Cronfa Ddiwylliant Cymru Wrth-hiliol 2025 i 2026: canllawiau
Canllawiau ar sut i wneud cais am Gronfa Diwylliant Cymru wrth-hiliol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad: Cronfa Ddiwylliant Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022, yn adeiladu ar fentrau hil a chydraddoldeb blaenorol gan Lywodraeth Cymru, ac yn ailbwysleisio ymrwymiad hirsefydledig Llywodraeth Cymri i sicrhau cydraddoldeb i bawb. Cafodd y Cynllun Gweithredu ei adolygu a’i ddiwygio, gan ymgorffori camau gweithredu newydd, cyn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2024. Mae'r nodau a'r camau gweithredu sy'n gysylltiedig â diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yn parhau heb eu newid wrth i ni gwblhau gwerthusiad theori newid annibynnol ar ein rhaglenni grant. Bydd canfyddiadau'r gwerthusiad yn llywio ac yn helpu i fireinio ein nodau a'n camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd cynrychioli ac adlewyrchu hanes a diwylliant pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn sicrhau y caiff eu cyfraniad at Gymru ei gydnabod, gan sicrhau hefyd fynediad cyfartal a chyfleoedd cyfartal i gymryd rhan. Bydd hyn yn cyflawni canlyniadau gwell i bawb, ac yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo Cymru amlddiwylliannol, fywiog ac amrywiol yn well, sy'n hanfodol i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gwbl wrth-hiliol.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer Cymru gwbl wrth-hiliol, mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn pennu nodau a chamau gweithredu clir. Mae'r adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon i'w gweld ar dudalennau 31-35 ac mae'n canolbwyntio ar themâu Arweinyddiaeth, Cyllid, Dathlu Amrywiaeth Ddiwylliannol, y Naratif Hanesyddol a Dysgu am ein Hamrywiaeth Ddiwylliannol.
Bydd Cronfa Diwylliant Cymru Wrth-hiliol ar gyfer y sector leol yn darparu cyllid grant i helpu sefydliadau i gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant a bennir yn y Cynllun Gweithredu ac ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.
Dylai ymgeiswyr ddarllen y canllawiau canlynol yn ofalus a datblygu eu cynigion yn unol â'r meini prawf asesu.
2. Y broses gwneud cais
Bydd y cynllun grant yn cynnwys proses gwneud cais un cam gystadleuol.
Gweler isod yr amserlen ar gyfer cynllun grant 2025/26:
- Y Gronfa Ddiwylliant Cymru Wrth-hiliol yn agor: 21 Mai 2025
- Ffenestr gwneud cais: 21 Mai i Mehefin 2025
- Asesu ceisiadau: Mehefin i Gorffennaf 2025
- Cyhoeddi penderfyniadau: Erbyn yr wythnos sy'n dechrau ar 14 Gorffennaf 2025
- Dechrau'r Prosiect: Awst 2025
3. Pwy all wneud cais
Er mwyn gwneud cais am gyllid, dylech fodloni'r gofynion canlynol:
- Bod yn sefydliad, neu'n unigolyn sy'n gweithio gyda sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru neu sy'n gweithredu yma.
- Ymwneud â Diwylliant: sectorau'r Celfyddydau, Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd neu Dreftadaeth, a phrofiad o ymgysylltu neu gyflawni yn y sectorau hyn.
- Ymrwymiad i fod yn rhan o waith Llywodraeth Cymru i werthuso'r rhaglen.
Gallu cwblhau'r gwaith a gyllidir erbyn 20 Mawrth 2026 a hawlio'r grant erbyn 25 Mawrth 2026.
Bydd pob cais a gymeradwyir dros dro yn ddarostyngedig i wiriadau ariannol cefndirol. Ni fydd cais am gyllid grant yn llwyddiannus oni lwyddir yn y gwiriadau hyn.
