Neidio i'r prif gynnwy

Diben y grant hwn yw cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i wella ansawdd aer lleol yn 2024 i 2025.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae cyllideb o £1 filiwn (£750 mil o refeniw, £250 mil o gyfalaf) ar gael.

Sut i wneud cais

Mae'r cyfnod ymgeisio bellach wedi cau.

Meini prawf

Bydd prosiectau sy’n bodloni un neu ragor o’r meini prawf a ganlyn yn cael eu hystyried:

  • Atal – camau gweithredu sy’n ceisio gwella ansawdd aer ac atal crynodiadau rhag gwaethygu a/neu fynd y tu hwnt i’r amcanion ansawdd aer.
  • Lliniaru – camau gweithredu sy’n ceisio gwella ansawdd aer mewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer. 
  • Arloesi – camau gweithredu sy’n defnyddio dulliau neu dechnolegau arloesol i wella ansawdd aer a/neu leihau amlygiad i lygredd. 

Rhaid cyflawni’r prosiectau o fewn blwyddyn ariannol 2024 i 2025. 

Gwerthuso 

Oherwydd natur eang y meini prawf, mae'r panel grant yn gwerthuso ceisiadau'n ansoddol. Felly, dylai ceisiadau fod yn glir a rhoi digon o fanylion. Bydd y panel grantiau yn asesu ceisiadau yn seiliedig ar:

  • I ba raddau y mae'r prosiect(au) yn cwrdd ag un neu ragor o'r meini prawf uchod; ac
  • I ba raddau y mae cwestiynau yn y ffurflen gais (megis ynghylch cysyniad, caffael (lle bo'n briodol), cyflawnadwyedd a gwerth am arian) yn cael eu hateb.