Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y Cynnig

Diwygio'r 'Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru' (y 'Meini prawf') yn barod ar gyfer cam nesaf y diwygiadau hirdymor ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).

Cefndir

Mae systemau addysg sy'n perfformio'n dda yn datblygu eu systemau adnoddau dynol drwy ganolbwyntio ar ddenu, addysgu a chefnogi athrawon da. Mae systemau llwyddiannus yn nodweddiadol yn yr ystyr y caiff unrhyw ddiwygiad i addysg ei ystyried ar draws y system ysgolion ac yr eir i'r afael â rôl a chyfraniad AGA fel rhan o'r rhaglen newid. Gwnaeth adroddiad yr Athro Furlong, 'Addysgu Athrawon Yfory' (Prifysgol Rhydychen, 2015), argymhellion allweddol i ddiwygio'r system AGA yng Nghymru â chysylltiadau clir i adroddiad yr Athro Donaldson 'Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru' (Llywodraeth Cymru, 2015), gan nodi'r weledigaeth ar gyfer datblygu'r athrawon a fyddai eu hangen yng Nghymru i gyflawni ein dyheadau.

Aeth iteriad cyntaf y Meini prawf, a gyhoeddwyd yn 2017 ac a ddrafftiwyd gan yr Athro Furlong a Fforwm Arbenigol Addysg Gychwynnol i Athrawon, ati i egluro'r gofynion newydd ar gyfer AGA yng Nghymru:

  • Rôl ganolog i ysgolion.
  • Rôl gliriach i brifysgolion.
  • Cydberchnogaeth o'r rhaglen AGA.
  • Cyfleoedd strwythuredig i gysylltu addysg ysgolion a phrifysgolion.
  • Canolrwydd gwaith ymchwil a mathau eraill o dystiolaeth systematig.

Mae pob rhaglen AGA â Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru a gyflwynwyd o fis Medi 2019 wedi'i hachredu yn erbyn y Meini prawf am gyfnod cyfyngedig o amser. Mae'r Meini Prawf wedi pennu fframwaith lefel uchel sydd â'r nod o sicrhau ansawdd AGA yng Nghymru ar gyfer athrawon dan hyfforddiant er mwyn rhoi sicrwydd iddyn nhw, a'r sector addysg yn fwy cyffredinol, bod rhaglenni AGA o ansawdd uchel, yn drylwyr ac yn briodol yn broffesiynol i'w paratoi'n llwyr i ddechrau gweithio yn y proffesiwn addysg ac i addysgu mewn ysgolion yng Nghymru.

Yr hirdymor

Daw'r cyfnod achredu cyntaf i ben yn fuan a bydd angen i Bartneriaethau AGA ail-achredu eu darpariaeth er mwyn parhau i gyflwyno AGA yng Nghymru. Mae rhaglen diwygio AGA yn ymdrech hirdymor, ac mae'r cynnig hwn yn gam tuag at gyflawni'r nod hirdymor hwnnw. Mae diwygio'r Meini Prawf wedi bod yn gyfle i fyfyrio ar y diwygiadau addysg ehangach a'r diwygiadau i AGA o fewn y rhaglen newid ehangach honno. Rhoddodd gwersi a ddysgwyd yn sgil pandemig COVID-19 dystiolaeth o'r ffordd yr oedd y Partneriaethau AGA newydd yn gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth, gan gynnwys yr ystwythder a ddangoswyd i liniaru effeithiau gwaethaf y pandemig ar athrawon dan hyfforddiant.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod pwysigrwydd ein proffesiwn addysg a'i fod yn allweddol i gyflawni ein gweledigaeth a rennir ar gyfer addysg yng Nghymru, gyda'r broses o ddiwygio AGA yng Nghymru yn cael ei llywio gan y diwygiadau addysg ehangach a welwyd dros y pum mlynedd diwethaf ac yn elwa arnynt. Mae'r Meini Prawf diwygiedig wedi'u drafftio er mwyn galluogi'r gyfres nesaf o Raglenni AGA achrededig yng Nghymru:

  • adlewyrchu’r diwygiadau addysgol sefydledig yng Nghymru, gan ymgorffori newidiadau deddfwriaethol a chyfeiriadau at y canllawiau diweddaraf ar faterion cysylltiedig
  • adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o'r broses achredu gyntaf, y ddarpariaeth achrededig a'r pandemig
  • ymgorffori arferion da o bob rhan o sector AGA er mwyn atgyfnerthu'r ddarpariaeth a'r Partneriaethau ymhellach
  • codi ein huchelgeisiau a'n disgwyliadau ar gyfer rhaglenni a Phartneriaethau AGA i gefnogi ein huchelgais ar gyfer AGA o'r radd flaenaf yng Nghymru er mwyn parhau i alluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu a datblygu'r amodau i sicrhau ystafelloedd dosbarth cynhwysol i bob dysgwr

Bydd y Meini prawf diwygiedig hyn yn llywio rhaglenni AGA a achredir gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg yn y dyfodol ac yn arwydd o'r ymrwymiad cenedlaethol parhaus i'r diwygiadau a'r daith barhaus tuag at sicrhau proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a gefnogir yn dda.

Atal

Nod y diwygiadau i AGA yw gwella ansawdd AGA i athrawon dan hyfforddiant. Mae sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn cael rhaglenni AGA ymarferol sy'n eu herio'n ddeallusol, yn eu paratoi i ddechrau gweithio yn y proffesiwn addysg ac i addysgu'r Cwricwlwm newydd, ac yn cefnogi dysgwyr yng Nghymru.

Yn y tymor hwy, bwriedir i'r gwelliannau i AGA, naill ai drwy alluogi athrawon dan hyfforddiant i ffynnu, neu drwy'r trefniadau Partneriaeth cryf rhwng ysgolion a sefydliadau addysg uwch (SAUau), wella ansawdd cyffredinol addysgu yng Nghymru. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan ofynion penodol i ysgolion a SAUau sy'n darparu AGA fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil er mwyn ymgorffori cylch rhinweddol o werthuso a gwella. Yn ei dro, bydd sicrhau ystafelloedd dosbarth cynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar addysgu, dysgu a llesiant y dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir, yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad a llesiant dysgwyr mewn lleoliadau a gynhelir yng Nghymru.

Integreiddio

Mae'r cynnig yn cynnwys nodau hirdymor clir i barhau i hwyluso'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm, diwygiadau i AGA a mynd i'r afael â thegwch ym maes addysg, gan arwain at fanteision cysylltiedig i ddysgwyr ac ymarferwyr. Bydd y Meini Prawf diwygiedig yn cyfrannu at y broses o gyflawni amcanion canlynol y Rhaglen Lywodraethu:

  • parhau â'i rhaglen diwygio addysg hirdymor a sicrhau y caiff anghydraddoldebau addysgol eu lleihau a safonau eu codi
  • helpu ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru
  • ehangu cyfran y gweithlu addysg sy'n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
  • rhoi'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ar waith

Cydweithio

Mae pob partner allweddol sy'n ymwneud â darparu AGA neu gefnogi'r sector AGA yng Nghymru wedi bod yn rhan o'r broses o ddiwygio'r Meini Prawf. Ein partneriaid allweddol oedd Partneriaethau AGA (SAUau ac ysgolion partner), Estyn a Chyngor y Gweithlu Addysg. Maent wedi bod yn hanfodol i adlewyrchu datblygiad parhaus y sector AGA ac wedi chwarae rhan lawn yn y gwaith o ddiwygio'r Meini Prawf ar y cyd.