Bydd pob cynnig grant yn ddarostyngedig i delerau ac amodau grant safonol Llywodraeth Cymru.
Polisi Llywodraeth Cymru yw talu drwy ôl-daliadau. Fodd bynnag, mae'n cydnabod na fydd gan rai sefydliadau gronfeydd wrth gefn mawr ac na fydd ganddynt yr adnoddau i ymgymryd â gwaith a chael taliad wedi hynny. Gellir ystyried darparu cyllid ar gyfer gwariant yr ymrwymwyd iddo drwy ragdaliad, ond dim ond os bydd tystiolaeth glir o'r angen i wneud hynny. Rhaid i'r ymgeisydd nodi hyn ar y cam gwneud cais, gan gyflwyno tystiolaeth wedi hynny os bydd y cais yn llwyddiannus. Os na fydd y cyllid wedyn yn cael ei wario yn ôl y bwriad, bydd angen iddo gael ei ad-dalu.
Mae ôl-daliadau yn cyfeirio at daliad a wneir ar ôl i'r gwasanaeth neu'r cynnyrch gael ei ddarparu. Mae i’r gwrthwyneb i daliadau ymlaen llaw, lle mae'r taliad yn digwydd cyn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau.
4. Yr hyn y byddwn yn ei gyllido
Dylai ceisiadau ddangos sut y bydd y prosiectau a gyllidir yn cyflawni nodau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol mewn perthynas â Diwylliant.
Ystyrir ceisiadau am rhwng £10,000-£20,000 o gyllid refeniw ar ôl i'r ffurflen gais atodedig gael ei chyflwyno.
Os oes gennych gynnig sydd ychydig y tu hwnt i'r amrediad cyllideb, cysylltwch â ni i drafod a ellid ystyried cais. Anfonwch y cais, ynghyd â rhesymeg glir a'r gyllideb gysylltiedig, i diwylliant@llyw.cymru. Rhaid i chi wneud hyn o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid.
Dyrennir yr holl gyllid drwy'r cynllun grant hwn yn ôl disgresiwn, ac mae'n debyg y bydd cystadleuaeth am y cyllid sydd ar gael. Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y cewch yr holl arian rydych yn gwneud cais amdano, neu ran ohono.
Os bydd cais yn cynnwys cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau cysylltiedig, rydym yn cynghori ymgeiswyr i'w blaenoriaethu'n glir yn y cais ac i ddarparu digon o wybodaeth ar gyfer pob elfen o'r cynnig er mwyn galluogi swyddogion i'w hystyried fel prosiectau ar wahân ac wedi'u costio, os bydd angen. Gall darparu'r wybodaeth hon ein galluogi i ystyried cyllido rhai o'ch gweithgareddau â blaenoriaeth uwch, os bydd maint y gystadleuaeth am y cyllid sydd ar gael yn ein hatal rhag ystyried y cais yn ei gyfanrwydd.
Dylai pob prosiect fedru cael ei gwblhau erbyn 20 Mawrth 2026.
Gall costau refeniw nodweddiadol gynnwys y canlynol:
- cyflogau'r staff sy'n rhan o'r gwaith o gynnal y prosiect, a/neu ffioedd cyfranogwyr a threfnwyr.
- costau llogi safle, trafnidiaeth a chynhaliaeth i'r rhai sy'n rhan o'r prosiect.
- costau sy'n gysylltiedig â digwyddiad, ac yswiriant costau deunyddiau a ddefnyddir i drefnu, hyrwyddo a hwyluso'r prosiect.
Caiff pob cais am grant ei asesu gan yr Is-adran Diwylliant yn erbyn y meini prawf blaenoriaeth a restrir yn adran 5 o'r ddogfen hon.
