Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae NEC Software Solutions (NEC), ar ran Llywodraeth Cymru, yn derbyn gwybodaeth bersonol am ymgeisydd yn uniongyrchol gan y cleient neu gan unigolyn sydd â chaniatâd i weithredu ar ran y cleient. Heb y wybodaeth hon ni ellir prosesu'r cais. Mae'n cynnwys y canlynol:

  • enw
  • cyfeiriad
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • dyddiad geni
  • manylion budd-dal yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • problemau iechyd
  • gwybodaeth am unrhyw ddibynyddion sy'n byw ar yr aelwyd
  • mae data technegol yn cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), math a fersiwn y borwr, gosod a lleoliad parth amser, mathau a fersiynau ategyn porwr, system weithredu a'i lwyfan a thechnoleg arall ar y dyfeisiau rydych chi'n eu defnyddio i gael mynediad i'n gwefan

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ac NPS yw'r prosesydd data.

Beth ydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Pwerau cyfreithiol

Mae Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maen nhw'n ei ystyried sy'n briodol i hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol Cymru. Mae Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol, ar ffurf grant, benthyciad neu warant, i unrhyw berson sy'n ymwneud ag unrhyw weithgaredd a fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfrannu at gyflawni unrhyw amcan y maent am ei gyflawni wrth arfer eu swyddogaethau.

Mae Adran 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi grym i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth yr ystyrir ei fod yn hwyluso arfer unrhyw un o'u swyddogaethau, ac unrhyw beth sy'n gydnaws â hynny neu'n atodol i hynny.

Sail gyfreithlon

O dan Erthygl 6(e) mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg sy'n cael ei chynnal er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi ei freinio yn y rheolydd.

O dan Erthygl 9(2)(g) mae prosesu yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd sylweddol sydd, ar sail cyfraith yr Undeb neu gyfraith yr Aelod-wladwriaeth, yn gymesur i'r hyn y mae'n ceisio'i gyflawni, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data ac yn darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau'r gwrthrych y data.

O dan ein cylch gwaith fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth sy'n dod i law at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud tasgau cyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol:

  • pennu cymhwystra ar gyfer cymorth ariannol
  • asesu a oes angen rhoi cymorth ariannol i'r cleient
  • pennu lefel y cymorth ariannol a fyddai'n cael ei roi i'r cleient, os penderfynir bod ei angen
  • rhoi manylion am y cleient, gan gynnwys enw a chyfeiriad, a’r dyfarniad a roddir i'r trydydd partïon fel y nodir isod i gyflawni'r dyfarniad
  • rhoi manylion i asiantaethau eraill sydd mewn sefyllfa i roi fwy o cymorth i'r ymgeisydd er enghraifft Cyngor ar bopeth Rhondda Cynon Taf, Cyngor ar bopeth Caerfyrddin, Pennysmart a Groundwork
  • at ddibenion Ystadegol ac Ymchwil – bydd yr holl ddata yn ddienw
    • i lywio, gwella a dylanwadu ar y gwasanaeth a ddarperir
    • i fonitro a thargedu cyllid yn effeithiol
    • i fonitro perfformiad y Gronfa Cymorth Dewisol
    • i gysylltu â meysydd polisi eraill Llywodraeth Cymru
  • cyhoeddiadau (ffeithlun) - bydd yr holl ddata yn ddienw
    • ceisiadau gan sefydliadau allanol ar wefan Llywodraeth Cymru

Gyda phwy yr ydym yn rhannu'r wybodaeth?

Bydd yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi a'ch cais yn cael ei rhannu â sefydliadau sy'n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i gyflawni eich cais.

Y sefydliadau hynny yw:

  • Atebion Meddalwedd NEC
  • Family Fund Business Services
  • The Furniture Service (TFS)
  • PayPoint agents
  • AO Retail Limited
  • Park Group (clothing vouchers)
  • yr heddlu, pan fo amheuaeth o dwyll

Am faint o amser y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data am 7 mlynedd ar y mwyaf ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r data hwnnw yn ymwneud ag ef yn unol â gofynion archwilio. Ar ôl y pwynt hwn bydd y data yn ddienw ac efallai y bydd y data yn cael ei ddefnyddio mewn astudiaethau achos a/neu ei ddinistrio.

Eich hawliau o ran eich gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i:

  • gael mynediad at y data personol amdanoch sy'n cael ei phrosesu gennym
  • gofyn i ni gywiro camgymeriadau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu’r gwaith prosesu - o dan rai amgylchiadau - i dynnu'ch cais yn ôl cyn iddo gael ei brosesu a chyn i benderfyniad gael ei wneud i gymeradwyo neu wrthod
  • dileu'ch data, mewn rhai amgylchiadau
  • cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data (manylion cyswllt isod)

Gwybodaeth bellach a manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y  Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Tîm Cynhwysiant Ariannol
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

E-bost: financialinclusion@llyw.cymru

Helen Morris
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionoficer@llyw.cymru

Rachel Goodman
Swyddog Diogelu Data
Atebion Meddalwedd NEC
BizSpace
Llawr 1af
Canolfan iMex
575-599 Maxted Rd
Hemel Hempstead
HP2 7DX

E-bost: dpo@necsws.com

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk