Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu 63 o swyddi yng nghwmni gweithgynhyrchu Isringhausen GB Limited yn Wrecsam.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cwmni, sy’n gweithio o Barc Busnes Redwither, yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth ac mae'n cyflenwi systemau seddi ar gyfer mathau gwahanol o gerbydau sy’n cael eu cynhyrchu gan frandiau ledled y byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £63,000 i gefnogi'r cwmni, ac mae’r cyllid hwnnw wedi diogelu swyddi a allai, fel arall, fod wedi'u colli oherwydd effaith economaidd pandemig y coronafeirws.

Mae'r Gronfa, sy'n rhan o becyn cymorth o fwy na £2 biliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau, yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru, ac mae eisoes wedi helpu i ddiogelu 125,000 o swyddi. Mae'r gronfa'n ategu'r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Steve Szabo, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Isringhausen GB Limited:

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn un eithriadol o anodd a heriol oherwydd pandemig COVID-19.

"Rydyn ni yn Isringhausen yn ddiolchgar am y gefnogaeth hanfodol gawson ni o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

"Mae'r cymorth hwn wedi’n helpu i ymdopi drwy gydol y flwyddyn ac yn golygu ein bod wedi gallu diogelu a chadw’n gweithlu cyflawn o 63 o weithwyr er ein bod yn cyflenwi i farchnad sy’n llai.

"Byddwn ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth i'n cwsmeriaid ac amgylchedd gwaith sefydlog i'n holl weithwyr yn y dyfodol. Hoffen ni ddiolch iddyn nhw am fod mor hyblyg drwy gydol y cyfnod hwn o ansicrwydd, sy’n rhywbeth nad ydyn ni wedi’i brofi erioed o’r blaen.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Ers dechrau'r pandemig, rydyn ni wedi darparu pecyn sylweddol o gymorth, sy'n werth mwy na £2 biliwn, i fusnesau Cymru, ac wedi darparu'r cymorth hwnnw’n  gyflym. Dyma'r cymorth mwyaf hael sy’n cael ei gynnig i fusnesau unrhyw le yn y DU.

"Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn allweddol i'n hymdrechion i ddiogelu cwmnïau, swyddi a bywoliaeth pobl rhag effeithiau economaidd difrifol y feirws, a dw i'n falch ei fod wedi rhoi cymorth ariannol hanfodol i Isringhausen GB Limited yn Wrecsam ar adeg pan oedd ei angen fwyaf arnynt.

"Fel llywodraeth, byddwn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’n busnesau a'n pobl rhag effeithiau'r argyfwng hwn."