Mae dau brosiect gwynt ar y môr yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau yn y caffaeliad diweddaraf gan Lywodraeth y DU, gan nodi cam sylweddol ymlaen ar gyfer uchelgeisiau ynni adnewyddadwy Cymru a dod â miloedd o swyddi newydd.
Mae prosiect gwynt sefydlog Awel y Môr yng ngogledd Cymru a’r prosiect gwynt arnofiol Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro wedi derbyn cytundebau drwy’r rownd ddyrannu Contractau am Wahaniaeth.
Disgwylir i’r prosiectau ddarparu manteision economaidd sylweddol i Gymru. Mae datblygiad Awel y Môr ar ei ben ei hun yn debygol o greu tua 2,000 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu, ynghyd â 50 o swyddi ychwanegol i gefnogi’r prosiect gyda RWE. Disgwylir i brosiect Erebus gefnogi dros 600 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a 500 o swyddi drwy’r gadwyn gyflenwi.
Bydd prosiect Erebus yn helpu i sefydlu Cymru fel arweinydd ym maes y diwydiant gwynt arnofiol sy’n dod i’r amlwg.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:
Rwy’n falch iawn bod dau brosiect gwynt ar y môr Cymreig wedi sicrhau cytundebau yn y caffaeliad diweddaraf gan y DU. Mae hyn yn dangos sut mae Cymru mewn sefyllfa gadarn i adeiladu ar ei chapasiti presennol o ran ynni adnewyddadwy ac elwa o’r prosiectau newydd hyn sy’n dod â nifer fawr o swyddi o ansawdd uchel a manteision ehangach i’r economi.
Bydd y prosiect gwynt arnofiol oddi ar arfordir Sir Benfro yn sbarduno diwydiant gwynt arnofiol newydd i Gymru ac, ynghyd ag ehangu cynhyrchiant gwynt sefydlog yng ngogledd Cymru, bydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, yn helpu i leihau biliau ac yn hybu ein diogelwch ynni.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae Cymru mewn sefyllfa wych i gefnogi’r diwydiant gwynt arnofiol newydd, ynghyd â’r prosiectau gwynt sefydlog ychwanegol.
Byddwn yn gweithio gyda’r cwmnïau hyn i sicrhau bod ein porthladdoedd yn cael eu defnyddio, a bod ein cadwyni cyflenwi mewn sefyllfa i gefnogi’r diwydiant hwn. Rydym yn gwybod bod gennym y gallu a’r sgiliau eisoes – mae ein cynnig yn cael ei gydnabod yn fyd-eang, a byddwn yn parhau i adeiladu ar hynny.
