPIS) Taliadau Gwledig Cymru a fod genych rheolaeth lawn o’r tir cyn i’r Ffenestr agor ar 30 Medi 2021. Nid oes yn rhaid ichi fod yn ffermwr i wneud hyn.
  • Bod gennych o leiaf 0.25 hectar o dir cymwys.
  • Mai dim ond chi sy’n hawlio cynlluniau Cymorth Ewropeaidd (e.e. Cynllun Taliad Sylfaenol a Glastir) ar y tir.
  • Bod gennych reolaeth lwyr ar y tir am oes y contract a thros gyfnod yr ymrwymiad.
  • Eich bod yn berchen ar dir preifat neu gyhoeddus, yn gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grŵp cymunedol sy’n plannu ar dir cyhoeddus.

Pa dir sy’n gymwys

I fod yn gymwys am gontract GWC, rhaid i’r tir fodloni’r amodau canlynol:

  • Bydd yn gaeau sy’n 0.1ha neu fwy o faint, y cyfan yng Nghymru.  Pwysig: nid yw’r gair cae yn golygu fod yn rhaid iddo fod yn dir amaethyddol.
  • Nid yw’n goetir, mae hyn yn cynnwys ardaloedd a ddangosir ar Rhestr Cenedlaethol Coedwigoedd Ymchwil i Goedwigaeth.
  • Ni chaiff ei ddefnyddio yn ystod oes y contract creu coetir i dyfu coed Nadolig na chnwd biomas cylchdro byr.  Mae cylchdro byr yn golygu llai nag 8 mlynedd.
  • rhaid parhau i bori’r tir am oes y contract a’r ymrwymiad os yr ydych yn dewis yr opsiwn amaeth-goedwigaeth.
  • Bydd pob corff perthnasol e.e. CNC, CADW wedi rhoi caniatâd i blannu ar safleoedd dynodedig yn unol â Safon Goedwigoedd y DU.  
  • Ddim wedi cofrestru fel tir comin oni bai fod caniatâd wedi cael ei dderbyn o dan adran 38 o’r Deddf Tir Comin 2006, neu fod cadarnhad ysgrifenedig wedi cael ei rhoi gan Gweinidogion Cymru nad oes angen caniatâd o dan adran 38, cyn cyflwyno’r DOD. Ble mae angen caniatâd, mae angen caniatâd Adran 38 cyn cyflwyno DOD.
Ffynonellau ariannu eraill

Os ydych yn cael taliad o le arall ar gyfer y gwaith y mae GWC hefyd yn eich talu amdano, mae hynny’n golygu’ch bod yn cael eich talu ddwywaith a nid yw hyn yn ganiataol. Os y caiff ei ddarganfod eich bod yn, neu wedi derbyn cyllid gan ffynhonnell arall ar gyfer ymrwymiadau GWC, fedr hyn arwain at gosbau ariannol, adennill yr holl daliadau gyda llog a’r posibilrwydd o derfyn eich contract.

Plannu yn ystod Contract Glastir Uwch (GU)

Os yw’r plannu i gymryd lle cyn terfyn y contract GU, ni fydd unrhyw arwynebedd o opsiwn rheoli oddi fewn i’r parsel ar gael ar gyfer plannu o dan GWC. Dim ond yr arwynebedd sydd ar ôl, sydd dim o dan opsiwn rheoli, a all gael ei ystyried ar gyfer cynnig i blannu.

Wrth ddatgan arwynebedd y plannu o fewn parsel yn y DOD, gwnewch yn siŵr nad ydi arwynebedd yr Opsiwn Rheoli GU wedi ei gynnwys.

Plannu ar ôl i Gontract GU ddod i ben

Os yw’r plannu i gymryd lle ar ôl i’r contract GU ddod i ben, gall yr holl barsel gael ei sgorio a’i ddewis ar gyfer GWC. Os caiff ei ddewis, a gaiff y cynllun dilynol ei wirio, ni all unrhyw waith baratoi plannu a fedrai ddifrodi’r opsiwn rheoli, wedi ei gefnogi o dan y contract GU, cymryd lle hyd nes fod y contract GU wedi dod i ben.

Gall unrhyw waith a gaiff ei gario allan a fyddai’n torri’r contract GU cyfredol yn arwain at cosbau yn cael eu ymroi i unrhyw hawliadau taliad sydd yn cael ei gwneud yng nghyd-destyn yr opsiwn yna.

Wrth ddatgan arwynebedd y plannu o fewn parsel yn y DOD, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys unrhyw arwynebedd o opsiwn rheoli sydd yw blannu o dan eich bwriadau wedi i’r contract GU ddod i ben.

Medr tir sydd o dan contract Glastir Organig fynd i mewn i gontract GWC. Er mwyn gwneud hyn bydd rhaid i’r cwsmer wneud cais i dynnu y tir allan o’r contract organig drwy ei cyfrif RPW ar-lein. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu allan o eich contract Glastir Organig a ni fedr gychwyn plannu cyn i’r tir yma gael ei dynnu allan.

Nid yw tir sydd o dan opsiwn plannu Grantiau Bach Glastir yn gymwys ar gyfer GWC.

Cod Carbon Coetiroedd

Trwy blannu coed, cymerir carbon deuocsid o’r awyrgylch. Mae Cod Carbon Coetiroedd yn eich annog i fasnachu carbon a galli’r coed a blannir o dan GWC fod yn gymwys fel prosiect carbon coetiroedd.  O dan y cod carbon coetiroedd, rhaid i’r rheini sy’n rhestru unedau carbon coetiroedd ar gyfer eu masnachu ddangos bod yr arian carbon y gofynnir amdano yn arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y prosiect creu coetir. Mae’r prawf “arian ychwanegol” hwn yn sicrhau nad ydych yn cael eich talu ddwywaith a chyn belled a’ch bod wedi bodloni’r prawf, nid oes perygl o ariannu dwbl.

Rhaid i bob prosiect sy’n dewis opsiwn Coetir Brodorol – Carbon Glastir gofrestru ei plannu gyda’r Cod Carbon Coetiroedd. Eich cyfrifoldeb chi yw hi i gofrestru gyda’r Cod Carbon Coetiroedd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn ar eich rhan. Er mwyn gweinyddu’r cofrestru bydd Llywodraeth Cymru yn gyrru ymlaen holl wybodaeth am blannu Carbon a manylion cwsmer ymlaen i’r Tim Cod Carbon Coetiroedd.

Mae newidiadau i reolau Cod Carbon Coetiroedd yn golygu bydd angen cofrestru prosiect cyn bod y gwaith plannu yn cychwyn.

Bydd methiant i gofrestru yn arwain i daliadau gael ei dal yn ôl neu adolygu’r contract er mwyn adfer unrhyw daliadau yn ymwneud a opsiwn Coetir Brodorol – Carbon a wnaed, yn cynnwys ble’n briodol y taliad am y Cynllun.

Cewch fwy o wybodaeth yn woodlandcarboncode.org.uk.  Cofrestru gyda’r cod yw’r cam cyntaf ar gyfer dilysu’r unedau carbon coetiroedd a gynhyrchir gan eich prosiect.  Mae’r cam cyntaf hwn yn golygu cyfrif faint o garbon y bydd y prosiect yn ei ‘ddal’ dros oes y prosiect.

Adran C – grantiau Glastir Creu Coetir

Gwaith Cyfalaf 

Os cewch chi eich dewis ar gyfer GWC, er mwyn cario ymlaen gyda eich cais, bydd rhaid i chi dderbyn y cynnig o gael eich dewis a contract sydd wedi ei seilio ar eich DOD. Bydd gofyn ichi baratoi Cynllun GWC sy’n cydymffurfio â UKFS (Comisiwn Coedwigaeth – Safon a Chanllawiau Coedwigaeth y DU) a rheolau GWC.  Caiff y Cynllyn Creu Coetir ei wirio gan CNC. Ar ôl i’ch cynllun rheoli gael ei gymeradwyo GAN Llywodraeth Cymru, caiff yr eitemau Gwaith Cyfalaf cymwys sydd wedi’u rhestru arno eu cynnwys yn eich Contract GWC a fydd angen i chi hefyd ei dderbyn i fod yn gymwys i hawlio taliadau o dan GWC.  Mae’r adran hon yn trafod yr eitemau Gwaith Cyfalaf a’r taliadau cynnal a phremiwm sydd ar gael o dan y GWC.

