Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cronfa Gwylwyr Chwaraeon – 2021-2022

3. Sail gyfreithiol y DU

Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Adrannau 60 a 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”)
  • Adrannau 126, 127 a 128 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996”)

Rhaid i'r holl gymorthdaliadau a ddarperir o dan y Cynllun hwn gydymffurfio â threfn rheoli cymorthdaliadau'r DU ac mae'r terfynau a nodir yn yr atodlenni rydym wedi’u hatodi isod yn cyd-fynd â throthwyon presennol yr UE i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Rhaid cael cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw gymhorthdal sy'n uwch na'r terfynau a nodir.

Rhaid i bob cymorth o dan y 'Fframwaith Dros Dro ar gyfer Mesurau Cymorth Gwladwriaethol i Gefnogi'r Economi o dan y COVID-19 presennol' gydymffurfio â'r rheolau a nodir yn y Fframwaith Dros Dro.

Fersiwn llawn o'r fframwaith dros dro ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

4. Diffiniadau

Ystyr "blaenswm ad-daladwy" yw benthyciad ar gyfer prosiect sy’n cael ei dalu mewn un rhandaliad neu fwy a bydd yr amodau ar gyfer ei ad-dalu yn dibynnu ar ganlyniad y prosiect.

Ystyr “Cymhorthdal"; mae gan fesur cymorth bedair (4) nodwedd allweddol sy'n debygol o ddangos y byddai'n cael ei ystyried yn gymhorthdal:

  • Yn gyntaf, rhaid i gymhorthdal fod yn gyfraniad ariannol (neu mewn nwyddau) fel grant, benthyciad neu warant.
  • Hefyd, rhaid i'r cyfraniad ariannol gael ei ddarparu gan 'awdurdod cyhoeddus', gan gynnwys llywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol, ymhlith eraill.
  • Yn drydydd, rhaid i’r cymhorthdal hefyd roi budd dethol i'r derbynnydd, sef mantais economaidd na all ei chael ar delerau'r farchnad.
  • Yn olaf, rhaid i'r cymhorthdal ystumio neu niweidio cystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.

Ystyr "dechrau'r gwaith" yw'r cynharaf o’r canlynol - naill ai ddechrau'r gwaith adeiladu sy’n deillio o’r buddsoddiad, neu'r ymrwymiad cyntaf sy'n rhwymo mewn cyfraith i archebu cyfarpar neu unrhyw ymrwymiad arall sy'n golygu bod y buddsoddiad yn ddi-droi'n-ôl. Nid yw prynu tir a gwaith paratoi fel cael trwyddedau neu ganiatâd a chynnal astudiaethau dichonolrwydd yn cael eu hystyried fel dechrau'r gwaith. O ran cymryd awenau sefydliad, ystyr 'dechrau gwaith' yw'r foment pan y caffaelir yr asedau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r sefydliad sy’n cael ei gaffael.

Ystyr "dwysedd y cymhorthdal" yw swm gros y cymorth wedi’i fynegi fel canran o'r costau cymwys, cyn tynnu treth neu dâl arall.

Ystyr "dyddiad rhoi'r cymorth" yw'r dyddiad y rhoddir yr hawl gyfreithiol i’r buddiolwr gael y cymorth o dan y drefn gyfreithiol genedlaethol berthnasol.

Ystyr "elw gweithredol" yw'r gwahaniaeth rhwng y refeniw wedi’i ddisgowntio a'r costau gweithredu wedi’u disgowntio dros oes economaidd y buddsoddiad, lle mae'r gwahaniaeth hwn yn un cadarnhaol. Mae'r costau gweithredu yn cynnwys costau fel costau personél, deunyddiau, gwasanaethau dan gontract, cyfathrebu, ynni, cynnal a chadw, rhent, gweinyddu, ond nid costau dibrisiant a chostau ariannu os ydynt yn elfennau o’r cymorth buddsoddi. Mae disgowntio refeniw a chostau gweithredu gan ddefnyddio cyfradd ddisgowntio briodol yn ei gwneud yn bosibl gwneud elw rhesymol.

Ystyr "elw rhesymol" yw’r elw sy’n cael ei bennu gan ystyried yr elw arferol ar gyfer y sector dan sylw. P'run bynnag, bydd cyfradd enillion ar gyfalaf nad yw'n fwy na'r gyfradd gyfnewid berthnasol ar ben premiwm o 100 o bwyntiau sylfaen yn cael ei ystyried yn rhesymol.

