Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch gyhoeddiad ar gyfer dogfennau unigryw gan Lywodraeth Cymru – caiff y rhain eu stampio â’r dyddiad a ni fyddant fel arfer yn cael eu diweddaru ar ôl eu cyhoeddi.

Dylid creu un cyhoeddiad ar gyfer pob dogfen neu ar gyfer un ddogfen a gyhoeddir mewn grŵp o wahanol fformatau. Ee:

  • un cyhoeddiad  yw adroddiad blynyddol penodol, ond gall gynnwys nifer o ddogfennau, ee atodiadau
  • os darperir yr un ddogfen mewn Word a pdf, un cyhoeddiad fydd.

Manylion

Mae manylion yn ddewisol. Maen nhw’n rhoi rhagor o wybodaeth i’r defnyddiwr wybod ei fod wedi cael hyd i’r wybodaeth mae eisiau. Gallant ateb anghenion y defnyddwyr heb iddynt orfod agor y ddogfen hefyd ee drwy roi crynodeb o argymhellion adroddiad.

Cyhoeddwyd gyntaf

Y dyddiad y cyhoeddwyd y ddogfen mewn unrhyw fformat.

Os yw’r cyhoeddiad yn cynnwys mwy nag 1 ddogfen, rhoddir dyddiad cyhoeddi’r ddogfen gynharaf. Os oes gwahanol ddyddiadau cyhoeddi i bob dogfen, dylech ystyried a ddylent fod yn gyhoeddiadau ar wahân.

Diweddarwyd

Dyddiad diweddaru diwethaf y ddogfen. Yn aml, bydd yr un fath â dyddiad cyhoeddi’r ddogfen.

Newid sylweddol i’r ddogfen yw diweddariad; ee newid ffeithiau. Nid yw mân newidiadau, ee cywiro camsillafu, yn cyfrif fel diweddariad.

Os yw’r cyhoeddiad yn cynnwys mwy nag 1 ddogfen,  rhoddir y dyddiad diwethaf y diweddarwyd dogfen.