Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi prosiectau refeniw i wella cynaliadwyedd a gwydnwch cymunedau arfordirol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Fe wnaethom gyflwyno'r Gronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol yn 2023. Rydym wedi ymestyn y gronfa am ddwy flynedd arall. Bydd yn cefnogi prosiectau refeniw i:

  • wella cyfalaf cymdeithasol
  • galluogi buddsoddiad ar lawr gwlad mewn cymunedau arfordirol
  • cwrdd ag amcanion pysgodfeydd o ddull strategol Pysgodfeydd, a
  • cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r amgylchedd morol a'r heriau y mae'n eu hwynebu

Nodweddion allweddol

Pwrpas y cynllun hwn yw adeiladu capasiti rhanddeiliaid mewn cymunedau arfordirol. Nod y cynllun yw gwella cynaliadwyedd a gwydnwch cymunedau arfordirol trwy:

  • hwyluso camau i alluogi adferiad natur
  • canolbwyntio ar amcanion o ddull strategol Pysgodfeydd, a
  • hyrwyddo twf cynaliadwy ac arallgyfeirio

Bydd y gronfa hefyd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng:

  • cymunedau arfordirol lleol
  • y sector pysgodfeydd, a
  • natur

Bydd yn helpu pobl i ddeall y camau y gallant eu cymryd i wneud gwahaniaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod gennym y gallu, y sgiliau a'r dystiolaeth ar waith i gefnogi gwaith cyflawni yn y dyfodol.

Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £260,000, am ddwy flynedd ac yn cynnig:

  • isafswm grantiau o £20,000
  • hyd at 100% o gyllid
  • hyd at 2 flynedd i gyflawni'r prosiect
  • cyllid refeniw yn unig

Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordir (ar wcva.cymru)

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â lnpcymru@wcva.cymru.