Rydym yn edrych am geisiadau sy'n dangos yn glir sut maent yn cefnogi cyflawni'r nodau a'r camau gweithredu Diwylliant a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo nodau arweinyddiaeth a chyllid. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau sy'n cyfrannu at gyflawni nodau a gweithredoedd diwylliant yn ehangach o fewn adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon y Cynllun. Mae'n hanfodol bod eich cais yn sefydlu cysylltiad cryf rhwng eich prosiect a'i rôl wrth gefnogi a chyflawni'r nodau a'r camau gweithredu penodol hyn.
Mae Blaenoriaethau Diwylliant newydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu nifer o flaenoriaethau ac uchelgeisiau strategol ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru. Byddai eich cais yn cael ei gryfhau pe gallech hefyd ddangos aliniad cryf â'r Blaenoriaethau Diwylliant newydd.
Bydd ein hasesiad cyllid a'n dyraniad grant yn seiliedig ar ddosbarthiad cytbwys o arian, gan sicrhau cefnogaeth i'r holl nodau a gweithredu, gyda mwy o bwyslais ar brosiectau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau arweinyddiaeth a chyllid. Er bod nodau a gweithredoedd arweinyddiaeth wedi'u cynllunio yn bennaf ar gyfer cyrff cenedlaethol, credwn yn gryf bod y sector lleol hefyd yn chwarae rhan werthfawr yn eu cyflawni.
Os ydych wedi gwneud cais am gyllid o'r blaen drwy ein cyllid Diwylliant gan Lywodraeth Cymru, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn deall sut y bydd y cais hwn yn ehangu ac yn gwella eich prosiectau cynharach. Amlinellwch sut mae eich gwaith arfaethedig yn adeiladu ar fentrau yn y gorffennol, yn cryfhau eu heffaith, ac yn cyfrannu at gyflawni nodau a chamau gweithredu Diwylliant Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Bydd hyn yn ein helpu i asesu parhad a gwerth ychwanegol eich cais yn well.
Mae enghreifftiau o feysydd y gellir eu cyllido o dan y cynllun grant hwn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- Rhaglen hyfforddi / mentora gwrth-hiliaeth ar gyfer arweinwyr ac aelodau bwrdd.
- Mentrau i sicrhau mwy o amrywiaeth ymhlith aelodaeth byrdddau.
- Datblygu pecyn cymorth a hyfforddiant i wella arferion recriwtio i gefnogi ceisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
- Cefnogi rhaglenni wedi’u cynllunio ar y cyd rhwng cyrff cenedlaethol a sefydliadau dan arweiniad Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
- Sefydlu canolfan meithrin gallu rhanbarthol i gefnogi mynediad at gyllid a thwf sefydliadau dan arweiniad Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
- Defnyddio a rheoli casgliadau presennol a/neu archifau ac arteffactau newydd er mwyn gwella mynediad, deall neu chwalu rhwystrau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
- Ymchwil.
- Gwaith ymgysylltu ac allgymorth gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn adolygu prosesau a systemau yn ogystal â datblygu rhaglenni gwaith newydd.
Dylai ymgeiswyr nodi'r canlynol hefyd:
- Gall ymgeiswyr ofyn am hyd at 10% o'r dyfarniad grant i gefnogi costau saff rheoli'r prosiect, ond ni fydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gostau dileu swyddi pan ddaw'r prosiect i ben.
- Ni fyddwn yn cyllido prosiectau sy'n cael cyllid grant arall gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
- Rydym yn croesawu ceisiadau lle mae arian cyfatebol gan sefydliad arall ar waith. Dylech gyflwyno tystiolaeth o'ch cynnig arian cyfatebol gyda'ch cais.
