Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi neilltuo £700,000 o gyllid Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu dillad ysgol ar gyfer eu plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r grant ar gael i ddisgyblion Blwyddyn 7 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a hefyd disgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion sy'n 11 oed ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ac yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
"Mae dillad ysgol, sy'n cael eu dewis gan bob ysgol,  yn rhoi hunaniaeth ysgol i'r disgyblion ac yn cryfhau ysbryd a balchder yr ysgol ac unigolion - yn yr un modd ag y mae dillad tîm chwaraeon yn rhoi hunaniaeth ac yn hybu morâl a hunanhyder. Mae pob plentyn yn deall bod gwisgo dillad ysgol yn un o gerrig milltir bywyd, ac yn arwydd pwerus o berthyn.
"Diben y gronfa yw sicrhau bod pawb yng Nghymru, waeth beth yw eu cefndir, yn cael y cyfle i deimlo ar eu gorau a ffynnu yn yr ysgol. Rwyf wedi ymrwymo i gau'r bwlch o ran cyflawniad rhwng y disgyblion o'n cymunedau mwyaf difreintiedig a'r rheini sydd o gymunedau mwy breintiedig."