Ystyr "menter fach a chanolig" neu "BBaCh" yw menter sy'n bodloni'r meini prawf canlynol fel y'u diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006:

  • Mae cwmni'n cael ei ystyried yn fusnes bach os yw'n bodloni dau neu fwy o'r gofynion canlynol mewn blwyddyn:
    1. Trosiant: Dim mwy na £10.2 miliwn
    2. Cyfanswm y fantolen: Dim mwy na £5.1 miliwn
    3. Nifer y bobl a gyflogir: Dim mwy na 50
  • Mae cwmni’n cael ei ystyried yn fusnes canolig ei faint os yw'n bodloni dau neu fwy o'r gofynion canlynol mewn blwyddyn:
    1. Trosiant: Dim mwy na £36 miliwn
    2. Cyfanswm y fantolen: Dim mwy na £18 miliwn
    3. Nifer y bobl a gyflogir: Nid mwy na 250
  • Ceir diffiniadau llawn yn adrannau 382 a 465 yn y drefn honno yn Neddf Cwmnïau 2006.

Ystyr "menter fawr" yw unrhyw fenter nad yw'n fusnes bach a chanolig (BBaCh) (fel y'i diffinnir isod).

Ystyr "ymgymeriad mewn trafferthion" yw ymgymeriad lle mae o leiaf un o'r amgylchiadau canlynol yn digwydd:

  1. Yn achos cwmni atebolrwydd cyfyngedig (ac eithrio cwmni bach neu ganolig sy’n bodoli ers llai na thair blynedd neu, ar gyfer bod yn gymwys am gymorth ariannu risg, cwmni bach neu ganolig sydd o fewn 7 mlynedd i’w werthiant masnachol cyntaf sy’n gymwys am fuddsoddiadau ariannu risg yn dilyn diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf cyfrannau wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. Hynny pan dynnir y colledion cronedig o gronfeydd wrth gefn (a'r holl elfennau eraill a ystyrir yn gyffredinol fel rhan o gronfeydd y cwmni), esgorir ar swm cronnol negyddol sy'n fwy na hanner y cyfalaf cyfranddaliadau sydd wedi’i danysgrifio..
  2. Yn achos cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni (ac eithrio BBaCh sy’n llai na thair oed neu, at ddiben bod yn gymwys am gymorth cyllid risg, BBaCh y mae llai na 7 mlynedd ers ei werthiant masnachol cyntaf ac sy'n gymwys am fuddsoddiad cyllid risg yn dilyn archwiliad diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf fel y’i dangosir yng nghyfrifon y cwmni wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae "cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni" yn cyfeirio'n benodol at y mathau canlynol o gwmni:
    • partneriaethau
    • partneriaethau cyfyngedig, a
    • chwmnïau anghyfyngedig.
  3. Bod yr ymgymeriad yn destun achos o ansolfedd ar y cyd neu'n bodloni'r meini prawf o dan ei gyfraith ddomestig ar gyfer achos o ansolfedd ar y cyd ar gais ei gredydwyr.
  4. Lle mae'r ymgymeriad wedi cael cymorth achub ac nad yw eto wedi ad-dalu'r benthyciad neu wedi terfynu'r warant, neu sydd wedi cael cymorth ailstrwythuro ac yn dal i fod yn destun cynllun ailstrwythuro.
  5. Yn achos ymgymeriad nad yw'n BBaCh, lle, am y ddwy flynedd ddiwethaf:
    1. mae’r gymhareb rhwng dyled yr ymgymeriad ar ei lyfrau a’i ecwiti wedi bod yn fwy na 7,5 a lle
    2. mae cymhareb llog EBITDA yr ymgymeriad wedi bod yn is na 1,0.

Ystyr "Cwmni sy’n methu neu fethdalwr" yw'r rhai sy'n cymryd blaendal, cwmni yswiriant neu fenter arall:

  1. bron yn sicr yn mynd allan o fusnes yn y tymor byr i ganolig heb gymorthdaliadau,
  2. yn methu â thalu ei ddyledion fel y dônt yn ddyledus, neu
  3. mae gwerth ei asedau yn llai na swm ei rwymedigaethau, gan ystyried ei rwymedigaethau amodol a darpar rwymedigaethau.

