Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  • Mae gennym gynllun ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei wneud i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  • Rydym yn gweithio gyda chynghorau lleol, y gwasanaeth iechyd a sefydliadau cymorth i helpu ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches i fyw'n ddiogel a chydag urddas â'n cymunedau.
  • Mae Cymru yn un o 4 gwlad yn y Deyrnas Unedig. Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun o'r enw Llywodraeth Cymru. Rydym yn gyfrifol am dai, addysg, gofal iechyd a thrafnidiaeth.
  • Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am rai pethau yng Nghymru, fel yr heddlu, taliadau lles, rheolau cyflogaeth a chyfreithiau mewnfudo.

Byw yng Nghymru

  • Mae gan Gymru ei hiaith a'i diwylliant ei hun. Enw'r iaith yw 'Cymraeg' ac mae'n cael ei siarad gan tua 20% o'r boblogaeth. 'Saesneg' yw'r iaith a siaredir fwyaf yng Nghymru.
  • Mae pobl o wahanol ddiwylliannau a chenhedloedd yn byw ym mhob rhan o Gymru. Mae gan Gymru hanes hir o groesawu pobl o bob rhan o’r byd.
  • Mae Cymru'n falch o groesawu pobl o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd ac mae arnom eisiau iddyn nhw i gyd alw Cymru yn gartref iddynt. Credwn fod y cymysgedd o wahanol ddiwylliannau wedi gwneud Cymru hyd yn oed yn well. Rydym yn gobeithio y gallwch chi fod yn rhan o wella Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Mae Cymru yn rhan fechan o'r DU ac mae'n gartref i dros 3 miliwn o bobl. Caerdydd yw ein prifddinas.
  • Enw Diwrnod Cenedlaethol Cymru yw Dydd Gŵyl Dewi. Mae'n cael ei ddathlu ar 1 Mawrth bob blwyddyn.
  • Symbolau Cymru yw'r ddraig goch, cennin Pedr a'r genhinen.
  • Mae Cymru wedi'i rhannu yn 22 ardal sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol (sydd hefyd yn cael eu galw yn Gynghorau).
  • Mae gan Gymru hanes cyfoethog y gellir ei archwilio ar-lein, neu mewn amgueddfeyddchestyll ledled y wlad.

Addysg a dysgu

Mae addysg am ddim yng Nghymru.

I blant

  • Gall plant fynd i'r feithrinfa o 3 oed.
  • Rhaid i blant fynd i'r ysgol rhwng 5 a 16 oed.
  • Rhaid i rieni anfon eu plant i'r ysgol (dyma'r gyfraith).
  • Mae ysgolion yn addysgu yn Saesneg neu Gymraeg.
  • Mae pob plentyn yn dysgu rhywfaint o Gymraeg.
  • Efallai y bydd prydau ysgol am ddim ar gael.
  • Mae cludiant am ddim os ydych chi'n byw ymhell o'r ysgol.

Oedran ysgol

  • Ysgol Gynradd: 5 i 11 oed.
  • Ysgol Uwchradd: 11 i 16 oed.
  • Mae plant yn sefyll arholiadau o'r enw TGAU yn 16 oed.

Ar ôl 16 oed

Gall pobl ifanc barhau i ddysgu, gallent:

  • fynd i'r coleg
  • gwneud prentisiaeth (dysgu wrth weithio)
  • mynd i'r brifysgol yn ddiweddarach (addysg bellach)

Ar gyfer oedolion (18 oed a hŷn)

  • Mae dosbarthiadau am ddim i ddysgu Saesneg.
  • Gall dysgu Cymraeg eich helpu i ddod o hyd i waith.

Help yn yr ysgol

Gall eich plentyn gael help:

  • i ddysgu Cymraeg neu Saesneg os yw'n ei chael hi'n anodd
  • gan gynghorydd ysgol ar gyfer teimladau a phryderon

Iechyd a lles

Rydym yn deall bod llawer o bobl wedi bod trwy brofiadau anodd. Mae cymorth ar gael.

Gwasanaethau Gofal Iechyd

  • Mae gofal iechyd yn rhad ac am ddim drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
  • Mae hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl.
  • Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth yn eich iaith eich hun ac i gael cyfieithydd am ddim pan fydd angen i chi siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol.

Meddygon a gwiriadau iechyd

  • Cofrestrwch gyda meddyg, a elwir yn feddyg teulu, cyn gynted â phosibl.
  • Mae gwiriadau iechyd am ddim ar gael i helpu i ddod o hyd i broblemau iechyd yn gynnar.

Cymorth i deuluoedd

Mae awgrymiadau a chyngor ymarferol am ddim ar gael gan Teulu Cymru:

  • ymddygiad Plant
  • sut y gallwch helpu eich plentyn
  • rhianta a gofal plant
  • cymorth i blant ag anghenion ychwanegol
  • cymorth i rieni

Gwaith a gwirfoddoli

Gall gwaith eich helpu i ailadeiladu eich bywyd yng Nghymru.

Gweithio ar draws y DU 

  • Nid oes gan bawb yr hawl i weithio, mae'n dibynnu ar statws mewnfudo neu ddinasyddiaeth yr unigolyn.
  • Llywodraeth y DU sy'n penderfynu pwy sy'n cael gweithio.
  • I weithio, mae arnoch chi angen: 
    • caniatâd
    • Rhif Yswiriant Gwladol

Os nad ydych yn gallu gweithio, gallwch wirfoddoli gydag elusennau neu gynghorau lleol.

Tai

Llywodraeth Cymru sy’n rheoli tai yng Nghymru Mae tai i geiswyr lloches yn cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU.

Rhentu cartref

Os ydych chi'n rhentu:

  • Bydd gennych landlord.
  • Rhaid i chi dderbyn gwybodaeth ysgrifenedig am: 
    • daliadau rhent
    • pryd y bydd angen i chi adael
    •  gwaith atgyweirio

Eich hawliau

Mae eich hawliau o ran tai yn dibynnu ar eich statws fel:

  • ceisiwr lloches
  • ceisiwr lloches wedi'i wrthod
  • ffoadur

Arian a chefnogaeth

Efallai na fyddwch yn gallu gweithio ar unwaith. Gallai hyn fod oherwydd:

  • nad oes gennych ganiatâd i weithio eto
  • rydych chi'n dal i ddysgu Cymraeg neu Saesneg

Efallai y gallwch gael help ariannol gan:

Cymorth brys

Argyfyngau meddygol

  • Ewch i GIG 111 Cymru.
  • Ffoniwch 111 am gymorth meddygol brys.
  • Ffoniwch 999 mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd.
  • Mae gofal yn rhad ac am ddim.
  • Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Mae cyfieithwyr ar gael.

Argyfwng iechyd meddwl

  • Ffoniwch 111 a dewiswch Opsiwn 2 ar gyfer iechyd meddwl brys.
  • Ewch i C.A.L.L.  Llinell Gymorth Iechyd Meddwl 
  • Ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.

Argyfwng tai

Bwyd a hanfodion

Gallwch gael help gan:

  • Fanciau bwyd
  • elusennau lleol

Gallent ddarparu:

  • bwyd
  • dillad
  • nwyddau ymolchi
  • eitemau babi

Cadw'n ddiogel

  • Os ydych mewn perygl, ffoniwch 999 mewn argyfwng.
  • Mewn galwad nad yw'n argyfwng ffoniwch 101.
  • Os ydych chi, aelod o'r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi'n poeni amdano wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â  Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau
  • Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru  yn darparu cymorth ac opsiynau adrodd am ddim a chyfrinachol i ddioddefwyr Troseddau Casineb ledled Cymru. Mae trosedd casineb yn drosedd sydd wedi'i chyflawni yn erbyn rhywun oherwydd eu: 
    • Hil
    • Crefydd
    • Cyfeiriadedd rhywiol
    • Anabledd
    • Hunaniaeth drawsryweddol

Ieithoedd amgen

Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.