Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle i ddathlu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol trwy ddod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd mo’i debyg o’r blaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y gobaith yw creu chwedloniaeth newydd yng Nghymru, trwytho ymwelwyr yn ein stori epig, a chreu profiadau chwedlonol.

  • dod â’r gorffennol yn fyw mewn modd na welwyd mo’i debyg o’r blaen
  • diwylliant a threftadaeth yn greiddiol i farchnata Cymru
  • creu hunaniaeth sy’n wirioneddol nodedig i Gymru ar lwyfan byd-eang
  • cyllid ar gael i brosiectau arloesol.

Roedd Blwyddyn Antur Cymru 2016 yn un o gyfres o flynyddoedd â thema iddi a rhoddodd y thema honno ffocws i ni wrth ddatblygu ein cynnyrch a hyrwyddo Cymru – roedd hon yn flwyddyn a hanner – y goron ar y cyfan oedd gweld y gogledd ymhlith y 10 lle gorau ar y blaned i ymweld ag ef! Gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr a chynnydd hefyd o dros 40% ar gyfartaledd yn yr arian y mae ymwelwyr undydd yn ei wario yn y wlad, yn ogystal â thwf o 15% yn nifer yr ymweliadau gan dwristiaid rhyngwladol yn ystod chwe mis cyntaf 2016.

Wrth i ni groesawu 2017, byddwn yn newid ein ffocws ychydig ac yn rhoi diwylliant a threftadaeth Cymru yn ganolog i waith marchnata Croeso Cymru. Mae £150 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar wyliau lle mai diwylliant a threftadaeth yw'r prif weithgaredd. Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld â'r wlad i fwynhau ein diwylliant a'n treftadaeth ddiwylliannol. Mae twristiaeth ddiwylliannol yn elfen hanfodol ‒ mae 61% o'n hymwelwyr tramor yn dweud mae ein safleoedd hanesyddol yw'r prif reswm dros ymweld â ni.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:

“Mae’r Flwyddyn Chwedlau yn rhoi llwyfan i ni i adrodd ein stori ac i roi hwb byd-eang i’n diwylliant a’n treftadaeth. Mae’n gyfle euraid i ni weithio gyda’r sector celfyddydol a’r sector twristiaeth i ddod o hyd i ffyrdd arloesol a ffres i adrodd yr hanes hwnnw

“Gallaf eich sicrhau nad blwyddyn i edrych yn ôl ar yr hyn a fu yw 2017. Pwrpas Blwyddyn y Chwedlau yw dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd erioed mo’i fath, a hynny mewn modd arloesol sydd ar flaen y gad. Mae’n gyfle i greu a dathlu chwedloniaeth newydd yng Nghymru, o bobl cyfoes i gynnyrch Cymreig, o ddigwyddiadau sy’n cael ei cynnal yma i ddigwyddiadau sy’n elwa o ddod yma.

”Dyma gyfle i gymunedau ledled Cymru gydweithio a chyd-dynnu i adrodd hanes Cymru. Dros amser, ennyn balchder yw’r weledigaeth, gan wneud y mwyaf o ddiwylliant y cymunedau hynny ry’n ni’n eu gwasanaethu. Y gobaith yw cyfoethogi a chryfhau’r diwylliant hwnnw, gan roi sylfaen gref i chwedloniaeth newydd gael ei meithrin.”

Bydd Blwyddyn Chwedlau Cymru yn cynnwys calendr o weithgareddau creadigol hollol newydd yng nghestyll Cymru yn ogystal â dadorchuddio dau waith celf gan enwogion rhyngwladol. Bydd Cymru’n cael ei hybu fel gwlad y Cyfarwydd, wrth gydweithio â VisitBritain i nodi rhyddhau ffilm newydd am y Brenin Arthur, ac yn cydnabod talentau byd-eang a ysgogwyd gan Gymru.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chasgliadau a fydd yn cynnwys gweithiau a themâu chwedlonol ac a fydd yn ennyn brwdfrydedd yn cael eu cynnal gan ein prif bartneriaid diwylliannol gan gynnwys Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Ym mis Mehefin, Cymru fydd yn cynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, a hynny yng Nghaerdydd – dyma’r achlysur chwaraeon mwyaf yn y byd eleni. I wneud y mwyaf o’r cyfle bydd ymgyrchoedd digidol amlieithog; gosodiadau arbrofol a sylw cyfryngau’r byd arnom wrth osod y llwyfan ar gyfer digwyddiadau chwedlonol eraill o’r byd chwaraeon megis Tlws Pencampwyr Criced a Phencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn.