  • Grantiau sefydlu i blannu coed. Bydd deiliad y contract, NEU Asiant sydd yn gweithio ar ei rhan, yn hawlio’r grant ar ôl plannu’r coed.  Gweler Tabl 1 am fanylion y categorïau o goetir a’r grantiau.
  • Grant ffensio o £3.48/metr cyn belled â’ch bod yn bodloni manylebau technegol Glastir ar gyfer ffensys. Bydd y ffens yn cadw da byw allan o’r tir sydd newydd ei blannu â choed. Mae’n rhaid ir hyd hiraf o ffens a fedrir geisio amdano adlewyrchu’r perimedr plannu. Y Gallwch gryfhau’r ffens i gadw ceirw a gwningod allan. Chi fydd yn gorfod talu am hynny ond rhaid iddi fod yn ychwanegol at y ffens stoc safonol. Gall adwy gael ei rhoi i mewn i lein y ffens ar gost perchennog y tir, ond caiff ond ei ymgeisio amdano fel hyd o ffens.
  • Pwysig:  Mae’n bosibl y bydd tir y plannwyd coed arno trwy GWC yn gymwys am BPS am oes y contract cyn belled ag y cafodd y tir ei ddefnyddio yn 2008 i hawlio SPS tra bod eich ymrwymiad i goedwigo’r tir sydd oddi fewn y contract yn weithredol.  Rhaid defnyddio codau cnydau penodol wrth hawlio BPS o dan yr amgylchiadau hyn. Darllenwch diweddariadau llyfr rheolau’r Ffurflen Gais Sengl (SAF) am y manylion llawn. Bydd ond yn gymwys am y BPS tra eich bod yn derbyn y taliadau cynnal a phremiwm  am y tir.

Grant Amaeth-Goedwigaeth

  • Ffordd integredig o reoli tir yw amaeth-goedwigaeth, gyda’r coed a’r ffermio yn cyd-fodoli i roi manteision lu.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig amrywiaeth hyblyg o opsiynau ar gyfer cynnal coetiroedd fferm. Mae GWC yn gam cyntaf trwy roi’r hyblygrwydd ichi, wrth ddylunio coetir, i allu creu stribedi cysgodi a grwpiau o goed mor fach â 0.1ha mewn bloc unigol. Rydym yn ategu hyn trwy gynnig opsiwn amaeth-goedwigaeth ar y ffurflen Mynegi Diddordeb. Mae’r opsiwn yn caniatáu ichi blannu 80 o goed gwasgaredig yr hectar ar dir pori parhaol sy’n cael ei bori at lefel stocio sydd o leia’n nodweddiadol o’r tir dan sylw am oes y contract. Pennir y lefelau stocio yn eich contract.
  • Os ydych yn gwneud cais am grant Amaeth-goedwigaeth, bydd angen ichi brofi trwy’ch cynllun rheoli Creu Coetir bod eich cynnig yn un da, a’i fod wedi’i integreiddio i’ch busnes ffermio am y tymor hir.
  • Gweler Tabl 1 i weld manylion y grant Amaeth-Goedwigaeth. Rhaid i’r tir fod yn dir pori parhaol a rhaid parhau i’w bori. Cewch gynaeafu silwair neu wair ar y tir. Diben yr opsiwn amaeth-goedwigaeth yw’ch helpu i sefydlu system amaethyddol newydd – nid grant plannu coed yn unig mohono.
  • Mae’r grant yn talu am y gwaith plannu, am ffensio yn defnyddio gwarchodon coed parkland, am amddiffyn y nifer gofynnol o goed unigol ac am ofalu amdanyn nhw tan iddynt gydio ond gan gynnal gweithgarwch ffermio ar y tir yr un pryd am oes y contract.
  • Bydd taliad Cynhaliaeth blynyddol ar gael i’w hawlio am y 5 mlynedd gyntaf. Bydd hyn ar gael yn y flwyddyn galendr ddilynol i’r flwyddyn a gyflawnwyd y gwaith sefydlu.
  • Ni thelir taliad premiwm ar y tiroedd hyn gan y byddwch yn parhau i gynhyrchu cynnyrch amaethyddol arnynt a bod gofyn i’r coed ymsefydlu fel system amaeth-goedwigaeth am pum mlynedd ar ôl eu plannu.  
  • Rhaid cadw’r tir o dan system amaeth-goedwigaeth am bum mlynedd ar ôl blwyddyn sefydlu’r coed.
  • Bydd gofyn ichi gadw dyddiadur stocio i gofnodi’r lefelau pori bob blwyddyn. Bydd rhaid i’r cofnodion yma gael ei cynnal ar lefel caeau dros gyfnod llawn y contract
  • Bydd disgwyl i’r tir sy’n cael ei blannu o dan y Mesurau Amaeth-Goedwigaeth fodloni’r rheolau traws gydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys cadw’r tir mewn cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da. Gallech gael eich cosbi am dorri’r safonau. 
  • Os ydych yn plannu coed ar wasgar ar gae o dan y mesur Amaeth-Goedwigaeth, bydd y cae hwnnw’n dal i fod yn gymwys am BPS, ond rhaid tynnu arwynebedd y coed sydd wedi’u ffensio o arwynebedd y cae, a chyn belled â bod llai na 100 o goed gwasgaredig, gan gynnwys y coed oedd yno eisoes. Bydd angen didyniad am boncyffion os yw’r arwynebedd a gaiff ei gyflenwi gan y boncyffion yn fwy na 50 metrau sgwar. Darllenwch lyfryn rheolau’r diweddaraf SAF i weld sut mae asesu caeau â choed.

Categori o goetir, y manyldebau a chyfraddau grant cynllun creu coetir Glastir

Tabl 1
Categori o GoetirRhif Gwaith Cyfalaf GlastirManylebauTaliad plannu newydd
£ yr ha
Taliad Cynnal Blynyddol
£ yr ha
Taliad Premiwm Blynyddol
£ yr ha
Coetir Cymysg Gwell803
  • O leiaf 5 prif rywogaeth (o leiaf 10% o bob un)
  • O leiaf 25% yn goed llydanddail, g.g. llwyni prennaidd
  • Llwyni prennaidd ddim yn fwy na 10%
  • Dim un rhywogaeth unigol yn fwy na 50%
  • Dwysedd stocio 2,500/ha
  • Eithrio Da Byw
3,60060
(12 mlynedd)
350
Coetir Brodorol - Carbon802
  • Cymysgedd o rywogaethau brodorol
  • Stoc plannu o darddiad addas*
  • Caniateir hyd at 20% o lwyni prennaidd
  • Dwysedd stocio 2,500/ha
  • Eithrio Da Byw
  • Rhaid ichi gofrestru’ch cynllun plannu newydd gyda’r Cod Carbon Coetiroedd. .
4,50060
(12 mlynedd)
350
Coetir Brodorol – Bioamrywiaeth801
  • Rhywogaethau brodorol – dylai’r cymysgedd fod yn frodorol i’r safle a dylid cadw at Gynllun Gweithredu’r Cynefin (coed deri’r ucheldir, gelltydd collddail cymysg yr iseldir), ond efallai y bydd amodau lleol yn gofyn yn wahanol.
  • Stoc plannu o darddiad addas*
  • Caniateir hyd at 20% o lwyni prennaidd
  • Gwasgariad clystyrog  – bylchau rhyngddynt yn amrywio
  • Dwysedd stocio 1,600/ha
  • Eithrio Da Byw
3,00060
(12 mlynedd)
350
Amaeth-Goedwigaeth – coed gwasgaredig804
  • 80 o goed yr hectar
  • Ddim yn gymwys am grant ffensio
  • Ddim yn gymwys am y taliad Premiwm
1,60030
(5 mlynedd)
N/A
Ffensio595Ffens postyn a weiren a netin ar gyfer stoc3.48/metr  
Nodiadau ynghylch Tabl 1
  • Mae map cyfleoedd creu coetir, sydd yn dangos rhwystredigaethau sensitifeddau sydd yn gysylltiedig a’r safle plannu ar gael ar Wefan MapDataCymru.
  • Mae canllawiau cymorth ar gyfer GWC hefyd ar gael ar Wefan CNC.
  • Rhaid dewis coed sy’n addas i amodau’r safle. Peidiwch â phlannu coed llarwydd, onnen neu goed eraill sy’n cael eu bygwth gan glefyd.
  • Dilynwch canllawiau dalgylchoedd sy’n sensitif i asid ar wefan CNC mewn dalgylchoedd sy’n sensitif i asid sydd mewn risg ac yn methu.
  • Ni ddylai mwy na 10% o’r coed ar lan afon sydd o risg / neu yn methu dalgylchoedd sy’n sensitif i asid fod yn goed gwern, hynny am eu bod yn gallu cyfrannu at asideiddio.
  • Mae coed (diamedr o 8cm neu drosodd) a prysg (ardaloedd o goed sydd heb ffurfio’n llawn a llwyni sydd yn anaddas ar gyfer trosi i bren) sy’n bodoli’n barod yn gynefin pwysig a ni ddylai gael ei glirio cyn plannu. Bydd angen Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (amaethyddol) i gael gwared o’r rhain cyn cychwyn y gwaith.
  • Os darganfyddir fod cynefinoedd y rhoddir blaenoriaeth iddynt ar y tir a bwriedir plannu arno wedi ei gwellan amaethyddol ôl 2002, heb ganiatâd Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) ar y pryd, bydd y cais GWC yn cael ei gwrthod.

