Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso

3. Y sail gyfreithiol

Adran 58(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhaglen a sefydlwyd i gefnogi'n uniongyrchol ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu 50 o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig; buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol; ail-gydbwyso'r farchnad gofal preswyl; a dileu elw o ofal blant sy'n derbyn gofal.

Fel rhan o'r rhaglen hon, mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn datblygu'r bensaernïaeth gynllunio a llywodraethu i alluogi aliniad gwell rhwng gwahanol raglenni refeniw a chyfalaf. Mae hynny’n sicrhau bod dull gweithredu cydgysylltiedig ar waith ar draws partneriaid allweddol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, tai, ac addysg.

Bydd y Gronfa'n canolbwyntio ar dair blaenoriaeth:

  1. Darparu Canolfannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig
  2. Ailgydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol preswyl
  3. Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal

Yr amcan polisi sydd wedi'i alinio â Blaenoriaeth 2 y rhaglen yw:

  • Cefnogi’r gwaith o ail-gydbwyso’r ddarpariaeth gofal preswyl i oedolion drwy gynyddu'r ddarpariaeth o fewn y sector nid-er-elw.
  • Targedir y buddsoddiad tuag at y sector cyhoeddus a'r sector nid-er-elw er mwyn eu galluogi i dyfu. Ni chaiff darparwyr er-elw annibynnol wneud cais. Bydd cyllid cyfalaf ar gael i helpu awdurdodau lleol a sefydliadau nid-er-elw i ddatblygu eu darpariaeth cartrefi gofal eu hunain. Bydd cefnogaeth drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso yn cael ei chyfyngu i hyd at 70% o gostau cymwys prosiectau.

5. Diben y cynllun

Mae'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhaglen a sefydlwyd i gefnogi'n uniongyrchol y gwaith o ail-gydbwyso’r ddarpariaeth gofal preswyl trwy gynyddu'r ddarpariaeth o fewn y sector nid-er-elw.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu sut y bydd y buddsoddiad yn cael ei dargedu tuag at y sector cyhoeddus a'r sector nid-er-elw i'w galluogi i dyfu. Fodd bynnag, o ran gofal oedolion, mae'n bosibl y bydd darparwyr annibynnol bach hefyd yn gallu elwa ar fuddsoddiad os bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn penderfynu bod tyfu neu wella eu cynnig gwasanaeth o bwysigrwydd strategol i'r rhanbarth, ac na ellir cyflawni capasiti digonol trwy'r sector cyhoeddus.

Mae’r Papur Gwyn ‘Ailgydbwyso Gofal a Chymorth’ yn nodi uchelgeisiau’r Gweinidog i ail-gydbwyso’r sector gofal cymdeithasol i ffwrdd oddi wrth gost i ansawdd, oddi wrth allbynnau i ganlyniadau, ac oddi wrth elw tuag at werth cymdeithasol.

Mae pob cais i'r Gronfa yn ddarostyngedig i egwyddorion Llyfr Gwyrdd HMT mewn perthynas â'r model busnes 5 achos yn unol ag egwyddorion Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, sy'n asesu costau, manteision, a risgiau gwahanol opsiynau ar gyfer cyflawni amcanion y Gronfa. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac effeithiol.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Dyfernir cyllid y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso i gyrff sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Gall hefyd ariannu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a sefydliadau 3ydd sector, ond oherwydd natur integredig y cyllido, bydd cyrff sector cyhoeddus bob amser yn rhan o bob cynnig.

8. Sectorau i’w cefnogi

Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol

9. Hyd cyfnod y cynllun

26 Chwefror 2026 hyd at 31 Mawrth 2027.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£50,000,000

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Blaenoriaeth 2 rhaglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw:

  • Cefnogi’r gwaith o ail-gydbwyso’r ddarpariaeth gofal preswyl i oedolion drwy gynyddu'r ddarpariaeth o fewn y sector nid-er-elw.
  • Bydd y buddsoddiad yn cael ei dargedu tuag at y sector cyhoeddus a'r sector nid-er-elw i'w galluogi i dyfu. Ni chaiff darparwyr er-elw annibynnol wneud cais. Bydd cyllid cyfalaf ar gael i helpu awdurdodau lleol a sefydliadau nid-er-elw i ddatblygu eu darpariaeth cartrefi gofal eu hunain. Bydd cefnogaeth drwy'r Gronfa wedi'i chyfyngu i hyd at 70% o gostau cymwys prosiectau.