5. Meini prawf asesu
Caiff ceisiadau eu sgorio gan ddefnyddio'r raddfa sgorio ganlynol. Caiff sgôr pob maen prawf asesu ei luosi â'r ffactor pwysoli cysylltiedig i roi cyfanswm sgôr. Ceir rhagor o fanylion am bob maen prawf yn adrannau 6-13.
| Meini Prawf Asesu | Sgôr | Ffactor Pwysoli | |
|---|---|---|---|
| 1 | Nodau a Chamau Gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Tystiolaeth i ddangos sut mae'r prosiect yn cyfrannu at gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a bennir yn y Cynllun Gweithredu. Cysylltiad clir â’r nod a’r cam(au) gweithredu i’w weld yn y cais. | 0-4 | x 3 |
| 2 | Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu Tystiolaeth i ddangos sut mae'r prosiect yn cyd-fynd ag ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu o ran cydraddoldeb hil. | 0-4 | x 2 |
| 3 | Blaenoriaethau Diwylliant Tystiolaeth o’r ffordd y mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r uchelgeisiau yn y Blaenoriaethau Diwylliant newydd. | 0-4 | x 2 |
| 4 | Cyflawni'r Prosiect a Chostau Tystiolaeth o sut caiff y broses o gyflawni’r prosiect ei rheoli. | 0-4 | x 2 |
| 5 | Cydgynhyrchu/Cefnogaeth gymunedol Tystiolaeth o gefnogaeth gymunedol/cydgynhyrchu ar gyfer eich prosiect. | 0-4 | x 2 |
| 6 | Effaith Hirdymor Tystiolaeth o effaith hirdymor a chynaliadwyedd y prosiect. | 0-4 | x 2 |
| 7 | Gwerthuso a Mesur Llwyddiant Gwybodaeth am y dull o fesur llwyddiant gweithgarwch y prosiect ac adrodd arno. | 0-4 | x 2 |
6. Maen prawf 1: Nodau a Chamau Gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Caiff ymgeiswyr eu hasesu drwy ystyried sut y byddant yn cyflawni'r nodau a'r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a nodir ar dudalennau 31-35 yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae nodau'r Cynllun Gweithredu mewn perthynas â Diwylliant wedi'u cynnwys isod:
Arweinyddiaeth
Dwyn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus i gyfrif am roi mesurau a chamau gweithredu gwrth-hiliol ar waith, fel y’u nodir yn y cynllun gweithredu hwn.
Cyllid
Gweithio gyda’r cyrff a noddir gennym i sicrhau eu bod yn defnyddio eu pwerau gwario i roi arferion gwrth-hiliol ar waith, hwyluso mynediad a chanlyniadau cydradd, a chynyddu lefelau cyfranogiad ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i’r eithaf.
Dathlu amrywiaeth
Helpu pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i groesawu a dathlu ei threftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan ddeall a chydnabod yr hawl i ryddid mynegiant diwylliannol.
Y Naratif Hanesyddol
Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod eu cyfrifoldeb yn llawn (yn unigol ac ar y cyd) am osod naratif hanesyddol cytbwys, gan ystyried anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol pobl Ddu, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig.
Dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol
Nodi a chyrraedd targedau i gynnig cyfleoedd addysg a dysgu gwrth-hiliol, gan gynnwys deunyddiau dehongli, marchnata ac addysgol sy'n cydnabod ac yn dathlu cymysgedd diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ein cymdeithas, yn annog ymgysylltiad corfforol a deallusol eang ac yn hyrwyddo arferion ac egwyddorion gwrth-hiliol drwyddi draw.
| Sgôr | |
|---|---|
| 4 | Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol iawn ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu. |
| 3 | Rhoddir esboniad clir ac sy’n argyhoeddi ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu. |
| 2 | Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â nodau a chamau gweithredu o fewn ARWAP, ond mae cynlluniau'n cynnwys mân fylchau y gellid eu datblygu'n gryfach. |
| 1 | Ceir cysylltiadau amlwg ynghylch y ffordd y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn. |
| 0 | Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu. |
7. Maen prawf 2: Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu
Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried sut mae'r prosiect yn cyd-fynd ag ymrwymiadau canlynol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru:
- Sicrhau bod hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn ein sectorau diwylliannol a threftadaeth, gan gynnwys yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol.
| Sgôr | |
|---|---|
| 4 | Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni'r ymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu. |
| 3 | Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu. |
| 2 | Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu, ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau a gellid eu datblygu'n gryfach. |
| 1 | Ceir cysylltiadau amlwg ynghylch y ffordd y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn. |
| 0 | Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu |
8. Maen prawf 3: Blaenoriaethau Diwylliant
Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried sut mae prosiectau yn cyd-fynd â’r Blaenoriaethau Diwylliant newydd, yn enwedig y blaenoriaethau a dyheadau canlynol:
Mae diwylliant yn dod â phobl ynghyd:
- Mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol.
- Mae democratiaeth ddiwylliannol a hawliau diwylliannol yn ganolog i ddiwylliant.
- Mae diwylliant wedi’i wreiddio mewn creu lleoedd.
- Mae diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc, ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau.
- Mae cymryd rhan mewn diwylliant yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedau.
| Sgôr | |
|---|---|
| 4 | Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni uchelgais y Blaenoriaethau Diwylliant. |
| 3 | Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni uchelgais y Blaenoriaethau Diwylliant. |
| 2 | Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni uchelgais y Blaenoriaethau Diwylliant, ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau a gellid eu datblygu'n gryfach. |
| 1 | Ceir cysylltiadau amlwg ynghylch y ffordd y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni uchelgais y Blaenoriaethau Diwylliant, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn. |
| 0 | Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni uchelgais y Blaenoriaethau Diwylliant. |
9. Maen prawf 4: Cyflawni'r Prosiect a Chostau
Bydd ymgeiswyr grant yn cael eu hasesu ar sut mae eu cais yn dangos cyflawniad allbynnau allweddol y prosiect trwy gynllun cyflawni clir. Bydd yr holl weithgarwch yn digwydd rhwng mis Awst 2025 a mis Mawrth 2026 (dyma uchafswm cyfnod cyflawni’r prosiect), neu am gyfnod cyflawni byrrach.
Bydd pob cynnig yn cynnwys cyllideb a dadansoddiad o'r costau disgwyliedig. Dylai'r costau fod yn seiliedig ar yr isafswm cyllid sydd ei angen i gyflawni'r prosiect. O fewn y dadansoddiad cost, dylai cynigion hefyd esbonio sut mae costau'r prosiect yn rhesymol. Bydd angen i hyn gynnwys tystiolaeth glir o sut y pennwyd y costau fel y nodir yn y ffurflen gais.
Dylai ceisiadau ddarparu amserlen dalu sy'n rhoi amserlen amcangyfrifedig ar gyfer cyflwyno hawliadau yn seiliedig ar amserlen a cherrig milltir eich prosiect.
Dylai ceisiadau nodi risgiau allweddol a dangos sut y bydd y rhain yn cael eu lliniaru.
