Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y gronfa yn helpu i gefnogi digwyddiadau i greu amgylchedd diogel a chroesawus ar gyfer pobl LHDTC+.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cronfa Balchder Llawr Gwlad 2024 i 2025 bellach yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb a cheisiadau. 

Trosolwg

Rydym yn dymuno ehangu Cronfa Balchder Llawr Gwlad i ardaloedd mwy gwledig a threfi llai. Rydym am helpu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn driw i’w hunain ledled Cymru.

Pwy all wneud cais i’r Gronfa hon?

Bydd y gronfa yn helpu digwyddiadau Balchder llai ledled Cymru i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi.

Dylid cael un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel rheolwr y prosiect ac sy’n gyfrifol am reoli’r dyfarniad cyllid o ddydd i ddydd.

Nodau’r Gronfa

Dyma rai o dargedau’r Gronfa:

  • cynnal digwyddiad Balchder LHDTC+ mewn lleoliad yng Nghymru, a all gynnwys cyfleoedd i berfformwyr ac artistiaid LHDTC+
  • cynnal gwaith maes gyda chymunedau ehangach, gan ganolbwyntio ar archwilio gofodau mwy diogel a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol newydd
  • cyfrannu at ein hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i Gymru fod y wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb a chais

I gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer y cynllun hwn, anfonwch e-bost i: CynllunGweithreduLHDTC+@llyw.cymru.

Bydd Tîm Polisi LHDTC+ yn rhannu canllawiau, gan gynnwys meini prawf, ar sut i gyflwyno cais.

Dyddiad cau

Rydym yn annog sefydliadau i gyflwyno cais erbyn 7 Ebrill 2024 neu cyn hynny. Gellid ystyried ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw, os bydd y cyllid ar gael.

Cymunedau LHDTC+ ac arweinyddiaeth

Fel rhan o’r gronfa hon, rydym am osod lleisiau cymunedau LHDTC+ llawr gwlad yn y man mwyaf blaenllaw wrth ddylunio a datblygu digwyddiadau. Rydym yn annog sefydliadau i ymgysylltu â chymunedau LHDTC+ wrth ddatblygu’r digwyddiad. Bwriad hyn yw helpu i gael mewnbwn cymunedau LHDTC+ i bwyllgor y digwyddiad a/neu rolau arweiniol.

Enghreifftiau o ddigwyddiadau Balchder a gefnogir gan y cynllun hwn

  • Pride Y Barri.
  • Pride y Bontfaen.
  • Glitter Pride gan Glitter Cymru.
  • Balchder Gogledd Cymru (Bangor).
  • Pride in the Port (Casnewydd).
  • Pride Abertawe.