Y costau cymwys yw'r rhai sy'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf, ac fel arfer gallant gynnwys y canlynol:

  • Costau sy'n ymwneud â thir ac eiddo: caffael tir, adeiladau sy'n bodoli eisoes, a ffioedd cyfreithiol neu arolygon cysylltiedig.
  • Costau sy'n ymwneud ag adeiladu a gwaith: costau adeiladu, datblygu seilwaith (ee, ffyrdd, rheilffyrdd), a pharatoi safleoedd.
  • Costau sy'n ymwneud â cherbydau, cyfarpar a pheiriannau: offer, cerbydau, a chaledwedd sydd eu hangen ar gyfer y prosiect.
  • Costau sy'n ymwneud â digidol a TG: datblygu meddalwedd, caledwedd, a'r gwaith cychwynnol o osod seilwaith digidol.
  • Costau sy'n ymwneud â ffioedd proffesiynol: ffioedd dylunio, peirianneg, rheoli prosiectau, ac ymgynghori arbenigol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cyflenwi cyfalaf.
  • Costau sy'n ymwneud â risg a hapddigwyddiadau: rhaid cymhwyso addasiadau "rhagfarn optimistiaeth" i amcangyfrifon costau cyfalaf cychwynnol eu mwyn cyfrif am y duedd i gostau prosiect gael eu tanamcangyfrif.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

O dan Flaenoriaeth 2 y Cynllun ar gyfer ail-gydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol i oedolion, mae uchafswm cyfradd ymyrraeth o 70% ar gyfer cynigion, a rhaid i sefydliadau ddarparu cyllid cyfatebol o'u hadnoddau ariannol eu hunain, gan ddangos ymrwymiad i'r rhaglen. Rhaid i'r cyllid a dderbynnir gan bob prosiect ganiatáu ar gyfer modelau darparu gwasanaethau gwell, gan wella sut mae'r ddarpariaeth yn cael ei chydgysylltu lle mae cyfle ar gyfer cyllido ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus.

Mae buddsoddiad cyfalaf ar gael i helpu awdurdodau lleol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys cymdeithasau tai, i wneud y newid hwn yn y ffyrdd canlynol:

  • Buddsoddi mewn lleoliadau cymunedol/safleoedd preswyl a gofal nyrsio i sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion mwy cymhleth unigolion yn nes at adref hy capasiti nyrsio, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gofal canolraddol. Gallai hynny gynnwys cynyddu mynediad at wasanaethau’r GIG, (megis therapi cymunedol, adsefydlu/ail-alluogi, a phodiatreg) ar gyfer preswylwyr, gan gydnabod eu bod yn parhau i fod yn aelodau o boblogaeth y bwrdd iechyd.
  • Cefnogi ac ysgogi awdurdodau lleol a darparwyr nid-er-elw i dyfu'r ddarpariaeth fewnol – a allai gynnwys ehangu cartrefi gofal a ddarperir yn fewnol (gwelyau ychwanegol), uwchraddio cyfleusterau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â rheoliadau i'w galluogi i gael eu hail-gofrestru fel darpariaethau nid-er-elw.
  • Cymorth i awdurdodau lleol i'w helpu i ddod â darpariaethau sy’n methu yn ôl o dan reolaeth llywodraeth leol.
  • Cynyddu capasiti gofal preswyl a gofal nyrsio yn y mannau lle y nodwyd bylchau/prinder yn y ddarpariaeth.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£20,000,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio: ircf@gov.wales

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â'r:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image