| Sgôr |
|
|---|---|
| 4 | Rhoddir esboniad clir, cymhellol a chynhwysfawr iawn o'r modd y caiff y broses o gyflawni'r prosiect ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cerrig milltir allweddol y prosiect ac esboniadau ynghylch sut y cânt eu cyflawni, cyllideb glir gan gynnwys dadansoddiad o gostau â thystiolaeth dda, a chofrestr risg gynhwysfawr yn manylu ar fesurau lliniaru risg priodol. |
| 3 | Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o'r modd y caiff y broses o gyflawni'r prosiect ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cerrig milltir allweddol y prosiect ac esboniadau ynghylch sut y cânt eu cyflawni, cyllideb glir gan gynnwys dadansoddiad o gostau â thystiolaeth, a chofrestr risg gynhwysfawr yn manylu ar fesurau lliniaru risg priodol. |
| 2 | Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y caiff y broses o gyflawni'r prosiect ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cerrig milltir allweddol y prosiect ac esboniadau ynghylch sut y cânt eu cyflawni, cyllideb yn cynnwys dadansoddiad o gostau â thystiolaeth, a chofrestr risg yn manylu ar fesurau lliniaru risg posibl. Ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau y gellid eu datblygu'n gryfach. |
| 1 | Darperir manylion ynghylch sut y caiff y prosiect ei reoli ond nid ydynt yn cael eu harchwilio'n llawn. Darperir cerrig milltir, gwybodaeth gyllidebol a/neu risg ond maent yn aneglur, yn anghyflawn neu heb eu harchwilio'n llawn. |
| 0 | Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y caiff y gwaith o gyflawni'r prosiect ei reoli. |
10. Maen prawf 5: Cydgynhyrchu/Cefnogaeth gymunedol
Cadarnhaodd yr adborth a gafwyd wrth ddatblygu'r Cynllun Gweithredu yn gyson y bydd cyd-ddylunio a chydweithio yn hanfodol i gyflawni'r cynllun. Bydd ceisiadau am gyllid grant yn cael eu hasesu ar sut mae’r cynnig wedi ei gyd-gynhyrchu neu sut y bydd yn cael ei gyd-gynhyrchu a/neu sut mae'r prosiect yn ennyn cefnogaeth y bobl y bwriedir iddo ymgysylltu â nhw. Ceir rhagor o wybodaeth am gydgynhyrchu: Co-production Network for Wales | copronet.wales
| Sgôr | |
|---|---|
| 4 | Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr, a chymhellol iawn o sut mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol/cydgynhyrchu i'r prosiect. |
| 3 | Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect. |
| 2 | Rhoddir esboniad eithaf clir o sut mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect, ond mae’n cynnwys mân fylchau ac fe ellid eu datblygu'n gryfach. |
| 1 | Ceir cysylltiadau clir â'r ffordd y mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn. |
| 0 | Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut mae’r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect. |
11. Maen prawf 6: Effaith hirdymor
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i gyflawni newid trawsnewidiol y gellir ei gynnal dros amser. Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried sut mae'r prosiect yn helpu i sicrhau'r newid hwn. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r gwahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud a'r effaith hirdymor y maent yn disgwyl iddo ei chael ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Dylai ymgeiswyr ddangos sut y caiff yr effaith hon ei chynnal dros amser.
Sgôr
- 4: Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol iawn o sut y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn y tymor hir.
- 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn y tymor hir.
- 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cyflawni newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn y tymor hir, ond mae’r cynlluniau’n cynnwys mân fylchau a gellid eu datblygu’n gryfach.
- 1: Ceir cysylltiadau clir â'r ffordd y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn yr hirdymor, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn.
- 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn yr hirdymor.
12. Maen prawf 7: Y dull o fesur gweithgarwch y prosiect ac adrodd arno
Dylai prosiectau ganolbwyntio ar fonitro sut mae eu gweithgarwch yn mynd i'r afael ag allbynnau, canlyniadau ac effeithiau'r Cynllun Gweithredu. Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried y manylion a roddir ynglŷn â sut y caiff y canlyniadau hyn eu monitro, gan gynnwys dangosyddion CAMPUS sy'n mesur i ba raddau y caiff y prosiect ei gyflawni a'i lwyddiant, a chasglu data er mwyn mesur perfformiad yn erbyn amcanion ehangach y Cynllun Gweithredu. Bydd dangosyddion perfformiad CAMPUS yn benodol, yn fesuradwy, yn gyflawnadwy, yn berthnasol ac yn benodol o ran amser.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd ymrwymo i gymryd rhan yng ngwaith Llywodraeth Cymru i werthuso'r rhaglen.
Sgôr
- 4: Rhoddir esboniad clir iawn, cynhwysfawr a chymhellol o sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd.
- 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd.
- 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau y gellid eu datblygu'n gryfach.
- 1: Mae’r cysylltiadau â sut y caiff y prosiect ei fesur a'i adrodd yn amlwg ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn.
- 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd.
