Mae grwpiau cymunedol ar draws Cymru yn cael eu hatgoffa bod yna dal amser i wneud cais am grant Perthyn, sy'n cefnogi cymunedau i ddatblygu mentrau cymdeithasol neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned.
Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael o gronfa Perthyn Llywodraeth Cymru i helpu grwpiau i gymryd y camau cyntaf ar gyfer sefydlu a rhoi eu cynlluniau ar waith. Ers 2022, mae'r cynllun wedi cefnogi cymunedau Cymraeg, gyda 64 o grantiau wedi'u dyfarnu i grwpiau yng Ngwynedd, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Eleni, mae'r cynllun wedi'i ehangu fel y gall cymunedau ledled Cymru wneud cais.
Gyda chefnogaeth grant Perthyn, mae dwy fenter gymdeithasol sy'n eiddo i'r gymuned yn cael eu datblygu yn ward Bro Aberffraw ar Ynys Môn i wella gwasanaethau lleol a chryfhau'r ardal yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys lansio gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol sy'n defnyddio bysiau mini trydan i leihau ynysu gwledig a gwella mynediad at wasanaethau. Mae'r grŵp hefyd yn anelu at ailddatblygu cyfleusterau toiledau cyhoeddus Niwbwrch yn ganolfan gymunedol, gan ddarparu toiledau cyhoeddus, caffi, gwasanaeth llogi beiciau a phwynt gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd y Gymraeg yn ganolog i'r ddau brosiect.
Dywedodd Cadeirydd Cynghrair Bro Aberffraw, Sara Spinks:
Mae’r grant Perthyn wedi rhoi cyfle i'n cymuned droi syniadau a fu gennym am amser hir yn gynlluniau ymarferol a fydd o fudd i bobl leol. Bydd y prosiectau hyn yn helpu i gryfhau gwasanaethau yn yr ardal tra'n sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn ganolog i fywyd cymunedol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
Mae'r prosiectau cymunedol cyffrous yma, ynghyd â’r rhai eraill sydd wedi eu cefnogi gan grantiau Perthyn dros y blynyddoedd diwethaf, yn dangos sut gall gweithredu lleol gryfhau cymunedau, a chefnogi'r defnydd bob dydd o'r Gymraeg.
Drwy ehangu cynllun grant Perthyn ledled Cymru, rydyn ni’n rhoi cyfle i fwy o gymunedau gymryd rheolaeth o'u dyfodol a rhoi'r Gymraeg wrth wraidd eu cynlluniau. Rwy'n annog grwpiau cymunedol i wneud cais cyn y dyddiad cau.
Rhaid i grwpiau cymunedol wneud cais erbyn 31 Ionawr 2026 drwy ddilyn y ddolen yma: Perthyn - Cwmpas.