Taliad Premiwm

Taliad arwynebedd yw’r Taliad Premiwm. Ei fwriad yw digolledu ffermwyr am yr incwm maen nhw’n ei golli drwy ddarfyddiad cynhyrchu amaethyddol. Mae taliad o £350/ha ar gael am 12 mlynedd. Nid yw ar gael ar gyfer yr opsiwn Amaeth-Goedwigaeth.

I gael taliad Premiwm, rhaid cyflwyno SAF blynyddol trwy RPW ar-lein a hawlio ar bob cae cymwys sydd yn eich contract.

Taliad Cynnal

Taliad i ofalu am y coed newydd am 12 mlynedd y contract yw’r Taliad Cynnal. Mae taliad o £60/ha ar gael am 12 mlynedd. Cynigir y taliad am 5 mlynedd o dan y categori Amaeth-Goedwigaeth ond nid oes modd ei dalu ar gyfer tir cyhoeddus. 

I fod yn gymwys ar gyfer hawlio taliad Cynnal, bydd angen i chi gyflwyno SAF yn flynyddol drwy eich cyfrif RPW Ar-lein a hawlio yn erbyn pob cae sydd oddi fewn eich contract.

Mae Cynnal yn cynnwys chwynnu, plannu coed newydd yn lle’r rhai sy’n marw ac archwilio’r coed yn rheolaidd. Bydd angen ichi gadw dyddiadur gwaith i gofnodi’r gwaith cynnal rydych yn ei wneud bob blwyddyn. Rhaid i’r cofnodion yma gael ei cynnal ar lefel caeau dros gyfnod llawn y contract.

Rydym yn disgwyl ichi gynnal y coed rydych wedi’u plannu yn unol â’r arferion cyffredin a chynaliadwy ar gyfer rheoli coed. Rhaid amddiffyn y coed rhag difrod, gan chwyn, pryfed, plâu ac anifeiliaid pori, fel cwningod, ysgyfarnogod ac, ar gyfer amaeth- goedwigaeth, defaid. Bydd disgwyl ichi chwynnu’n achlysurol a phlannu coed newydd yn lle coed marw. Pan fyddwn yn archwilio’ch coed, byddwn yn disgwyl gweld eu bod wedi cydio’n briodol. Dylent gynyddu’n rhesymol yn eu huchder bob blwyddyn fel eu bod 5 – 6 troedfedd (1.5 – 1.8m) o daldra neu fwy erbyn eu bod yn 5 oed. Ni ddylai fod chwyn o gwmpas bôn y goeden am y dair mlynyddoedd cyntaf yn dilyn hawliad gwaith cyfalaf am blannu. Ni ddylai fod olion pori arni nag olion bod da byw wedi bod yn pori ar dir di-stoc. Dylech blannu coed newydd yn lle’r rhai sy’n methu. Cewch gyngor ar sut i ofalu am eich coed ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Yr arwynebedd lleiaf ar gyfer y gwaith plannu newydd

  • Rhaid i’r llain ar gyfer plannu coed newydd fod o leiaf 0.25ha o faint i fod yn gymwys am gymorth GWC, a gellir gynnwys blociau unigol o goed sydd ddim llai na 0.1ha.
  • Nid oes lled lleiaf ond rhaid ffensio’r coed a’u hamddiffyn rhag porwyr a rhaid i ddyluniad y coetir fod yn gyson â’r Safon Goedwigaeth.
  • Caiff y safle o goed newydd fod mor fawr ag yr hoffech iddo fod.

Cadw stoc allan

Os yw’n ofyniad cadw da byw allan, rhaid gofalu nad oes stoc ar safle’r coed newydd am oes eich contract GWC.

Llennyrch

Os oes gennych ddarnau agored gwasgarog o dir, heb eu plannu na’u mapio (llai na 0.1ha) ar eich safle plannu, cyn belled nad ydynt yn fwy na 15% o’i arwynebedd, cewch eu cynnwys. Os yw’r llennyrch hynny’n fwy na 0.1ha o faint, rhaid eu mapio a pheidio a’u cynnwys wrth gyfrif arwynebedd eich safle ond rhaid eu nodi ar eich cynllun rheoli Creu Coetir. Bydd gofyn ichi blannu’r coed yn dynnach at ei gilydd mewn ambell fan i wneud i fyny am y darnau sydd heb eu plannu ac i sicrhau’ch bod yn plannu’r nifer gofynnol o goed yn unol a’ch contract (gweler Tabl 2).

Bylchau rhwng coed yn ôl y ganran sy’n llennyrch dwysedd stocio o 2,500 o gyffion yr hectar (Cymysgedd brodorol Carbon a choetir cymysg gwell)

Tabl 2
% yn llennyrchBylchau m x mCyffion/ha yn yr arwynebedd net
0%2.002,500
5%1.952,631
10%1.902,777
15%1.842,941

 

Dwysedd stocio o 1,600 o gyffion yr hectar (Coetir Brodorol – Bioamrywiaeth)

Tabl 3
% o dir agoredBylchau m x mCyffion/ha yn yr arwynebedd net 
0%2.501,600
5%2.441,684
10%2.371,778
15%2.301,882

Coed a llwyni sy’n bod eisoes

Mae gwerth amgylcheddol mawr i’r coed a’r llwyni sydd eisoes yn tyfu ar y safle ac ni ddylech eu clirio ar gyfer plannu coed newydd ond dylech eu hymgorffori yn eich cynllun plannu. Bydd angen ichi fapio prysglwyn a coed gwasgaredig fel llennyrch os oes mwy na 0.1ha.

Adran D – sut i wneud cais

Cyflwyno Datganiad o Diddordeb (DOD)

Argaeledd o gyngor anffurfiol can CNC cyn cyflwyno DOD

Mae’r map cyfleoedd creu coetir yn dangos holl gyfyngiadau a sensitifrwydd sydd yn gysylltiedig gyda safle’r plannu newydd ac ar gael ar Wefan MapDataCymru. Mae rhain yn amlygu lle fydd plannu yn fwy addas, neu lle fydd angen ymgynghoriad ar eich bwriadau plannu.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu i’r map Cyfleoedd Coetir fod yn gyfarwyddeb derfynol ar gyfer priodoldeb plannu newydd. Lle na ellir y map fod yn derfynol, mae yn helpu i ddynodi ardaloedd lle mae’n debygol fydd sensitifrwydd dros blannu fel medr ymgeiswyr ystyried a mynd i’r afael a’r rhain yn eu cais. Mae hefyd yn darparu cyngor ar ardaloedd o gyfleoedd ar gyfer Coetir, lle yr ydym yn bwriadu dylid ategu ac, mewn amser, gael eu cyfuno gyda’r cyd-destun o ddatganiadau ardaloedd.

Eich Cynlluniwr Cofrestredig ddylai fod eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor. Fe ellir eich Cynlluniwr Cofrestredig ymgynghori gyda CNC ar eich rhan ynglŷn a eich bwriadau plannu. Mi fedri’n nhw gynghori ar y maint, safle ac opsiynau plannu priodol ar gyfer eich bwriadau.

Yn ogystal, gall eich Cynlluniwr Cofrestredig ofyn i CNC gario allan arolwg o’r ddesg yn erbyn yr haenau mapio sydd ar gael yng nghyfnod y DOD. Mae’r cyngor fydd ar gael yn y cyfnod yma yn gyfyngedig i arolwg o’r ddesg ar unrhyw gyfyngiadau mwyaf i blannu yn unig, yn erbyn gosodiadau data sydd yng ngafael CNC. Cawn eu arlwyo ar sail anffurfiol ar y dealltwriaeth fydd angen ymgynghoriad pellach yn ystod y broses Cynllun Creu Coetir fel sydd yn y Canllaw Cynlluniwr GN002 a Rheolau GWC11.

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein

Mae’n rhaid i chi gysylltu a cynlluniwr cofrestredig i gyflwyno DOD ar eich rhan. Caiff DODau sydd ddim wedi eu cyflwyno gan cynllunwyr cofrestredig  eu gwrthod. Bydd eich cynlluniwr cofrestredig yn ceisio am GWC trwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.

Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Gwener 9:00 – 16:00) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

Ar ôl ichi gofrestru, bydd eich cynlluniwr cofrestredig yn gallu mynychu ei’ch cyfrif RPW Ar-lein. Fe welwch ffurflen DOD yn GWC yn yr adran Ceisiadau a Hawliadau o eich cyfrif.