Ymhlith y partneriaid eraill sydd â diddordeb cyffredin yn y cynnig hwn mae inter alia, undebau'r gweithlu addysg, sefydliadau gwella ysgolion, sefydliadau sy'n gyfrifol am sefydlu ANGau, cymdeithasau proffesiynol a grwpiau eirioli dros ddysgwyr, CYDAG, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill. Cysylltwyd â'r partneriaid hyn yn gynnar yn ystod y gwaith er mwyn casglu adborth a thystiolaeth ar y broses o gyflwyno rhaglenni AGA a'r ffordd y gellid diwygio'r Meini Prawf er mwyn cyflawni ein nodau, yn eu barn nhw. Cafodd y dystiolaeth hon effaith uniongyrchol ar y trafodaethau a gafwyd â'n partneriaid allweddol a'r broses o ddiwygio'r Meini Prawf a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae'r holl ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad cyhoeddus wedi'u dadansoddi a'u hystyried wrth baratoi'r Meini Prawf terfynol.

Cymryd Rhan

Cafodd y Meini Prawf diwygiedig eu drafftio ar y cyd â'n partneriaid allweddol drwy grŵp llywio. Roedd yr aelodau'n allweddol i werthuso'r dystiolaeth, diffinio'r materion a nodwyd gan bartneriaid eraill a nodi atebion posibl, ochr yn ochr â nodi meysydd i'w datblygu. Mae gweithio'n agos gyda'n partneriaid cyflawni a chymorth allweddol yn sicrhau bod y Meini Prawf diwygiedig yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau'r sector AGA, athrawon dan hyfforddiant ac ysgolion yng Nghymru, a'u bod yn ofynion cyflawnadwy ar gyfer cam nesaf y diwygiadau i AGA.

Yn ogystal â'r pum ffordd uchod o weithio, gwnaethom ystyried y meysydd canlynol:

Effaith

Gwnaed y diwygiadau ehangach i AGA, gan gynnwys datblygu'r Meini Prawf gwreiddiol, yn seiliedig ar dystiolaeth glir a chynhaliwyd asesiadau effaith wrth i'r diwygiadau gael eu datblygu a'u rhoi ar waith.

O ran y cynnig hwn, mae'n amlwg bod angen datblygu'r Meini Prawf hyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyrraedd ein nodau ar gyfer AGA o ansawdd uchel. Mae gan athrawon dan hyfforddiant yr hawl i gael rhaglenni o ansawdd uchel sy'n eu galluogi i fod yn weithwyr proffesiynol, ac mae'r fframwaith deallusol yn galw am ddulliau arloesol sydd wedi'u llywio gan dystiolaeth, ac yn eu cydbwyso, ar gyfer darpariaeth gyson o ansawdd uchel.

Nododd deddfwriaeth newydd, ymrwymiadau Gweinidogol, a chanfyddiadau ymchwil i'r system addysg a'r system AGA yng Nghymru feysydd i'w datblygu, ond prin yw'r dystiolaeth ar ansawdd y rhaglenni AGA newydd. Mae pandemig COVID-19 yn 2020 wedi effeithio ar y trefniadau cyflwyno ers i'r rhaglenni newydd ddod i rym ym mis Medi 2019.Yn ogystal, cyflwynodd Llywodraeth Cymru amrywiaeth o ddiwygiadau dros dro i'r Meini Prawf er mwyn sicrhau y gallai'r Partneriaethau AGA barhau i gyflwyno eu rhaglenni.

O dan amgylchiadau arferol, byddai Partneriaethau AGA yn destun arolygiadau gan Estyn a gwaith monitro gan Gyngor y Gweithlu Addysg ond oherwydd y pandemig, cafodd trefniadau o'r fath eu hatal. Mae Estyn a Chyngor y Gweithlu Addysg bellach wedi ailddechrau'r trefniadau ar gyfer arolygu a monitro Partneriaethau AGA. Mae un adroddiad arolygu ar gael hyd yma, gan gynnwys adnoddau gwella ymarfer effeithiol gan y darparwr a arolygwyd. Roedd yr adroddiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan o ran y ddarpariaeth, gan nodi cynnydd da gan ymarferion a'r ddealltwriaeth werthfawr o'r Cwricwlwm i Gymru a feithrinwyd drwy'r ddarpariaeth. Mae Estyn yn cynnwys AGA yn ei hadroddiad blynyddol gan nodi'r canfyddiadau cryno canlynol:

  • gyda’i gilydd, cefnogodd ysgolion a’u prifysgol partner ddatblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr yn dda yn ystod y pandemig ac maent wedi parhau i wneud hynny’n effeithiol
  • ym mhob partneriaeth, mae ysgolion a phrifysgolion wedi llunio rhaglenni AGA ar y cyd sy’n cynnig ystod werthfawr o brofiadau dysgu i fyfyrwyr
  • mae ysgolion a phrifysgolion yn cydweithio’n dda â’i gilydd i ddatblygu cydarweinyddiaeth o’r partneriaethau

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi adrodd ar wahanol agweddau ar y system AGA yng Nghymru, gan gynnwys 'A flying start: improving initial teacher preparation systems' (2019) (Saesneg yn unig). Er bod yr astudiaeth wedi'i chynnal cyn i'r rhaglenni newydd gael eu rhoi ar waith, adolygodd ymchwilwyr yr OECD y diwygiadau arfaethedig a cheir cyfeiriadau drwy'r ddogfen at ‘Promising Practices’, enghreifftiau a nodwyd fel cryfderau Paratoi Cychwynnol Athrawon yn y gwledydd a gymerodd ran yn yr astudiaeth. Mae'r rhain i'w gweld ar wefan TeacherReady! (Saesneg yn unig) er mwyn i wledydd eraill ddysgu oddi wrthynt. Y ‘Promising Practices’ yng Nghymru yw:

  • professional learning based on systematic enquiry observed in a group of schools
  • towards a research-informed, evidence-based reform agenda in initial teacher education in Wales
  • ITE programme accreditation in Wales as a means to strengthen research-informed initial teacher education programmes

Mae adroddiad yr OECD (2021), 'Teachers’ professional learning study: diagnostic report for Wales' (Saesneg yn unig) yn ymdrin â rhywfaint o'r cyfnod y byddai ANGau wedi bod yn ymuno â'r system drwy'r rhaglenni AGA newydd ynghyd ag agweddau ar AGA sy'n gysylltiedig â themâu'r adroddiad. Nododd yr adroddiad arwyddion cadarnhaol bod y rhaglenni AGA yn paratoi athrawon dan hyfforddiant i ymuno â'r proffesiwn, eu bod yn uchelgeisiol a bod ganddynt y gallu i gefnogi'r diwygiadau addysg ehangach.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cynnal asesiad ffurfiannol o'r rhaglenni achrededig o dan y Meini Prawf blaenorol i'w hachredu, ond effeithiodd y pandemig ar y gwaith hwn hefyd.Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y cyfleoedd i ailddechrau'r gwaith hwn, a gaiff hefyd ei lywio gan adroddiadau monitro ac arolygu arfaethedig Estyn a Chyngor y Gweithlu Addysg. Yn y cyfamser, bydd angen i'r rhaglenni sy'n bodoli eisoes gael eu hailachredu i'w cyflwyno o fis Medi 2024 ymlaen, a bwriedir i'r gwaith o ddiwygio'r Meini Prawf alluogi'r ail-achredu hwn.