13. Monitro a Gwerthuso
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am gasglu data monitro a gwerthuso ac adrodd ar gyfranogiad a pherfformiad, a bydd disgwyl iddynt adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru.
Rhaid i bob ymgeisydd sicrhau bod unrhyw ddata personol a brosesir mewn perthynas â’u cynigion grant yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU.
Ar ddiwedd eich prosiect, bydd yn ofynnol ichi gyflwyno adroddiad byr yn cadarnhau sut y defnyddiwyd y cyllid. Darperir templed ar ôl dyfarnu grant ac mae'n debygol y bydd yn ofynnol ichi ddangos sut mae eich prosiect wedi cyflawni yn erbyn allbynnau'r Cynllun Gweithredu, pa waith gwerthuso a wnaed, a sut mae amodau'r grant wedi'u bodloni.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i werthuso llwyddiant y grant hwn ac mae'n bwriadu cynnal gwerthusiad annibynnol o feysydd Diwylliant y Cynllun Gweithredu. Rhagwelir y bydd yr ymchwil hon yn ystyried y ffordd y mae'r gweithgareddau wedi'u cyflawni a'u heffaith. Bydd yn asesu i ba raddau y gellir priodoli'r allbynnau a'r canlyniadau yn uniongyrchol i weithgareddau'r cynllun ac yn ystyried a yw effeithiau ehangach a ragwelwyd neu nas rhagwelwyd wedi'u gwireddu.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru neu drydydd parti sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi at ddibenion ymchwil a gwerthuso a/neu er mwyn ichi roi adborth ar eich profiad o'r cynllun. Caiff y wybodaeth hon ei dadansoddi a'i chyflwyno yn ddienw yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd.
14. Ble y gallaf gael help?
Cynghorir ymgeiswyr sydd ag unrhyw ymholiadau, gan gynnwys os ydynt yn ansicr ynglŷn â'u cymhwysedd i wneud cais am gyllid grant, gysylltu â blwch post canolog yr Is-adran Diwylliant yn diwylliant@llyw.cymru i gael cyngor ar eu darpar brosiect cyn cyflwyno cais.
15. Ffynonellau gwybodaeth eraill
16. Terminoleg Ddefnyddiol
Allbynnau
Allbynnau yw'r pethau rydych chi'n eu gwneud neu'n eu cynhyrchu yn ystod y prosiect. Enghreifftiau: Cynnal gweithdy neu ddarparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
Canlyniadau
Canlyniadau yw'r newidiadau neu'r manteision sy'n digwydd oherwydd eich prosiect – dyma'r gwahaniaeth y mae eich prosiect yn ei wneud. Enghreifftiau: Pobl yn ennill sgiliau newydd, cymunedau yn teimlo'n fwy cynrychioledig, sefydliadau yn newid eu ffyrdd o weithio.
Effeithiau
Effeithiau yw'r effeithiau tymor hwy y mae eich prosiect yn helpu i'w creu. Enghreifftiau: Sector diwylliannol mwy gwrth-hiliol, mwy o falchder diwylliannol ymhlith cenedlaethau'r dyfodol.
Ôl-daliadau
Ôl-daliadau yw pan fyddwch chi'n gwario eich arian grant yn gyntaf, yna'n ei hawlio'n ôl yn nes ymlaen. Enghraifft: Rydych chi'n talu am logi lleoliad, yn anfon y dderbynneb at Lywodraeth Cymru, ac rydych yn cael eich ad-dalu wedyn.
Taliadau ymlaen llaw
Rydych chi'n derbyn arian grant ymlaen llaw, cyn i chi ddechrau ei wario. Enghraifft: Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi rhan o'r grant i chi ar y dechrau i helpu i dalu costau eich prosiect.
Croniadau
Taliadau sy'n ddyledus i chi gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a allai fod heb eu talu eto oherwydd eich bod yn aros am anfonebau gan drydydd parti.