Bydd cynlluniwr cofrestredig yn gweithio ar eich rhan, felly bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech lenwi’r ffurflen Manylion Asiant / Undeb Ffermwyr (Cymru) ar unwaith. Ar ôl i’r ffurflen ein cyrraedd, byddwn yn anfon CRN Asiant ato a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Bydd gofyn llenwi Ffurflen Ganiatâd Cymdeithasau hefyd i gytuno ar rolau’r cleient. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Am fwy o wybodaeth ar RPW Ar-lein a sut i gyflawni DOD yn GWC ewch at Grantiau a thaliadau gwledig

Y broses Ddewis

Bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio gwybodaeth ddaearyddol i roi sgôr i bob ymgeisydd sy’n Mynegi Diddordeb. Bydd y sgôr yn seiliedig ar ffiniau’r caeau rydych wedi’u cynnwys yn eich ffurflen mynegi diddordeb. Y rheswm am hyn yw am na ellir penderfynu’n derfynol ar ddiwyg a dyluniad y coetir tan i’r cynllun rheoli gael ei lunio yn ddiweddarach yn y broses.  Caiff pob cae ei asesu yn ôl nifer o haenau mapio sy’n cynrychioli’r cyfleoedd a ddaw yn sgil creu’r coetir. Bydd map pdf yn dangos y sgôr posibl o greu coetir ar gael ar-lein. Caiff yr haenau sgorio eu newid o dro i dro i adlewyrchu unrhyw wybodaeth newydd a geir am y cyfleoedd i greu coetir ac wrth gaboli’r dystiolaeth y mae’r haenau’n seiliedig arni.

Maer ffurflen Mynegi Diddordeb yn cael ei asesu yn erbyn bob haenen GIS ac mae sgôr yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar y safle sydd yn croestorri a’r haenen, a gaiff ei gyfrifo yn defnyddio’r fformiwla dilynol:

Arwynebedd o’r Haenen Amcan* x pwysiad haenen  = Sgôr
Arwynebedd Mynegiant o Ddiddordeb

*oddi fewn yr ardal o Fynegi Diddordeb

Mae’r cyfrifiad yn cynnwys pob haenen GIS mae'r ardal o Fynegi Diddordeb yn croestorri. Mae’r sgôr a gyflawnir ar bob haenen wedyn yn cael ei adio gyda’i gilydd i roi'r sgôr cyflawn i’r ffurflen Mynegi Diddordeb. Mae ffurflen Mynegi Diddordeb sydd yn croestorri a mwy o haenau amcanion, yn enwedig haenau blaenoriaethau uchel, yn mynd i hel sgôr uwch.

Mae pob ffurflen Mynegi Diddordeb yn cael ei graddio yn ôl y sgôr cyflawn a gyflawnir ac fe fydd y rhai sydd yn sgorio uchaf yn cael ei dewis, ble maent yn sgorio’n uwch na’r isafswm drothwy, a'u prosesu, yn unol ag argaeledd cyllideb. Manylion pellach ar y broses sgorio.

Unwaith gaiff y broses ddewis ei gyflawni, caiff llythyr ei yrru i'ch cyfrif RPW Ar-lein yn cadarnhau os cawsoch eich dewis ar gyfer y rownd yma o GWC ag yn eich hysbysu o eich cwrs nesaf o weithredu.

Cynnig o Gontract

Os caiff eich DOD ei ddewis, cewch gynnig o gontract ynghyd a’r cynnig o ddewisiad, lle bydd angen i chi dderbyn neu wrthod drwy eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr.

Bydd y contract yn cael ei ddyroddi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein ac yn cynnwys:

  • Tabl yn cadarnhau y caeau, opsiynau plannu GWC ac arwynebedd o’r plannu a fwriedir fel a ddatganwyd yn eich DOD a wiriwyd gan Llywodraeth Cymru.
  • Map mewn ffurf ffeil siâp o’r tir a ddatganwyd a wiriwyd ar y DOD.

Os yr ydych yn dymuno cario ymlaen gyda eich bwriadau plannu bydd angen i chi dderbyn y cynnig o gontract drwy eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn 7 diwrnod o’r cynnig. Os derbyniwch y contract yma, ni fedrwch gychwyn y gwaith h.y. cychwyn unrhyw waith sefydlu neu ffensio gwaith cyfalaf yr ydych yn bwriadu hawlio amdano.

Unwaith eich bod wedi derbyn contract, fedrwch nawr weithio gyda eich cynlluniwr cofrestredig i ddylunio eich bwriadau plannu ac i gyflawni cynllun GWC ar gyfer ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru

Os wnewch chi wrthod, neu fethu ac ymateb i’r cynnig o ddewis, wedyn caiff eich Datganiad o Ddiddordeb GWC ei dynnu’n ôl a ni fyddwch yn gymwys i gyflwyno Cynllun Creu Coetir i Llywodraeth Cymru ar gyfer gwiriad gan CNC.

O na fydd eich DOD yn llwyddiannus, cewch eich hysbysebu drwy eich cyfrif RPW Ar-lein gyda rheswm pam na cawsoch eich dewis.

Cyflwyno’r Cynllun Creu Coetir

Unwaith yr ydych wedi derbyn y cynnig o gontract, bydd gofyn ichi ddewis cynlluniwr cofrestredig o’r rhestr cyhoeddedig i baratoi cynllun GWC. Mae cymorth o £800 ar gael fel cyfraniad tuag at ffioedd y cynlluniwr cofrestredig, cyn belled â bod eich cynllun yn cael ei gymeradwyo’n llwyddiannus gan NRW a gaiff y plannu ei gwblhau fel a danlinellir yn y contract.

Bydd y cynlluniwr cofrestredig yn cwblhau’r cynllun GWC fydd yn disgrifio’r broses ar gyfer asesu, cynllunio a chreu coetir newydd, gan gynnwys system amaeth-goedwigaeth, yn unol â’r UKFS a rheolau GWC. Rhestr o gynllunwyr cofrestredig. Mae’n ofyniad i chi ac i’r Cynlluniwr Coetir Glastir cofrestredig i arwyddo a chytuno y cynllun GWC cyn ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru i gael ei wyrio gan CNC.

Byddwn wedi darparu ffeil siâp o’r caeau rydych wedi’u nodi ar eich DOD gyda eich contract, bydd yn galluogi eich cynlluniwr cofrestredig i ddylunio eich cynllun.

Bydd angen i’r ffeil siâp gael ei ddiwygio gyda eich bwriadau plannu a ffensio gan eich cynlluniwr cofrestredig drwy ei System Gwybodaeth Daearyddol (GIS). Bydd angen dychwelyd y ffeil siâp diwygiedig i Llywodraeth Cymru ynghlwm a’r cynllun orffenedig a’r holl dogfennau ategol eraill.

Bydd templed y Cynllun GWC, y canllawiau a’r canllaw mapio i gyd ar gael ar RPW Ar-lein. Ni fyddwn yn gallu gweithio ar dempledi na mapiau eraill, felly peidiwch â’u hanfon atom. Byddwn yn gorfod eu gwrthod.

Yn ystod cyfnod y Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig (2014-2020), gallwch wneud cais am grant i baratoi dau gynllun GWC gan ddefnyddio’r un CRN. 

Gwnaiff Llywodraeth Cymru ond ariannu 2 Cynllun Creu Coetir fesul Cwsmer. Os yr ydych wedi derbyn 2 daliad am hawliadau Gynllun Creu Coetir, medrwch cario mlaen a mynegi diddordeb eto ond ni fyddwch yn gymwys i dderbyn taliadau am ffioedd olynol a godir gan eich Cynlluniwr.

Os yw eich CRN yn cynnwys nifer o ddaliadau gwasgaredig, mae’n bosibl y gallwn gytuno i dalu am gynlluniau rheoli ar gyfer ffermydd gwahanol o fewn eich daliad. Cysylltwch â Llywodraeth Cymru trwy’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 0625004.

Ymgynghori

Mae GWC yn gofyn am ymatebion ymgynghori gan ymgynghorwyr statudol e.e. CADW a ymgynghorwyr ân-statudol e.e. Ymddiriedolaeth Archeolegol, os wnaiff sensitifrwydd gwympo oddi fewn neu yn gyfagos i’r ardal arfaethedig creu coetir. Bydd angen i’r cynlluniwr coetir ddarparu caniatâd oddi wrth y cyrff perthnasol pan yn plannu oddi fewn safle dynodedig, megis Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA/SSSI) neu Heneb Restredig (SAM). Efallai y bydd angen caniatâd arall arnoch os gallai’ch cais effeithio ar nodwedd fel rywogaeth sy’n cael ei gwarchod neu gorff dŵr. Mae nodyn Canllaw GN002 yn rhoi gwybodaeth ar phwy ac at ba gyfnod o’r broses.