Roedd gwahodd adborth a thystiolaeth gan y system ehangach yn ystod y gwaith o ddatblygu'r Meini Prawf diwygiedig yn un o'r dulliau a ddefnyddiwyd i liniaru'r diffyg tystiolaeth annibynnol ac rydym wedi cael adborth anecdotaidd gan randdeiliaid sy'n rhan o'r system sy'n dangos mwy o foddhad ag ANGau sydd wedi'u hyfforddi o dan y rhaglenni newydd, a mwy o hyder ynddynt. Aeth Llywodraeth Cymru ati hefyd i gontractio arbenigwyr ym maes AGA, gan gynnwys awdur 'Teaching Tomorrow’s Teachers', yr Athro Furlong OBE, Athro Emeritws Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen a Chymrawd Emeritws yng Ngholeg Green Templeton, a dau arbenigwr rhyngwladol ym maes AGA, yr Athro Dr. Berhard, Coleg Prifysgol Addysg Athrawon Fienna/Krems, a Dr. Groundwater-Smith AM, Athro Anrhydeddus yn Ysgol Addysg a Gwaith Cymdeithasol Sydney, Prifysgol Sydney, i gynnig arbenigedd deallusol o'r DU ac yn rhyngwladol i ddyfnhau'r drafodaeth seiliedig ar dystiolaeth dros gyfnod y prosiect.

Costau ac arbedion

Yn y bôn, nid yw'r Meini Prawf diwygiedig yn diwygio'r system AGA bresennol ond, yn hytrach, maent yn atgyfnerthu ac yn hyrwyddo disgwyliadau o ran ansawdd. Prin fu'r costau a oedd yn gysylltiedig â datblygu'r meini prawf diwygiedig ac ymgynghori arnynt, a chawsant eu hariannu drwy gyllidebau a oedd yn bodoli eisoes.

Bwriedir i'r Meini Prawf diwygiedig gefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglenni AGA yng Nghymru a ariennir drwy ffioedd myfyrwyr. Mae SAUau ac ysgolion partner yn sefydliadau ymreolaethol, ac mae ganddynt drefniadau ariannu ar waith i gyflwyno'r Rhaglenni.

Mae cyllid yn parhau i gael ei ddyrannu i'n partneriaid haen ganol er mwyn cefnogi'r system i wneud y canlynol:

  • arolygu ansawdd Rhaglenni AGA yng Nghymru
  • monitro'r Rhaglenni AGA yn erbyn gofynion y Meini Prawf
  • cydweithio â'r sector i ymgorffori arferion da a thrafodaeth ddeallusol er mwyn gwella ansawdd AGA yng Nghymru ymhellach

Dull

Ni fydd angen unrhyw ddeddfwriaeth ychwanegol i gyflwyno'r cynnig hwn.

Casgliad

Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Mae cydweithio a chyd-lunio wedi bod yn hanfodol i ddatblygu'r cynnig cyn ac ar ôl yr ymgynghoriad. Mae swyddogion wedi cydweithio â'r rhanddeiliaid canlynol:

  • Partneriaethau AGA (gan gynnwys SAUau, Ysgolion Partner Arweiniol AGA ac Ysgolion Partner)
  • USCET
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Estyn
  • Undebau addysg
  • sefydliadau gwella ysgolion, gan gynnwys arweinwyr sefydlu
  • Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • rhwydweithiau a grwpiau amrywiol sy'n cynrychioli carfannau penodol o athrawon ac ysgolion
  • Colegau AB
  • cyrff a grwpiau sy'n cynrychioli proffesiynau cysylltiedig
  • Comisiynydd y Gymraeg

Cafodd yr holl randdeiliaid y cysylltwyd â nhw i ddarparu tystiolaeth hefyd eu gwahodd i rannu'r gwahoddiad hwn gyda'u rhwydweithiau a'u rhanddeiliaid ehangach eu hunain, er mwyn ehangu'r cyrhaeddiad ac, felly, yr amrywiaeth o dystiolaeth a gasglwyd. Cafodd grŵp llywio hefyd ei sefydlu ar gyfer y gwaith, gan gynnwys cynrychiolwyr o'n partneriaid allweddol ar gyfer AGA yng Nghymru, yn cynnwys:

  • Partneriaethau AGA: SAUau
  • Partneriaethau AGA: Ysgolion
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Estyn

Mae'r dull hwn wedi sicrhau bod y cynnig cychwynnol a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori yn seiliedig ar dystiolaeth gan y sector a bod rhanddeiliaid wedi cael y cyfle i ddylanwadu ar y diwygiadau a wnaed i'r Meini Prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru (y 'Meini prawf)'.

Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Partneriaethau AGA, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn, USCET, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sefydliadau gwella ysgolion er mwyn sicrhau bod AGA yng Nghymru yn cynnig cymwysterau proffesiynol priodol ac o ansawdd uchel i athrawon dan hyfforddiant, gan eu galluogi i ymuno â'r gweithlu a darparu dysgu ac addysgu ardderchog i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae datblygu proffesiwn addysg o ansawdd ar ddechrau eu taith dysgu proffesiynol yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru ac yn un o'r pedwar amcan galluogi yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’.

Bydd y diwygiadau i'r Meini prawf yn cefnogi'r gwaith o wireddu ein blaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith, cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymgorffori tegwch, llesiant a'r Gymraeg. Bydd y gofynion a'r dyletswyddau cryfach ar gyfer Partneriaethau AGA mewn perthynas ag ymarfer gwrth-hiliol, tegwch a llesiant, yn sicrhau bod darpar athrawon yn cyfrannu at lesiant plant a phobl ifanc yn eu lleoliad wrth iddynt ymuno â'r gweithlu. Bydd y gofynion cryfach hefyd yn helpu i wireddu Cymraeg 2050 ac yn adlewyrchu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o dan gynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg. 

Bydd y Meini prawf diwygiedig yn atgyfnerthu cymwysterau AGA yng Nghymru er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion darpar athrawon ac yn sicrhau safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant?
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd sicrhau proffesiwn addysgu gydweithredol, o ansawdd uchel ac sy'n seiliedig ar ymchwil, yn cyfrannu at nifer o nodau llesiant, gan gynnwys Cymru lewyrchus, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Mae'r Meini Prawf yn nodi'n glir ofynion, rolau a chyfrifoldebau'r rheini ym maes addysg sy'n ymwneud â hyfforddi darpar athrawon, gan sicrhau bod amgylcheddau dysgu yn gynhwysol, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar ymchwil, er budd athrawon dan hyfforddiant a phlant a phobl ifanc. Mae'r diwygiadau hefyd yn ategu cyfrifoldebau'r gweithlu addysgu mewn perthynas â'r Gymraeg o dan y safonau addysgu proffesiynol. Bydd y newidiadau hyn yn parhau i gefnogi ac atgyfnerthu diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd mewn perthynas â dysgu proffesiynol yr unigolyn, yn ogystal â chefnogi dysgu proffesiynol unigolion eraill yn y proffesiwn.

Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i wireddu'r blaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith, cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymgorffori tegwch, llesiant a'r Gymraeg ym mhob rhan o'n Partneriaethau AGA, gan gynnwys cymunedau Ysgolion Partner AGA. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid er mwyn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw risgiau sy'n datblygu wrth inni symud yn ein blaenau.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Wrth i'n Hysgolion Partner AGA a SAUau roi eu cymwysterau AGA diwygiedig ar waith yn erbyn y meini prawf, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid addysg i sicrhau y caiff ein gweledigaeth ar gyfer AGA yng Nghymru ei gwireddu, y caiff athrawon dan hyfforddiant AGA ymarferol a deallusol gadarn, ac y caiff y system addysg ei chefnogi gan raglenni AGA o ansawdd uchel. 

Am gyfnod cyfyngedig o amser y caiff cymwysterau AGA eu hachredu, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, arbenigwyr ym maes AGA, ein cymunedau o ysgolion ac athrawon, i werthuso effaith y rhaglenni AGA diwygiedig er mwyn cefnogi iteriad nesaf y Meini Prawf i'w achredu ar gyfer AGA yng Nghymru.