5. Amcanion y cynllun

Amcan y Gronfa Gwylwyr Chwaraeon yw darparu pecyn o gymorth ar gyfer chwaraeon gwylwyr. Bydd y gronfa'n cefnogi'r sector i ymateb i'r heriau sy'n deillio o'r cyfyngiadau coronafeirws a fydd yn gwahardd gwylwyr rhag mynychu meysydd chwaraeon a stadia rhwng 26 Rhagfyr 2021 a 21 Ionawr 2022.

Mewn ymateb i'r pryderon am amrywiolyn Omicron, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig am y cyfnod dros y Nadolig o 26 Rhagfyr ac i'r Flwyddyn Newydd.  Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi y byddai cronfa o £3m ar gael i gefnogi chwaraeon y mae'r cyfyngiadau'n effeithio'n andwyol arnynt ac sy'n dibynnu ar y refeniw fel prif ffynhonnell incwm.

6. Y corff llywodraethu sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

7. Hyd a Lled y Cynllun

Bydd y cynllun yn agored i glybiau a sefydliadau chwaraeon yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr ymateb i’r pryderon am amrywiolyn Omicron Covid-19. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi y byddai cronfa o £3m ar gael i gefnogi chwaraeon y mae'r cyfyngiadau'n effeithio'n andwyol arnynt ac sy'n dibynnu ar y refeniw fel prif ffynhonnell incwm.

Ar sail y dybiaeth na fyddai gwylwyr yn dychwelyd tan ddechrau mis Ionawr 2022, roedd swyddogion Chwaraeon Cymru a swyddogion eraill wedi trafod â’r chwaraeon yr effeithiwyd yn andwyol arnynt yn sgil colli refeniw gwylwyr i ddeall y goblygiadau ariannol a pha gymorth fyddai ei angen arnynt. Rhoddodd y campau amcangyfrif o'r colledion refeniw y byddent yn eu hwynebu o ganlyniad i'r cyfyngiadau. Roedd y colledion hynny’n cynnwys incwm o werthu tocynnau, lletygarwch corfforaethol, bwyd a diodydd, manwerthu, ac amrywiaeth o eitemau cysylltiedig eraill.

Roedd cwmpas yr asesiad yn cynnwys dim ond gemau chwaraeon proffesiynol / elît dan do ac awyr agored a chwaraewyd y tu ôl i ddrysau caeedig yn ystod cyfnod y cyfyngiadau lefel rhybudd 2. Rhannwyd yr ymarfer yn ddwy ran; y cyntaf ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, 26 Rhagfyr i 9 Ionawr a disgwylir i'r ail gwmpasu’r cyfnod o 10 Ionawr hyd at y dyddiad pan y bydd gweithgareddau a digwyddiadau chwaraeon awyr agored yn dychwelyd i lefel rhybudd sero, ar 21 Ionawr. Rhestrir y gemau cymwys ar gyfer y ddau gyfnod isod yn Nhabl A a Thabl B, yn y drefn honno:

Tabl A: Gemau Cymwys 26 Rhagfyr 2021 i 9 Ionawr 2022
Camp Gêm Dyddiad
Pêl-droed Tref Merthyr v Yates AFC 27/12/21
Dinas Abertawe v Southampton 8/1/22
Casnewydd v Salford City 8/1/22
Tref Merthyr v Western-s-Mare 8/1/22
Dinas Caerdydd v Preston NE 9/1/22
Rygbi Scarlets v Y Gweilch 1/1/22
Llanelli v RGC 3/1/22
Rygbi Caerdydd v Cwins Caerfyrddin 8/1/22
Hoci Iâ Cardiff Devils v Coventry Blaze 27/12/21
Cardiff Devils v Guilford Flames 1/1/22
Cardiff Devils v Manchester Storm 5/1/22
Rasio ceffylau Cas-gwent 27/12/21
Ffos Las 5/1/22
Cas-gwent 6/1/22
Tabl B: Gemau Cymwys 10 Ionawr 2022 i 21 Ionawr 2022
Camp Gêm Dyddiad
Pêl-droed Dinas Caerdydd v Blackburn Rovers 15/1/22
Casnewydd v Harrogate 15/1/22
Wrecsam v Folkestone 15/1/22
Rygbi Caerdydd v Harlequins 14/1/22
Gweilch v Rasio 92 15/1/22
RGC v Rygbi Caerdydd 15/1/22
Hoci Iâ Cardiff Devils v Fife Flyers 16/1/22
Rasio ceffylau Cas-gwent 17/1/22
Bangor-is-y-coed 13/1/22
Pêl-rwyd Cymru v Gibraltar 14/1/22
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon 15/1/22
Cymru v Ynys Manaw 16/1/22