Cyfranogiad y Cyhoedd

Mae cysylltu a cymdogion sydd a diddordeb, yn enwedig cymdogion agos, yn gynnar yn y broses cynllunio creu coetir yn gyfle i ddarparu gwybodaeth ar y cynnig ac osgoi y potensial am groestynnu. Eich cyfrifoldeb chi yw hi i sicrhau fod y lefelau priodol o ymgynghori gyda’r cyhoedd wedi cymryd lle, hyd yn oed os yw’r cynlluniwr yn gwneud hyn ar eich rhan. Ni wnaiff Llywodraeth Cymru na CNC ymgynghori a trydydd partïon yn uniongyrchol, dim ond lle bod pryderon cyfranogiad y cyhoedd wedi methu cael eu datrys.

Dylai hyn gynnwys ymgynghoriad gyda unigolion sydd a eiddo sydd yn ffinio a’r plannu newydd. Mae’n rhaid darparu tystiolaeth i CNC fod cynnig rhesymol ac addas wedi ei wneud i gysylltu a’r unigolion yma, fel ysgrifennu llythyr a rhoi 28 diwrnod i ymateb. Os oes rheswm da am beidio ymgynghori perchennog tir sydd yn ffinio, mae’n rhaid i’r rheswm gael ei draethu’n glir pan gaiff y cynllun ei gyflwyno.

Mae digwyddiad cyfranogiad y cyhoedd yn argymhelledig ar gyfer cynlluniau creu coetir, yn enwedig ble mae’r cynllun wedi ei leoli yn agos i gymuned. Mae hyn yn gyfle da i hysbysu pobl lleol ynglŷn a’r cynllun creu coetir yn ystod cyfnod cynnar y broses dylunio a darparu gwybodaeth, yn cynnwys mapiau a bwriad plannu. Fe fydd gennych chi neu y cynlluniwr coetir yr hyblygrwydd i wneud newidiadau i’r bwriad os oes unrhyw pryderon dilys penodol e.e cyflenwadau dwr preifat, llwybrau a ddefnyddir yn aml.

Os yw’r cynllun creu coetir dros y drothwy Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA), mae angen i chi neu’r cynlluniwr coetir hysbysu’r Cyngor Cymuned neu Plwyf am eich cynllun creu coetir y cyfle cyntaf bosib. Mae hefyd yn argymhelliad i chi gyfranogi a grwpiau gyda diddordeb e.e. cymdeithasodd pysgota lleol a grwpiau “Ffrindiau o” cymunedol.

Mae angen cwblhau cyfranogiad y cyhoedd cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno. Bydd angen i chi, neu’r cynllunydd sydd yn gweithio ar eich rhan, gynnwys adroddiad ar gyfranogiad y cyhoedd ynghlwm a’ch cynllun. Dylai hwn amlinellu pryd y gwnaethoch chi neu’r cynllunydd ymgynghori gyda unigolion neu grwpiau sydd a diddordeb, sut ymgynghorwyd a nhw (e.e. digwyddiad cyhoeddus, taflenni, ar garreg y drws), hyd y cyfnod ymgynghori a phwy wnaeth ymateb.

Lle ni fedrir ateb pryderon unrhyw barti sydd a diddordeb cyn cyflwyno Cynllun GWC i Llywodraeth Cymru ar gyfer ei wirio gan CNC, dylai eu cynnwys ynghlwm a’r cynllun, gyda’r rheswm pam na fedrir ei ateb. Bydd CNC yn ystyried pryderon y parti arall, ac yn, efallai drwy drafod gyda eraill, yn cynghori os yw y pryderon yn ddilys a’i peidio.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA)

CNC yw’r corff coedwigaeth priodol ar gyfer Rheoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999 (Cymru a Lloegr) (Diwygiad) (fel a diwygiedig). Mae cynlluniau GWC sydd ar neu dros trothwy yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol angen barn Asesiad Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) gan CNC cyn feder blannu gychwyn. Unwaith caiff gwiriad ei gwblhau, bydd Tim Rhaglen Coetir yn pasio eich cynllun GWC ac unrhyw ddogfennau ategol ymlaen i Gwasanaeth Trwyddedu CNC yn awtomatig, a fydd yn asesu’r prosiect ac yn anelu i eich hysbysu o’r penderfyniad os yw’r prosiect angen caniatâd EIA o fewn 28 diwrnod.

Mae’r rheoliadau’n pennu trothwyon ac os fydd unrhyw newidiadau sylweddol rhwng mynegi diddordeb a cynnig contract mae’n bosib caiff y cynnig ei dynnu’n ôl. Caiff unrhyw niwed amgylcheddol ei gyfeirio i’r awdurdod perthnasol.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod arian y RhDG yn cael ei reoli’n effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl ichi baratoi cynllun rheoli Creu Coetir a’i gyflwyno i ddilysydd y GWC gan roi digon o amser sy’n sicrhau gall y plannu cael ei gwblhau o fewn y dyddiad terfyn i hawlio, 31 Mawrth 2023.

Cyflwyno’ch Cynllun Creu Coetir Glastir i Llywodraeth Cymru ar gyfer gwiriad gan CNC

Dim ond un cynllun GWC y gewch gyflwyno i Llywodraeth Cymru ar gyfer gwiriad gan CNC. Pan yn arwyddo datganiad eich cynllun GWC bydd rhaid i chi sicrhau fod y cynllun GWC wedi ei gwblhau yn llawn ym mhob ystyriaeth ac ei fod yn adlewyrchu’n gywir eich bwriadau plannu. Cyn cyflwyno, bydd angen i chi, neu Asiant awdurdodedig yn gweithio ar eich rhan, ac eich cynlluniwr cofrestredig arwyddo y cynllun GWC orffenedig.

Rhaid cyflwyno’ch cynllun GWC, y ffeil siâp wedi’i farcio ac unrhyw ddogfennau ategol i Llywodraeth Cymru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Fe wnaiff Llywodraeth Cymru yrru eich cynllun GWC ymlaen i CNC ar gyfer gwirio.

Bydd angen i’r cynllun GWC orffenedig, y ffeil siâp wedi ei farcio ac unrhyw ddogfennau ategol arall gael eu cyflwyno i Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad a benodir yn y llythyr cynnig o gontract a fyddwch yn derbyn drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Fe fydd amserlen o 8 wythnos yn cael ei rhoi o’r dyddiad cynnig ar gyfer y ffenestr yma o GWC. Fe gaiff eich contract ei dynnu’n ôl os nad yw eich cynllun wedi ei gyflwyno erbyn y dyddiad terfyn.   

Gaiff y cynlluniwr cofrestredig ofyn i CNC arlwyo adborth ynglŷn a eich bwriadau plannu cyn i’r cynllun orffenedig gael ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru. Ddylech chi drafod yr adborth gyda eich cynlluniwr cyn penderfynu cyflwyno eich cynllun orffenedig.

Bydd methiant i gwrdd a unrhyw o’r anghenion yma yn arwain i’r cynllun gael ei wrthod gan Llywodraeth Cymru.  

Gwirio’ch cynllun Creu Coetir Glastir

CNC fydd yn gwirio’ch cynllun GWC gorffenedig. Rhaid i’r Cynllun Creu Coetir:

  • Gydymffurfio â Safonau Goedwigaeth y DU - UKFS
  • Rhoi gwerth ein harian inni.
  • Adlynu at reolau’r cynllun GWC.

I gefnogi’r broses yma, mae gan CNC ystod eang o bolisïau a chanllawiau i gefnogi cydymffurfiad cynlluniau GWC. 

Diwygiad o gontract yn dilyn gwiriad o eich cynllun GWC

Unwaith caiff eich cynllun GWC ei wirio can CNC, ac yna ei gymeradwyo gan Llywodraeth Cymru efallai byddwn yn cynnig contract diwygiedig GWC sydd wedi ei seilio ar eich bwriadau plannu gywiriedig yn eich cynllun. Bydd gofyn i chi gytuno’r contract ar lein drwy ddefnyddio’r botwm coch o fewn 14 diwrnod.

Mae’r cyfleuster Derbyn Ar-lein yn cael ei ddefnyddio i alluogi Cwsmeriaid i dderbyn eu Contract drwy eu cyfrif RPW ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi actifadu eich cyfrif ar-lein erbyn galluogi chi i dderbyn ar-lein. O ganlyniad, os y dymunir, medrwch awdurdodi Asiant i dderbyn contract ar eich rhan.

Os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’ch cais neu os na fyddwch yn dychwelyd y contract mewn pryd, ni fyddwch yn cael gwneud cais am grant GWC am ddwy flynedd oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno o flaen llaw i addasu telerau eich contract.