Mae Croeso Cymru eisoes wedi cymeradwyo swm o £1.28 miliwn ar gyfer 35 o brosiectau i helpu rhanddeiliaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat i ddatblygu prosiectau sy’n gweddu i Flwyddyn Chwedlau Cymru. Un o brif amcanion rhoi’r cyllid yw meithrin cydweithio gwell ar lefel cyrchfan, gyda chyllid yn y dyfodol yn canolbwyntio ar brosiectau arloesol sy’n parhau i gefnogi gweithgareddau’r blynyddoedd â thema iddynt.

Un enghraifft yw’r prosiect gwesty glampio dros dro, sy’n cael ei redeg gan Y Gorau o Gymru mewn partneriaeth â Theithiau Cambria a George & Tomos – Penseiri. Mae Epic Retreats yn westy hollol unigryw sy’n mynd i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru 2017 drwy adael i bobl fwynhau’r dirwedd a’r profiadau gorau y gall Cymru eu cynnig iddyn nhw wrth aros mewn un o dri lleoliad gwerth chweil mewn un o wyth caban sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer y prosiect.

Mae cyllid ar gael bellach ar gyfer prosiectau sydd yn gweddu i Flwyddyn Chwedlau Cymru.

Dyma restr o rai o’r prosiectau sydd wedi cael cyllid gan Croeso Cymru:

  • 25 - 26 Mawrth - Gŵyl Myrddin Sir Gaerfyrddin – i ddathlu chwedl Myrddin a chymeriadau Arthuraidd eraill, sydd, yn ôl y sôn yn hanu o’r ardal. Cynhelir yr ŵyl yn nhref farchnad Caerfyrddin ei hun, a bydd yno adloniant ar y stryd, hud a lledrith, marchnad o gynnyrch lleol a llwybr cerfluniau a wnaed gan y gymuned/yr ysgol.
  • 24-25 Mehefin - Y Twrnamaint , Conwy – Gwahoddir ymwelwyr i fyw’r chwedl ac ymweld â Chonwy i fod yn rhan o Flwyddyn Chwedlau Cymru 2017. Dewch i fod yn rhan o ddathliadau Nos Gŵyl Ifan. Mae’r Twrnamaint yn ddigwyddiad mawr, sy’n rhad ac am ddim, yn nhref Conwy. Yno bydd arddangosfa/cystadleuaeth baledu, camp hanes byw, marchnad ganoloesol, dreigiau, gwamalwyr a pherfformwyr stryd eraill. Coronir y gyfan gyda gwledd Ganoloesol ar Gei Conwy
  • Ebrill - bydd Llenyddiaeth Cymru yn lansio’i gwefan Gwlad y Chwedlau a fydd yn mapio’r lleoliadau arbennig sydd ynghlwm wrth chwedloniaeth a storïau Cymru. Hefyd bydd yn adnodd gwych am leoliadau i fwyta, yfed, siopa, mwynhau, chwilota ac ymlacio. Gall ymwelwyr deilwra eu dyddiau gan ddefnyddio’r wefan hon, a hynny’n seiliedig ar eu diddordebau a’u chwaeth.
  • Tirwedd Chwedlonol - Profiadau Dros Dro gan Eryri-Bywiol: Yn dilyn llwyddiannau’r gyfres antur dros dro yn 2016, bydd y prosiect yn manteisio ar y cyfoeth o hanes a diwylliant sy’n gysylltiedig â thirwedd Cymru i hybu twristiaeth antur awyr agored unigryw. Bydd y prosiect profiadau antur dros dro yn rhoi profiad i ymwelwyr a fydd yn plethu antur a chwedloniaeth. Bydd rhai yn ymwneud ag antur annisgwyl mewn lleoliad chwedlonol fel cestyll.

Gellir dod o hyd i luniau i’w defnyddio mewn digwyddiadau Blwyddyn Chwedlau Cymru drwy glicio ar y ddolen hon: http://bit.ly/2gITuz4 (dolen allanol).