8. Hyd y cynllun

Gellid rhoi cymorth o dan y Cynllun hwn rhwng 26 Rhagfyr 2021 a 22 Ionawr 2022.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth dan y Cynllun

Cyfanswm y gyllideb a oedd ar gael ar gyfer y cynllun hwn fel y cyhoeddwyd gan Weinidog yr Economi oedd £3m.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a roddir o dan y Cynllun yn dryloyw. Bydd modd rhoi cymorth ar ffurf grantiau.

11. Gweithgareddau cymwys i'w cefnogi dan y cynllun

Mae'r Cynllun yn cefnogi'r gemau a ddisgrifir o dan hyd a lled y cynllun yn adran 7. Mae sail resymegol a pharamedrau llawn y gweithgareddau a gefnogir o dan y cynllun wedi'u cynnwys yn Atodlen 1.

12. Effaith cymhelliant

Bwriad y cymhorthdal yw newid ymddygiad economaidd y buddiolwr. Bernir bod yr egwyddor hon wedi’i bodloni lle bydd y cymorth yn bodloni'r holl amodau a nodir naill ai yn nhrefn rheoli cymhorthdal y DU neu yn Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi o dan y COVID-19 presennol.

13. Cyfuno

Wrth benderfynu a lwyddwyd i gadw o fewn y trothwyon dwysedd unigol a therfyn dwysedd y cymhorthdal, rhaid ystyried yr holl gefnogaeth gyhoeddus sydd wedi’i rhoi i'r gweithgaredd neu’r prosiect a gynorthwyir, ni waeth pwy sydd wedi ariannu’r cymorth hwnnw, boed ffynhonnell leol, rhanbarthol, cenedlaethol neu'r Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd modd cyfuno’r cymhorthdal a ddarperir o dan y Cynllun hwn â mathau eraill o gymorth na chyda chymorth sy’n cael ei ystyried yn 'symiau bach o gymorth' ar gyfer yr un costau cymwys os bydd swm hynny’n uwch na’r terfynau cymorth perthnasol.

Mae mecanwaith wedi'i sefydlu fel rhan o'r broses ymgeisio i sicrhau nad yw'r cymorth o’i gronni yn fwy na’r dwysedd mwyaf a ganiateir o dan y Cynllun. Caiff archwiliadau diwydrwydd dyladwy eu cynnal yn ystod y broses ddyfarnu.

14. Gofynion monitro ac adrodd

Bydd pob un sy'n derbyn cymhorthdal o dan y Cynllun yn cael gwybod bod cymorth wedi'i ddarparu o dan y Cynllun, wedi'i gofrestru o dan SC10494, 'Cronfa Gwylwyr Chwaraeon’.

Cedwir cofnodion am 10 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r cymhorthdal diwethaf o dan y Cynllun. Bydd y cofnodion yn ddigon manwl i allu cadarnhau a yw amodau'r Cynllun yn cael eu bodloni.

Bydd manylion unrhyw ddyfarniad sy'n fwy na £500,000 a roddir o dan y cynllun hwn ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan Cronfa Ddata Tryloywder Cymhorthdal y DU o fewn 6 mis ar ôl ei roi.

Cyhoeddir adroddiadau blynyddol neu bob chwe mis ar wariant o dan y Cynllun hwn er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau rhyngwladol y DU o ran cymhorthdal.

Yn unol ag ymrwymiadau'r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl wybodaeth a dogfennau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i bartïon â diddordeb i ddangos eu bod yn cydymffurfio â threfn rheoli cymhorthdal y DU o fewn mis ar ôl iddi derbyn cais i’w gweld.

Gwybodaeth gysylltu:

Uned Polisi Cymorth Gwladol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: + 44 (0)3000 253568
E-bost: State.Aid@llyw.cymru

Atodlen 1

1. Mae chwaraeon yn sector pwysig ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu cenedl iachach a chydnerth ac mae llwyddiant chwaraeon Cymru gartref a thramor yn rhoi gobaith ac ysbrydoliaeth.