Os byddwch yn tynnu'n ôl o'r contract cyn dyddiad ola’r contract, sef fel arfer 12 mlynedd ar ôl y flwyddyn pan gafodd y gwaith cyfalaf ei gwblhau, bydd yn rhaid ichi ad-dalu'r holl arian rydych wedi'i gael o dan gontract GWC, gyda’r llog. Yn ogystal, ni fyddwch yn cael gwneud cais am ddwy flwyddyn.

Dechrau ar y Gwaith

Ni ddylai dalwyr contract gychwyn unrhyw waith cyn derbyn map contract a wirwyd sydd yn cadarnhau y safleoedd yw plannu yn dilyn gwiriad gan CNC. Os gwelir eich bod wedi dechrau ar y gwaith cyn ichi dderbyn y map yma, bydd Llywodraeth Cymru efallai'n gwrthod y gwaith sydd wedi'i ddechrau neu'n terfynu'r contract a bydd yn rhaid ichi ad-dalu unrhyw daliadau rydych wedi’u derbyn. Enghraifft bod gwaith wedi’i ddechrau yw plannu heb i’r map contract sydd yn cynnwys y safleoedd plannu gwiriedig gael ei gyflwyno.

Crynodeb o’r cyfnodau allweddol o’r Cais Glastir Creu Coetir – cyfeiriwch at Adran D - Sut i wneud Cais am ganllawiau manwl ar pob cyfnod o’r broses cais

Cyfnodau allweddol
DOD
  • Cysylltu a Cynlluniwr Cofrestredig GWC i drafod eich bwriadau plannu cyn cyflwyno DOD
  • Cynlluniwr Cofrestredig yn cwbwlhau DOD GWC drwy RPW Ar-lein o fewn dyddiadau ffenestr DOD.
Dewisiad a Cynnig o Gontract
  • Gwirio a sgorio data'r DOD. Canlyniad dewisiad yw gyflwyno ynghyd a'r cynnig o gontract i ymgeiswyr llwyddiannus drwy RPW Ar-lein.
  • 7 diwrnod i dderbyn/wrthod y cynnig o gontract drwy RPW ar-lein.
Cynllun a Gwiriad
  • Os derbynir y contract, ymgeisydd a cynlluniwr i baratoi cynllun GWC a'i gyflwyno gyda feiliau siap i Llywodraeth Cymru drwy RPW Ar-lein o fewn 8 wythnos.
  • Llywodraeth Cymru i yrru y cynllun i CNC ar gyfer gwirio.
Contract diwygiedig
  • CNC i ddychwelyd y cynllun wedi ei wirio i Llywodraeth Cymru. Os yr awdurdodir, all contract diwygiedig gael ei gynnig drwy RPW Ar-lein yn cadarnhau y bwriadau a wirwyd gan CNC.
  • 14 diwrnod i dderbyn / gwrthod contract trwy'r botwm glas.
Cychwyn Gwaith a Hawlio
  • All gwaith ond gychwyn ar ol i map sydd yn cadarnhau yr arwynebedd a wirwyd gael ei gyflwyno gan Llywodraeth Cymru. Bydd angen i'r gwaith cyfalaf gael ei gwbwlhau a'i hawlio erbyn dyddiadau a gadarnhawyd yn eich contract GWC.

Hawlio Taliad

Cefnogaeth Cynllun Creu Coetir

I fod yn gymwys am daliad gymorth o £800 mae’n rhaid i gynllun a ddilyswyd arwain at blannu ar ôl i gontract GWC gael ei derbyn.

Unwaith mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno eich map gyda’r safleoedd yw plannu i chi, fe fyddan yn gyrru ffurflen hawlio Cynllun GWC drwy eich cyfrif RPW ar-lein. Bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen. Unwaith fydden yn derbyn y ffurflen yn ôl, bydd eich hawliad yn gael ei phrosesu a’i thalu drwy BACS.

Os na chaiff y plannu ei gwblhau, fel a nodir oddi fewn y contract, fe fydd Llywodraeth Cymru yn adennill y taliad. Yn o gystal, yn dilyn rheolau cyfredol y cynllun, ni fydd daliwr y contract yn gymwys i fynegi diddordeb pellach yn GWC am gyfnod o 2 flynedd gan nad yw’r plannu wedi digwydd.

Os caiff y cynnig o gontract ei wrthod neu ni dderbynnir ymateb i’r cynnig, ni fydd yr cynllun dilys yn gymwys am gefnogaeth.

Bydd cymorth am Cynllun Creu Coetir ond yn cael eu prosesu ar gyfer taliad wedi 1 Ebrill 2022.

Hawlio Taliad Gwaith Plannu Newydd

Caiff hawliadau gwaith cyfalaf eu gwneud drwy yr system Hawlio Gwaith Cyfalaf drwy eich cyfrif RPW Ar-lein ac ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Mae taliadau gwaith cyfalaf GWC yn cael eu talu ar radd safonol. Bydd angen i waith cyfalaf a gwblhawyd erbyn y 31 Mawrth 2023 hefyd gael ei hawlio drwy RPW Ar-lein erbyn 30 Mehefin 2023.

Bydd y prosesu o hawliadau gwaith cyfalaf GWC 11 hefyd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2022.

Hawlio Taliad Cynnal a Thaliad Premiwm

Taliad arwynebedd yw’r taliadau hyn, a rhaid eu hawlio bob blwyddyn ar y SAF. Byddwch yn gymwys i hawlio’ch taliad cynnal a phremiwm cyntaf yn y flwyddyn galendr gyntaf ar ôl blwyddyn plannu’r coed. Y dyddiad cau bob blwyddyn ar gyfer cyflwyno SAF yw 15 Mai.  Mae ar gael ar RPW ar-lein. O dan rheolau Ewropeaidd, caiff y taliad ond ei wneud i’r rhai sydd yn berchen y contract.

Yn amodol ar gyhoeddi Rheoliadau Datblygu Gwledig newydd y Comisiwn Ewropeaidd ac unrhyw newidiadau i Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 o ganlyniad i newid y rheoliadau hynny, gallai’r contract GWC gael ei derfynu ddiwedd 2020 neu ar unrhyw adeg. Os gwneir hynny, ni fyddwn yn gofyn ichi ad-dalu unrhyw arian fydd wedi’i dalu ichi ond mae’n bosibl na chawn dalu rhagor ichi neu gallem wneud taliad pellach ichi ar raddfa grant wahanol am waith rydych eisoes wedi’i wneud ond nad ydych wedi cael eich talu amdano eto. Fedr cyfradd newydd o grant gael ei gyflwyno ar unrhyw adeg.

Rhanddirymiad

Mewn rhai amgylchiadau, mae posibilrwydd y medr caniatáu rhanddirymiad i addasu termau neu dynnu’n ôl o eich contract. Caiff ceisiadau ei asesu yn ôl ei theilyngdod os na fedrwch gyflawni’r holl, neu ran, o’r gwaith erbyn dyddiad cwblhau eich contract.

Rhaid ichi ofyn i Lywodraeth Cymru drwy eich cyfrif RPW ar-lein am randdirymiad cyn gynted ag bydd problem yn codi, ac mewn amser ddigonol i alluogi ystyriaeth cyfiawn.  Dylech hefyd roi tystiolaeth yn gefn i'ch cais am randdirymiad, yn cynnwys eich ymdrechion i gwblhau y gwaith yn ôl gofynion y contract.

Ble na chaiff rhanddirymiad ei derbyn, mae’n bosib bydd eich contract yn cael ei dynnu’n ôl ac adennill unrhyw daliadau a byddwch yn cael ei atal rhag mynegi diddordeb yn GWC am gyfnod o 2 flynedd.

Adran E – newid y contract

Trosglwyddo neu Werthu Tir sydd o dan Gontract

Wrth arwyddo’ch contract GWC, rydych yn gwneud ymrwymiad am 13 blynedd, neu 6 mlynedd yn achos y mesur Amaeth-Goedwigaeth. Os byddwch yn penderfynu gwerthu neu drosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod y cyfnod 13 neu 6 mlynedd o ymrwymiad, efallai y bydd gofyn ichi ad-dalu’r arian rydych eisoes wedi’i gael neu gael eich cosbi’n ariannol.

Os ydych am drosglwyddo contract GWC i feddiannydd newydd, rhaid cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Os ydy’r meddiannydd newydd yn dewis cymryd eich ymrwymiad oddi arnoch a bod y tir yn dal yn gymwys, rhaid i’r meddiannydd newydd gadw at yr ymrwymiad ar y tir hwnnw am weddill cyfnod y contract. Dylid gofalu fod y meddiannydd newydd yn gwybod am yr ymrwymiad cyn cytuno i gymryd y tir dan sylw.

