Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad i gasglu barn y cyfranogwyr a allai fod wedi eu tan gynrychioli o Arolwg Cyfranogwyr Cronfa Gymdeithasol Ewrop ehangach 2015 i 2018.

Prif ganfyddiadau

Darparodd y gwaith maes a gynhaliwyd gipolwg manwl ar brofiadau nifer bach o gyfranogwyr sydd wedi ymgysylltu ag wyth gweithrediad Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Roedd y gweithrediadau a oedd wedi’u cynnwys yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a grwpiau agored i niwed.

Nodwyd sawl ystyriaeth fethodolegol sy’n effeithio ar werth a defnydd y data a’r dystiolaeth a gasglwyd. Maent yn ymwneud â’r gallu i gymharu’r data a’r dystiolaeth â data arolwg meintiol ESF, maint cyfyngedig y sampl a gyfwelwyd o’i gymharu â graddfa’r gweithrediadau ac anawsterau cysylltiedig â dadansoddi canfyddiadau ansoddol ar lefel rhaglen.

Maent yn codi cwestiynau ynghylch gwerth ailadrodd y math hwn o ymarfer ymchwil eto, ac efallai y dylid ystyried dulliau amgen.

Er gwaethaf cyfyngiadau’r astudiaeth hon, roedd adborth cyfranogwyr yn gyffredinol yn awgrymu profiad cadarnhaol iawn o’u gweithrediad ESF, a bod cymryd rhan ynddo wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.

Adroddiadau

Yr Arolwg Cyfranogwyr ESF: canfyddiadau gwaith maes ansoddol Rhagfyr 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Charlotte Guinee

Rhif ffôn: 0300 025 5734

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.