2. Drwy gydol y pandemig, effeithiwyd yn ddifrifol ar chwaraeon. Ym mis Mawrth y llynedd, daeth chwaraeon ledled Cymru i ben yn sydyn gyda'r holl fannau cynnal chwaraeon, cystadlaethau a digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cau, eu canslo neu eu gohirio gan gael effaith uniongyrchol yn sgil colli incwm. I gydnabod effaith y cyfyngiadau sy'n gwahardd gwylwyr ar ffrydiau refeniw, darparodd Llywodraeth flaenorol Cymru becyn cyllid gwerth £17.7m yn 2020/21 ar gyfer y chwaraeon yr effeithiwyd arnynt fwyaf (MA/DET/4498/20). Yn fwy diweddar, fis diwethaf, rhoddwyd dyraniad pellach o £0.710m i Griced Morgannwg oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd arnynt dros haf 2021. 

3. Mewn ymateb i'r pryderon am amrywiolyn Omicron, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig am y cyfnod dros y Nadolig o 26 Rhagfyr ac i'r Flwyddyn Newydd. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi y byddai cronfa o £3m ar gael i gefnogi chwaraeon y mae'r cyfyngiadau'n effeithio'n andwyol arnynt ac sy'n dibynnu ar y refeniw fel prif ffynhonnell incwm.

4. Ar 14 Ionawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynllun i fynd â Chymru'n ôl at lefel sero mewn ffordd ofalus a graddol pe bai sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella dros yr wythnosau wedi hynny. Fel cam cyntaf, ar 15 Ionawr codwyd nifer y bobl a ganiateir mewn digwyddiadau awyr agored o 50 i 500. Nododd y Prif Weinidog benderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau pellach a chaniatáu i bob gweithgaredd awyr agored symud i lefel rhybudd sero o ddydd Gwener 21 Ionawr. Byddai hynny’n golygu na fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a bod torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored. Bydd llacio pellach ar y rheolau ar 28 Ionawr i’r holl weithgareddau a digwyddiadau dan do allu dychwelyd i lefel rhybudd sero.

5. Mae cyfyngiadau tebyg ond llai llym wedi bod mewn grym ym maes chwaraeon proffesiynol yn yr Alban ers cyn y Nadolig. Cyflwynwyd terfyn o 500 o wylwyr ar dorfeydd awyr agored a effeithiodd ar gemau proffesiynol fel gemau pêl-droed yr Uwch Gynghrair a rasio ceffylau yn Musselburgh ar Ddydd Calan. Cafodd y cyfyngiadau eu codi ddydd Llun 17 Ionawr ond cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ar 13 Ionawr ei bod wedi dyrannu £2.55 miliwn o gymorth ariannol i glybiau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau ar weithgareddau dan do ac awyr agored. Roedd y grantiau i gynrychioli hyd at 75% o golledion y clybiau.

Asesu angen: Gemau Cymwys

6. Ar sail y dybiaeth na fyddai gwylwyr yn dychwelyd tan ddechrau mis Ionawr 2022, roedd swyddogion Chwaraeon Cymru a swyddogion eraill wedi trafod â’r chwaraeon yr effeithiwyd yn andwyol arnynt yn sgil colli refeniw gwylwyr i ddeall y goblygiadau ariannol a pha gymorth fyddai ei angen arnynt. Rhoddodd y campau amcangyfrif o'r colledion refeniw y byddent yn eu hwynebu o ganlyniad i'r cyfyngiadau. Roedd y colledion hynny’n cynnwys incwm o werthu tocynnau, lletygarwch corfforaethol, bwyd a diodydd, manwerthu, ac amrywiaeth o eitemau cysylltiedig eraill.