Mae’r rheoliadau sydd yn ymwneud a’r cynllun yn atal trosglwyddant o gontract gwaith cyfalaf. Daliwr y contract fydd yr unig fusnes a fydd yn gallu hawlio’r gwaith cyfalaf GWC. Ni fedrir brosesu trosglwyddiad nes bod yr hawliad o waith cyfalaf wedi ei wirio a taliad wedi ei awdurdodi.

Ar ôl trosglwyddo neu werthu rhan o’r tir, rhaid i unrhyw dir rydych wedi’i gadw ac sy’n dal yn rhan o’ch contract gwreiddiol barhau i fodloni’r amodau o ran bod yn gymwys. Os nad yw, bydd gofyn ichi ad-dalu pob taliad a wnaed ar y tir hwnnw, ynghyd â’r llog. Os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu unrhyw dir sy’n rhan o’ch contract, yna rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru trwy lythyr o fewn 30 diwrnod ar ôl i hynny ddigwydd. O beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, byddwch yn debygol o gael eich cosbi.

Os byddwch yn trosglwyddo neu’n gwerthu tir sydd o dan gontract a bod Llywodraeth Cymru’n credu bod amcanion GWC wedi’u tanseilio o’r herwydd, gallai derfynu’r contract ac efallai y bydd yn rhaid ichi ad-dalu pob taliad ynghyd â’r llog.

Newid y Tir a’r Gofyn i’n Hysbysu am Newidiadau i’r Tir

Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Gallai’r newidiadau hynny gynnwys:

  • Cofrestru caeau nad ydynt wedi’u cofrestru gydag IACS o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF))
  • Rhannu caeau yn barhaol
  • Uno caeau yn barhaol
  • Newid ffiniau caeau
  • Newid nodweddion parhaol caeau.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy meddianwyr y tir gan gynnwys perchennog newydd neu denantiaeth newydd, yn newid.

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn drwy ddefnyddio cyflwyster Rheoli Fy Nhir (MML) ar eich cyfrif RPW ar lein cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd.

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Mae Rheoliadau Ewrop yn cael eu newid o dro i dro. Bydd yn rhaid ichi gydymffurfio â’r newidiadau hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanyn nhw.

Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Efallai weithiau, bydd angen newid eich contract yn cynnwys graddfa taliadau. Er enghraifft, efallai y bydd angen diweddaru’r amodau rheoli yn sgil ymchwil wyddonol newydd, newid rheolau’r cynllun yn sgil newidiadau i Gynllun Datblygu Gwledig Cymru neu bennu cyfraddau talu newydd. Byddwn yn cyhoeddi’r newidiadau yn Gwlad ar wefan Llywodraeth Cymru a lle bo gofyn, yn eich diweddaru drwy eich cyfrif RPW ar-lein.

Adran F – archwiliadau a chofnodion

Mae Llywodraeth Cymru’n gorfod gwneud yn siŵr bod ffermwyr yn cadw at reolau GWC. Bydd yn gwneud hynny trwy archwiliadau fferm, defnyddio’r Systemau Lleoli Byd-eang, dronau a lluniau o’r awyr a chan loeren.

Archwiliadau

Bydd angen i swyddogion archwilio gymeradwyo’r Gwaith Cyfalaf ar eich daliad a chadarnhau manylion y tir a chywirdeb unrhyw ddogfennau a chofnodion perthnasol.

Gellir cynnal archwiliadau unrhyw adeg o’r flwyddyn ac archwilir yr holl ymrwymiadau a rhwymedigaethau y bydd modd eu harchwilio adeg yr ymweliad. Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff gorfodi’n gwneud eu gorau glas i beidio â tharfu arnoch yn ormodol, ond mae rhai archwiliadau’n gorfod cael eu cynnal heb rybudd. Gall archwiliadau gael eu cynnal fwy nag unwaith mewn blwyddyn.

Os byddwch yn gwrthod caniatáu archwiliad neu’n rhwystro’r archwilydd neu’n peidio â rhoi cymorth rhesymol iddo, fe allech golli’ch taliad a chael eich erlyn.

Cadw Cofnodion

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybodaeth gyflawn a chywir i ni a’ch bod wedi cadw at eich ymrwymiadau am gyfnod llawn eich contract. 

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract GWC a hynny o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Darparu i Lywodraeth Cymru, ei phersonau â chaniatâd neu ei hasiantwyr, gofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys cyswllt â data cyfrifiadur sy’n ymwneud â’ch contract GWC. Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gymryd dogfennau neu gofnodion o’r fath i wneud copïau neu i godi darnau ohonyn nhw. 

Adran G – cosbau

Bydd ffermwyr yn cael eu cosbi pan fydd rheolau Glastir neu ofynion Gwaith Cyfalaf yn cael eu torri.

Hawliadau Blynyddol Cynnal a Premiwm

Tanddatgan

Os na fyddwch yn datgan holl dir amaethyddol eich daliad ar y SAF (yr holl dir rydych yn berchen arno a’r tir sydd gennych ar rent ac nid dim ond y tir sy’n dod o dan Glastir e.e. coetir/coedwigaeth, traciau, buarthau, arwynebau caled ac ati), gallai’ unrhywtaliadau Cynllun Datblygu Gwledig a BPS gael eu lleihau.

Gorddatgan

Os gwelir bod arwynebedd sydd wedi’i ddatgan ar gyfer Glastir ar eich SAF yn fwy na’r hyn sydd wedi’i weld mewn archwiliad, cewch eich cosbi am orddatgan. Cyfrifir y gosb gan ddefnyddio’r arwynebedd a gafodd ei ddatgan ar y SAF sy’n derbyn yr un gyfradd dalu (y cyfeirir atynt fel grwpiau cnydau).

Methiant i gyflwyno hawliad blynyddol drwy’r SAF

Os yr ydych yn methu cyflwyno eich hawliadau blynyddol cynnal a premiwm erbyn y dyddiad terfyn (fel arfer 15 Mai) bob blwyddyn, fe fydd yn destun i cosbau cyflwyno’n hwyr. Os yr ydych yn methu cyflwyno hawliad erbyn y dyddiad terfynol ar gyfer hawlio (fel arfer 9 Mehefin) fe gaiff ei wrthod – bydd canllawiau SAF yn cadarnhau y dyddiadau cyflwyno bob blwyddyn a ellir newid os ydynt yn cwympo ar benwythnos.

Torri’r Contract

Bydd archwiliadau gweinyddol ac archwiliadau fferm yn cael eu cynnal i weld a ydych yn torri contract Glastir ac os gwelir eich bod, cewch wybod trwy eich cyfrif RPW ar-lein. Lle gwelir eich bod wedi torri’r contract, byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr, parhaol ac ailadroddus oedd y tramgwydd.  Gellir cosbi taliadau’r blynyddoedd blaenorol hefyd.

Os bydd Llywodraeth Cymru’n credu bod y tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, gallai derfynu’ch contract. Mewn sefyllfaoedd difrifol iawn, gallai olygu hefyd eich gwahardd rhag ymuno â chynllun Datblygu Gwledig arall am hyd at ddwy flynedd.

Rydym yn asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n cyfateb i ymrwymiadau’r cynllun. Mae matrics cosbau wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbi a’r safonau dilysadwy i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cosbau’r Gwaith Cyfalaf

Os ydych yn hawlio taliadau nad ydynt seiliedig ar arwynebedd, er enghraifft gwaith cyfalaf, a bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu nad yw rhan o’r gost neu’r holl gost rydych wedi’i hawlio yn gymwys, ni chewch daliad am y costau anghymwys. Dylech ond hawlio am y gwaith sydd wedi ei gwblhau sydd yn gymwys, hyd yn oed os yw hyn yn llai na sydd yn y contract.

Os bydd y costau anghymwys yn fwy na 10% o’r costau cymwys, tynnir swm sy’n gyfwerth â chyfanswm y costau anghymwys oddi ar eich taliad.

Yn ystod archwiliad, caiff eich holl contractau GWC eu asesu; os caiff orddatganiad ei ddarganfod ar unrhyw hawliad a anfonir, yn cynnwys contractau gwahanol, bydd gorddatganiad cronnus yn cael ei weithredu os penderfynir fod y gost anghymwys yn 10% yn fwy na’r gost gymwys gyflawn.

Os bydd hawliad ffug yn cael ei wneud, neu os na wnaiff meddianwyr y tir roi’r wybodaeth angenrheidiol, bydd gwaharddiad ar daliadau ar gyfer y flwyddyn dan sylw a bydd yn rhaid ad-dalu unrhyw symiau sydd eisoes wedi’u talu y flwyddyn honno. Hefyd, byddwch yn cael eich gwahardd rhag cael cymorth o dan unrhyw gynllun Datblygu Gwledig - Amaeth-amgylcheddol a Choedwigaeth – yn ystod y flwyddyn galendr pan wnaed yr hawliad ffug a’r flwyddyn galendr ganlynol.

