Neidio i'r prif gynnwy

Cynghorir myfyrwyr i ymgynghori â swyddfa cyllid myfyrwyr eu prifysgol, neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gwladolion yr UE sydd eisoes yn cael benthyciadau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a’r gwladolion UE sy’n bwriadu dechrau astudio ym mlwyddyn academaidd 2017/18 yn parhau i dderbyn cymorth ariannol.

Cynghorir myfyrwyr i ymgynghori â swyddfa cyllid myfyrwyr eu prifysgol, neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rydyn ni am wneud yn siwr bod prifysgolion Cymru yn parhau i ddenu’r goreuon o bob rhan o’r UE er gwaethaf yr ansicrwydd yn dilyn pleidlais Brexit.

“Nid yn unig mae ein penderfyniad yn rhoi sicrwydd i’n prifysgolion a’n colegau ynghylch cyllid yn y dyfodol, mae hefyd yn rhoi sicrwydd i ddarpar-fyfyrwyr yr UE na fydd telerau eu cyllid yn newid os bydd y DU yn gadael yr UE yn ystod eu hastudiaethau.

“Mae ein prifysgolion yn ganolog i’n dyfodol cymdeithasol ac economaidd, maen nhw’n rhoi gwerth ar eu cysylltiadau ag Ewrop ac yn eu dathlu, ac maen nhw’n ffynnu drwy amrywiaeth y bobl sy’n dod iddyn nhw.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o warchod enw da Cymru fel lle cyfeillgar a goddefgar i astudio a gwneud ymchwil o safon fyd-eang.

“Beth bynnag yw goblygiadau hirdymor y bleidlais, rydyn ni’n parhau i fod yn genedl groesawgar sy’n edrych tuag allan. Rydyn ni’n benderfynol o rannu gwybodaeth ar draws ffiniau cenedlaethol.”