7. Roedd cwmpas yr asesiad yn cynnwys dim ond gemau chwaraeon proffesiynol / elît dan do ac awyr agored a chwaraewyd y tu ôl i ddrysau caeedig yn ystod cyfnod y cyfyngiadau lefel rhybudd 2. Rhannwyd yr ymarfer yn ddwy ran; y cyntaf ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, 26 Rhagfyr i 9 Ionawr a disgwylir i'r ail gwmpasu’r cyfnod o 10 Ionawr hyd at y dyddiad pan y bydd gweithgareddau a digwyddiadau chwaraeon awyr agored yn dychwelyd i lefel rhybudd sero, ar 21 Ionawr. Rhestrir y gemau cymwys ar gyfer y ddau gyfnod isod yn Nhabl A a Thabl B, yn y drefn honno:

Tabl A: Gemau Cymwys 26 Rhagfyr 2021 i 9 Ionawr 2022
Camp Gêm Dyddiad
Pêl-droed Tref Merthyr v Yates AFC 27/12/21
Dinas Abertawe v Southampton 8/1/22
Casnewydd v Salford City 8/1/22
Tref Merthyr v Western-s-Mare 8/1/22
Dinas Caerdydd v Preston NE 9/1/22
Rygbi Scarlets v Y Gweilch 1/1/22
Llanelli v RGC 3/1/22
Rygbi Caerdydd v Cwins Caerfyrddin 8/1/22
Hoci Iâ Cardiff Devils v Coventry Blaze 27/12/21
Cardiff Devils v Guilford Flames 1/1/22
Cardiff Devils v Manchester Storm 5/1/22
Rasio ceffylau Cas-gwent 27/12/21
Ffos Las 5/1/22
Cas-gwent 6/1/22
Tabl B: Gemau Cymwys 10 Ionawr 2022 i 21 Ionawr 2022
Camp Gêm Dyddiad
Pêl-droed Dinas Caerdydd v Blackburn Rovers 15/1/22
Casnewydd v Harrogate 15/1/22
Wrecsam v Folkestone 15/1/22
Rygbi Caerdydd v Harlequins 14/1/22
Gweilch v Rasio 92 15/1/22
RGC v Rygbi Caerdydd 15/1/22
Hoci Iâ Cardiff Devils v Fife Flyers 16/1/22
Rasio ceffylau Cas-gwent 17/1/22
Bangor-is-y-coed 13/1/22
Pêl-rwyd Cymru v Gibraltar 14/1/22
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon 15/1/22
Cymru v Ynys Manaw 16/1/22

Asesu Angen: Ystyriaethau allweddol

8. Ystyriwyd yr ystyriaethau allweddol canlynol wrth benderfynu pa gemau chwaraeon ddylai fod yn gymwys i gael cymorth gan Gronfa Gwylwyr Chwaraeon:

  • Gêm gymunedol – Nid ystyriwyd bod chwaraeon amatur a gemau llawr gwlad yn gymwys am eu bod wedi cael manteisio ar Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru a byddant yn elwa ar y cyllid ychwanegol a ddaw trwy’r grantiau ardrethi annomestig.
  • Clybiau cynghrair Lloegr yng Nghymru - roedd gemau clybiau cynghrair Lloegr o fewn cwmpas y Gronfa am fod y cyfyngiadau ond yn berthnasol i Gymru ac effeithiwyd ar eu gemau cartref.
  • Gemau wedi’u gohirio – Roedd gemau a oedd i fod i gael eu chwarae yn ystod y cyfnod clo ond a gafodd eu gohirio oherwydd achosion o Covid y tu allan i gwmpas y gronfa am y byddent yn cael eu haildrefnu a’u cynnal ar ddyddiad diweddarach pan fyddai gwylwyr yn cael eu caniatáu.
  • Costau cymwys – Er bod y campau/clybiau wedi darparu rhestr hir o golledion a chostau bras y maent wedi'u hysgwyddo oherwydd y cyfyngiadau, yr unig eitemau a ystyrir yn gymwys oedd:
    • Incwm gwerthiant tocynnau ymlaen llaw
    • Incwm gwerthiant tocynnau diwrnod gêm (amcangyfrif yn seiliedig ar werthiant diwrnod gêm cyffredin cyn Covid)
    • Costau bwyd a diodydd darfodus (pris cost) – bydd angen derbynebau gwerthiant fel tystiolaeth o wariant.  Ni fyddai costau y cafwyd ad-daliad ar eu cyfer yn gymwys. I gael 100% o’r gost, rhaid i ymgeiswyr roi tystiolaeth bod bwyd darfodus yn cael ei roi i bobl anghenus e.e. i fanciau bwyd, a
    • Costau staff ar gyfer ail-ddosbarthu bwydydd darfodus.

Yn amodol ar dderbyn tystiolaeth ategol berthnasol, cefnogwyd ceisiadau am gostau cymwys yn llawn.