Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cronfa newydd i ddarparu cyfarpar prosthetig chwaraeon arbenigol ar gyfer plant a phobol ifanc yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cronfa newydd i ddarparu cyfarpar prosthetig chwaraeon arbenigol ar gyfer plant a phobol ifanc yng Nghymru.

Er bod amrywiaeth o gyfarpar prosthetig eisoes yn cael eu darparu gan y GIG, nid yw prostheses chwaraeon arbenigol, fel llafnau rhedeg, wedi bod ar gael fel mater o arfer hyd yn hyn.

Bydd y cyllid o £417,000 y flwyddyn yn ariannu staff a chyfarpar yn tair canolfan arbenigol, sef yng Nghaerdydd, Abertawe, a Wrecsam, a fydd yn gallu asesu plant a phobl ifanc dan 25 oed a darparu cyfarpar prosthetig rhedeg a nofio ar eu cyfer. Bydd y gronfa’n weithredol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a gall plant a phobl ifanc drafod hyn yn ystod eu hasesiad rheolaidd nesaf ar gyfer eu prostheses.

Dywedodd Mr Gething:

Rydyn ni’n awyddus i weld ein plant a phobl ifanc i gyd yn mwynhau bywyd gweithgar. Bydd y gronfa newydd hon yn helpu’r genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc anabl i fyw bywyd mwy egnïol. Dw i’n gobeithio y bydd pawb sy’n gymwys yn gwneud cais i’r gronfa er mwyn mwynhau bywyd o’r fath.

Dywedodd Ian Massey, Prif Brosthetydd Clinigol yn Y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar: Ysbyty Rookwood:

Rydym wrth ein bodd y bydd Cymru bellach yn gallu darparu prossthetig adloniadol a chwaraeon i'n plant a'n pobl ifanc dan 25 oed. Bydd cael mynediad at y dyfeisiau hyn yn caniatau i'r grŵp hwn o gleifion gymryd rhan mewn chwaraeon, chwarae gyda'u cyfoedion a gwireddu eu potensial llawn.