Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog a Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cronfa newydd gwerth dros hanner biliwn o bunnoedd yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2026 er mwyn creu swyddi a hybu cynhyrchiant. Bydd pob rhan o Gymru yn elwa ar y gronfa hon.

Mae'r Gronfa Twf Lleol i Gymru yn disodli arian a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd.  Bydd penderfyniadau ynghylch sut y bydd yr arian yn cael ei wario yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru, sy'n anrhydeddu ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i adfer y broses o wneud penderfyniadau ar arian a ddaeth o'r UE o'r blaen.

Mae'r Gronfa Twf Lleol am gyfnod o dair blynedd a bydd yn cyflawni yn erbyn Cenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru ac agenda Llywodraeth y DU ar gyfer twf. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno ar fframwaith a fydd yn gosod blaenoriaethau a phrosesau ar gyfer dyrannu'r cronfeydd, gyda Chynllun Buddsoddi i'w ddatblygu a'i arwain gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cyllid newydd yn rhan o ddull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol, sy’n gallu gweithio ochr yn ochr â buddsoddiadau eraill sy'n cael eu targedu'n rhanbarthol i gefnogi swyddi a thwf, gan gynnwys Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf, ac Ardaloedd Buddsoddi. Y nod yw sicrhau bod buddsoddiadau'n ategu ei gilydd, ac yn creu arbedion effeithlonrwydd i gefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru. 

Bydd gan lywodraeth leol a phartneriaid eraill ran allweddol i’w chwarae o ran penderfynu sut y caiff y cyllid ei wario. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar  y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwn. Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar sut i gyflawni’r canlynol orau:

  • creu a thyfu busnesau Cymru mewn sectorau allweddol a rhoi hwb i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi, a hynny mewn meysydd fel iechyd a biotechnoleg, technoleg ariannol, ynni carbon isel a deallusrwydd artiffisial.
  • cefnogi pobl i weithio a helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau newydd i symud ymlaen i swyddi â chyflog uwch, fel bod cyfran fwy o'n poblogaeth yn cael eu cyflogi; a
  • mynd i’r afael â chyfyngiadau yn y seilwaith sy’n atal twf, megis safleoedd ac adeiladau allweddol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, effeithlonrwydd ynni, a thrafnidiaeth carbon isel.

Bydd yr ymgynghoriad yn adeiladu ar waith blaenorol gyda phartneriaid ar Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru (a gyhoeddwyd yn 2020) a chyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD). Bydd hefyd yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth economaidd-gymdeithasol barhaus, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o gyllid blaenorol yr UE a rhaglenni etifeddiaeth Llywodraeth y DU.

Bydd yr ymgynghoriad a'r gwaith parhaus gyda llywodraeth leol a phartneriaid ehangach drwy Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yn helpu i lywio'r gwaith o ddylunio a chyflwyno Cynllun Buddsoddi tair blynedd i Gymru i gyfarwyddo'r cyllid hwn.

Bydd Cynllun Buddsoddi Cymru yn nodi blaenoriaethau buddsoddi, gweithgareddau cymwys, modelau cyflawni a dulliau daearyddol sy'n benodol i Gymru, a bydd yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf cyn i'r gronfa newydd ddechrau ym mis Ebrill 2026.