Torri’r safonau Trawsgydymffurfio

Eich cyfrifoldeb chi yw bodloni’r holl safonau Trawsgydymffurfio am y flwyddyn galendr lawn ar hyd oes eich Contract. Os na fyddwch yn bodloni’r gofynion rheoli statudol neu’r safonau cadw tir mewn cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, gallech golli’ch taliad Glastir am flwyddyn neu fwy. Wrth benderfynu o faint y caiff eich taliad ei leihau, byddwn yn ystyried pa mor fawr, difrifol, parhaol ac ailadroddus y bu’r achos o anghydymffurfio.

Adran H - y drefn apelio

Nid oes unrhyw sail i apelio os nad yw eich DOD yn cael ei ddewis.

Mae’r broses apelio yng Nghymru yn cynnig trefn apelio annibynnol ichi os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad cywir yn ôl rheolau Glastir.

Mae dau gam i’r broses apelio ffurfiol:

  • Cam 1: pennaeth y Swyddfa Ranbarthol leol i adolygu’r achos
  • Cam 2: Panel Apelio Annibynnol i adolygu’r achos (os bydd y ffermwr yn anhapus â’r penderfyniad yng Ngham 1). Bydd y Panel Annibynnol yn gwneud argymhelliad i’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd a fydd wedyn yn penderfynu’n derfynol ar y mater.

Daw’r broses apelio i ben pan gaiff penderfyniad y Gweinidog ei gyhoeddi. Nid oes tâl am gam cyntaf y broses ond codir tâl ar gyfer yr ail gam - £50 am wrandawiad ysgrifenedig a £100 am wrandawiad llafar. Bydd hwn yn cael ei dalu’n ôl i’r apeliwr os bydd ail gam y broses yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid ichi apelio i’ch Swyddfa Ranbarthol leol cyn pen 60 diwrnod o ddyddiad  y penderfyniad a allai effeithio ar eich taliad.

Cewch fwy o fanylion y broses apelio gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu drwy ymweld a wefan Llywodraeth Cymru.

Ble fydd Llywodraeth Cymru yn yn ystyried bod apêl oddi allan i cwmpas y broses annibynnol dau gam o apelio, bydd panel annibynnol arbenigol yn cael eu apwyntio i ystyried a gwneud argymhelliad i’r Gweindogion Cymru os yw sail yr apêl yn llwyddiannus, rhannol llwyddiannus neu aflwyddiannus.

Y Drefn Gwyno

Byddwn yn delio â chwynion o dan God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Adran I – Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol: hysbysiad preifatrwydd

Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ar Ffurflen y Cais Sengl (SAF) neu unrhyw ddogfen arall a ddefnyddir mewn cysylltiad â’ch cais am gymorth o dan daliad uniongyrchol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chynlluniau Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020. Mae’n esbonio hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Rheolydd data’r wybodaeth a gyflwynir fel rhan o SAF 2018 yw Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Swyddog diogelu data yr wybodaeth honno yw’r Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales

Bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn rheoli'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi iddi yn unol â'i hymrwymiadau a'i dyletswyddau o dan y Rheoliadau Ewropeaidd canlynol:

  • Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 1303/2013
  • Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 1305/2013
  • Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 1306/2013
  • Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 640/2014
  • Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 807/2014
  • Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 808/2014
  • Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 809/2014
  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (UE) rhif 679/2016

Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio gan fwyaf i brosesu am gymorth ariannol. Ond, caiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r wybodaeth hefyd at bwrpasau eraill, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau a'i dyletswyddau o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a'i hymrwymiadau amgylcheddol statudol.

Mae Llywodraeth Cymru’n casglu data personol er mwyn gallu nodi’ch lleoliad chi a busnes eich fferm. Nid yw Llywodraeth Cymru’n casglu data categori arbennig.

Prosesir y data trwy broses wedi’i hawtomeiddio o reolau busnes sy’n defnyddio Cyfeirnod y Cwsmer (CRN) fel allwedd i fwyafrif yr adroddiadau.

Caiff eich gwybodaeth ei storio yn unol â Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn rhif 908/2014, “Conservation of Accounting Information”.

Rhesymau dros rannu data personol

O dan ddeddfwriaeth yr UE mae’n rhaid sicrhau bod cynllun yn gymwys, ac er mwyn gwneud hyn caiff Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth â:

  • CNC
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd, a’r Heddlu.

Yn benodol, defnyddir yr wybodaeth fel a ganlyn:

  • croeswirio gwybodaeth a Thrawsgydymffurfio rhwng sefydliadau’r Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes neb yn torri rheolau cynlluniau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
  • cynhyrchu a chyhoeddi mapiau sy’n dangos y tir sydd wedi cael cymorth o dan gynlluniau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
  • llunio adroddiadau o ddata o wahanol ffynonellau a/neu grynodebau ystadegol, ar gyfer eu cyhoeddi
  • llywio penderfyniadau sy’n gysylltiedig â newid polisi a chyllid gan gynnwys astudiaethau sy’n cael eu cynnal ar ran Llywodraeth Cymru i lywio gwaith Monitro a Gwerthuso Cynlluniau Datblygu Gwledig
  • medru cysylltu â thirfeddianwyr/defnyddwyr mewn argyfwng e.e. rheoli clefydau a rheoli tramgwyddau
  • diogelu budd ymgeiswyr mewn cadwraeth tir a materion a all godi yn sgil ymholiadau am ariannu
  • caniatáu i bartneriaid allu gwneud eu dyletswyddau cyfreithiol
  • ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian ac er mwyn cadarnhau pwy ydych
  • cyhoeddi gwybodaeth benodol ac ymateb i geisiadau am wybodaeth.
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei rannu gyda CNC i’r pwrpas o brosesu a phenderfynu ar ceisiadau am gymorth ariannol o dan gynlluniau Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020. Mi fedr CNC hefyd ddefnyddion y wybodaeth a gyflwynwyd ar gyfer pwrpasau eraill, sydd yn cynnwys y rhai sydd yn ymwneud gyda eu swyddogaethau o dan eu dyletswyddau statudol a chyfreithiol. Sail cyfreithiol y prosesu yw ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni y tasg sydd yn cael ei gario allan o dan yr awdurdod swyddogol a urddwyd i CNC.

Cyhoeddi a Datgelu Gwybodaeth

Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch, wrth ymateb i gais o’r fath.

Yn ôl Rheoliad y Comisiwn (CE) rhif 908/2014, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Polisi Amaethyddol Cyffredin. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â €1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA.

Hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Mae’r GDPR yn rhoi hawliau i unigolion mewn perthynas â'r data personol a gedwir amdanynt. Mae’r hawliau hynny’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
  • yr hawl i ofyn a chael copïau o'r data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanynt, er y gall Llywodraeth Cymru gadw peth data weithiau neu wrthod rhoi copïau
  • yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i rwystro neu gyfyngu Llywodraeth Cymru rhag prosesu data personol
  • yr hawl o dan rai amgylchiadau i ofyn am gywiro gwybodaeth anghywir.
  • yr hawl o dan rai amgylchiadau i gael data wedi’u dileu (eu hanghofio)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau GDPR hyn, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad ar ddechrau’r hysbysiad hwn.

Bydd hawl gan unigolion hefyd i ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi ac yn cadw golwg ar y GDPR, farnu a fyddwn, wrth brosesu'ch gwybodaeth bersonol, yn debygol o gadw at amodau'r GDPR. Cysylltwch â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113.

Adran J – manylion cysylltu

Mae yna wybodaeth bwysig ar wefan Llywodraeth Cymru, y cylchgrawn deufisol:

Dyma’r manylion cysylltu:

Taliadau Gwledig Cymru
Blwch Post 251
Caernarfon
LL55 9DA

Ffôn: 0300 062 5004

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Ar gyfer tir sy’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig:

CNC

d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Ffôn: 0300 065 3000

Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun–Gwener, 8am - 6pm)
Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau Glastir CNC: glastirqueries@naturalresourceswales.gov.uk

Ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig:

CADW
Llywodraeth Cymru
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@gov.wales

Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol:

Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys

41 Broad Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7RR

Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk
www.cpat.org.uk  

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent

Heathfield House
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL

Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
www.ggat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 
Craig Beuno,
Ffordd y Garth,
Bangor,
Gwynedd,
LL57 2RT

Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: gat@heneb.co.uk
www.heneb.co.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 
Corner House,
6 Stryd Caerfyrddin,
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin,
SA19 6AG

Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk
www.dyfedarchaeology.org.uk