Neidio i'r prif gynnwy

Mae chwe chwmni datblygu gemau o Gymru ar fin cael hwb ariannol o £850,000 gan Lywodraeth Cymru, i'w helpu i fynd i lefel nesaf eu prosiectau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cronfa Uwchraddio Gemau Cymru yw'r cynllun cyntaf o'i fath. Cafodd ei lansio'n gynharach eleni gan Gymru Greadigol mewn partneriaeth â Chronfa Gemau'r DU, a sydd wedi bod yn rheoli'r ceisiadau.

Ei nod yw helpu datblygwyr o Gymru i fynd â'u prosiectau gemau o'r cam treialu i gam pellach, mwy hunangynhaliol, trwy roi'r modd iddynt dyfu o ran cwmpas, cynulleidfa ac effaith.

 Mae cyfanswm o £850,000 o gymorth ariannol wedi'i ddyfarnu i chwe chwmni:

  • Wales Interactive
  • Rocket Science
  • Goldborough Studio
  • Sugar Creative
  • COPA Gaming
  • Cloth Cat

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn taith fasnach lwyddiannus i'r Game Developers Conference (GDC) yn San Francisco ym mis Mawrth, lle ymunodd pump o'r chwe chwmni â stondin Cymru i arddangos eu prosiectau, cwrdd ag arweinwyr yn  y diwydiant a meithrin cysylltiadau newydd. 

Dywedodd Osian Williams, Cyfarwyddwr COPA Gaming:

Mae cael help ariannol fel hwn gan Lywodraeth Cymru i dyfu yn fwy na phennawd i ni. Mae'n gweddnewid y sefyllfa i ni.

Mae'n rhoi'r hyder a'r adnoddau i'n tîm symud ymlaen, tyfu'n gynaliadwy ac i greu gemau unigryw o Gymru ar gyfer cynulleidfa fyd-eang.

Dywedodd Paul Durrant, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Gemau'r DU:

Mae Cronfa Uwchraddio Gemau Cymru wedi rhoi cyfle gwych i ni weld mor eang a dwfn yw'r talent datblygu gemau yng Nghymru. Mae wedi bod yn anrhydedd rheoli'r broses ymgeisio dros Cymru Greadigol.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

Mae gan Gymru ddiwydiant gemau fideo hynod dalentog ac uchelgeisiol sy'n gwneud ei farc yn y byd. Diben y buddsoddiad hwn yw rhoi cefnogaeth ariannol i stiwdios y wlad hon i'w helpu â'u gwaith ac i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ledled y byd.

Cefais y fraint o gwrdd â sawl datblygwr o Gymru yn y GDC yn San Francisco, ac fe wnaeth eu creadigrwydd a'u harloesedd argraff ddofn arna i. Mae'r adborth a gawsant gan gyhoeddwyr rhyngwladol yn cadarnhau'r hyn rydyn ni'n ei wybod eisoes - mae Cymru yn chwarae rhan arwyddocaol yn y dirwedd gemau fyd-eang.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru Greadigol gronfa arall sydd ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae'r Gronfa Datblygu Gemau, sy'n cau'r wythnos hon [dydd Iau 5 Mehefin],yn cynnig rhwng £10,000 a £50,000 i fusnesau yng Nghymru sy'n datblygu prosiectau fideo a gemau ar gyfer eu rhyddhau'n fasnachol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Gymru Greadigol.

Dysgwch fwy am y rheini sy'n derbyn nawdd Cronfa Gemau'r DU.