Cronfa Twf Lleol yng Nghymru: nodyn methodoleg dewis lleoedd a dyraniadau
Sut mae'r Gronfa Twf Leol yn cael ei dyrannu yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r nodyn methodoleg hwn yn nodi'r broses a ddefnyddiwyd i bennu dyraniadau rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol (LGF) ledled Cymru. Mae’n esbonio:
- Y dull gweithredu a ddefnyddiwyd ar gyfer 2026-27, sy'n adlewyrchu cyfrannau dyraniadau rhanbarthol a gymerwyd o flwyddyn olaf Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn 2025-26.
- Y fethodoleg newydd ar gyfer 2027-28 a 2028-29, gan gynnwys yr egwyddorion craidd sydd wedi llywio'r dull gweithredu, y broses ar gyfer dewis lleoedd, a'r cyfansymiau dyraniadau rhanbarthol.
Blwyddyn bontio (2026 i 2027)
Dyma gyfanswm cwantwm y cyllid i'w ddyrannu ar draws y rhanbarthau ar gyfer blwyddyn 1 (2026-27), wedi'i rannu yn ôl cyllid refeniw (RDEL) a chyllid cyfalaf (CDEL):
| RDEL | Cyfalaf | Cyfanswm |
|---|---|---|
| £50,903,109 | £116,933,948 | £167,837,057 |
Ar gyfer 2026-27, mae cyllid LGF yn cael ei ddosbarthu ymhlith rhanbarthau Cymru yn ôl eu cyfrannau cymesur o gyllid blwyddyn olaf UKSPF. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â cheisiadau gan yr awdurdodau lleol arweiniol rhanbarthol, sy'n gyfrifol am reoli'r gronfa yn 2026-27, i sicrhau parhad o ran lefelau cyllid.
Mae cyfrannau rhanbarthol yn cael eu pennu trwy gyfrifo canran pob rhanbarth o ddyraniad UKSPF 2025-26 Cymru gyfan. Yna dyrennir cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer 2026-27 i bob rhanbarth yn unol â'r gyfran ganrannol hon o gyfanswm y cyllid sydd ar gael.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Cyd-bwyllgorau Corfforedig cyn iddynt bontio i gyflawni dan arweiniad llawn Cyd-bwyllgorau Corfforedig, mae £800,000 o gyllid refeniw wedi'i neilltuo ar gyfer 2026-27, gan ddarparu £200,000 i bob Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae'r cyllid capasiti hwn yn cael ei dynnu o RDEL 2026-27 ar lefel Cymru a'i ailddosbarthu'n gyfartal ar draws pob rhanbarth fel swm penodedig cyn i'r fethodoleg a ddisgrifir uchod gael ei defnyddio i ddyrannu'r RDEL sy'n weddill a'r CDEL llawn sydd ar gael.
Canlyniadau dyraniadau
Dyma'r dyraniad rhanbarthol y mae hyn yn arwain ato:
| Rhanbarth | RDEL (gan gynnwys £200,000 fesul rhanbarth ar gyfer meithrin capasiti Cyd-bwyllgorau Corfforedig) | CDEL | TDEL |
|---|---|---|---|
| Gogledd Cymru | £10,332,928 | £23,648,898 | £33,981,826 |
| Canolbarth Cymru | £3,597,774 | £7,929,949 | £11,527,723 |
| De-orllewin Cymru | £12,057,987 | £27,674,954 | £39,732,941 |
| De-ddwyrain Cymru | £24,914,420 | £57,680,147 | £82,594,567 |
| Cymru | £50,903,109 | £116,933,948 | £167,837,057 |
Egwyddorion craidd ar gyfer methodoleg 2027 i 2029
Mae'r fethodoleg dyrannu LGF ar gyfer 2027-28 a 2028-29 sydd wedi'i mabwysiadu wedi'i llywio gan y set ganlynol o egwyddorion craidd.
Amcanion
- Amcanion y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru yw cefnogi twf cynhyrchiant mewn ardaloedd sydd â photensial dal i fyny a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd mewn ardaloedd o amddifadedd. Bydd yn darparu cyllid i helpu i fynd i'r afael â bylchau cynhyrchiant hirsefydlog ar draws rhanbarthau Cymru ac yn galluogi busnesau i ehangu, arloesi a chystadlu'n effeithiol.
- Nod y Gronfa Twf Lleol yw helpu i leihau gwahaniaethau rhwng rhanbarthau ac o fewn rhanbarthau, a chefnogi twf cynhwysol cynaliadwy sydd o fudd i ardaloedd trefol a gwledig, gan gydnabod y rhwystrau strwythurol a gofodol i dwf mewn ardaloedd gwledig a phrin eu poblogaeth.
- Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae cyllid yn cael ei ddyrannu'n rhanbarthol gan ddefnyddio methodoleg sy'n anelu at gydnabod anghydraddoldebau, yn adlewyrchu heriau ychwanegol natur wledig ac ymylol, ac yn cefnogi twf cynhyrchiant hirdymor mewn ardaloedd sydd ar eu hôl hi.
Strwythurau a Llywodraethu Rhanbarthol
- Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid ledled Cymru i gynllunio'r amcanion cenedlaethol, blaenoriaethau buddsoddi, trefniadau llywodraethu a monitro.
- Bydd gwaith cynllunio a blaenoriaethu buddsoddiadau allweddol yn cael ei wneud ar lefel ranbarthol. Bydd y flwyddyn gyntaf (2026-27) yn cefnogi'r broses bontio o drefniadau cyllido blaenorol, a bydd pedwar awdurdod lleol (Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Abertawe) yn arwain y gwaith o gynllunio rhanbarthol a darparu’r Gronfa Twf Lleol yn ystod y flwyddyn honno, gan adeiladu ar strwythurau blaenorol.
- Ar ôl pontio (o 2027-2028 ymlaen) bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CJCs) yn arwain ar waith cynllunio rhanbarthol, gan ysgwyddo cyfrifoldeb am flaenoriaethu a dewis buddsoddiadau, a chydlynu'r Gronfa Twf Lleol yn unol â gwaith datblygu economaidd ehangach, gan gynnwys Bargeinion Dinesig, Bargeinion Twf a Pharthau Buddsoddi.
- Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff cyhoeddus rhanbarthol sy'n atebol yn ddemocrataidd, a sefydlwyd i alluogi cydweithrediad rhanbarthol haws a mwy effeithiol. Mae pedwar yng Nghymru sy'n cwmpasu Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru, a De-ddwyrain Cymru.
Targedu
- Mae'r fethodoleg yn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu i ardaloedd lle mae angen a chyfleoedd.
- Defnyddir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) fel y prif ddangosydd ar gyfer dyraniadau rhanbarthol, o ystyried ei aliniad ag amcanion y Gronfa Twf Lleol i dargedu'r ardaloedd sydd â'r anghydraddoldebau economaidd mwyaf. Mae meysydd MALlC yn cynnwys y rhai sy'n cyd-fynd â'r amcanion (e.e. incwm a chyflogaeth) ac eraill sy'n gysylltiedig (e.e. iechyd sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch economaidd, mynediad at wasanaethau a seilwaith i ysgogwyr cynhyrchiant). Bydd defnyddio MALlC yn helpu i gyfeirio buddsoddiadau i'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf.
- Mae hybu cynhyrchiant yn hanfodol ar gyfer twf hirdymor Cymru. Mae dangosyddion cynhyrchiant rhanbarthol wedi'u hymgorffori yn y fethodoleg i dargedu cyllid i ardaloedd lle mae cynhyrchiant yn is, sy'n cynrychioli ardaloedd ar gyfer twf posibl a photensial economaidd.
- Pwysleisiodd adborth rhanddeiliaid a dadansoddiad economaidd-gymdeithasol yr angen am fethodoleg sy'n adlewyrchu heriau natur wledig ac ymylol i dwf economaidd. Mae hyn hefyd yn cydnabod y bydd costau y pen ar gyfer seilwaith yn uwch yn yr ardaloedd hyn o'u cymharu ag ardaloedd mwy trefol. Mae'r pwysoliad natur wledig yn targedu ardaloedd sy'n denau eu poblogaeth i gynyddu buddsoddiad mewn ardaloedd sy'n wynebu heriau ychwanegol o ddiffyg cydgrynhoad a phellter i farchnadoedd.
Trosolwg o’r fethodoleg
Mae'r fethodoleg yn cynnwys tri cham wedi'u llywio gan yr egwyddorion craidd:
- Dewis Lle
- Cwantwm
- Dyraniad
Cam 1: dewis lle
Mae lleoedd wedi'u nodi gan ddefnyddio'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig sydd eisoes wedi'u sefydlu, fel yr arweinwyr cynllunio rhanbarthol ar gyfer yr LGF. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn aelod o un Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unig ac mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyffiniol (h.y. nid ydynt yn gorgyffwrdd).
Cam 2: cwantwm
Dyma gyfanswm cwantwm y cyllid i'w ddyrannu ar draws y lleoedd sy'n derbyn fesul blwyddyn, wedi'i rannu yn ôl RDEL a CDEL:
| Blwyddyn | RDEL 2027-2028 | RDEL 2028-2029 | CDEL 2027-2028 | CDEL 2028-2029 | TDEL 2027-2028 | TDEL 2028-2029 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm y cyllid | £60,233,712 | £53,108,820 | £132,643,345 | £132,680,737 | £192,877,057 | £185,789,557 |
Cam 3: dyraniad
Mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y pedwar rhanbarth Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru yn seiliedig ar fynegai sy'n cynnwys y pwysoliad canlynol (pob un wedi'i addasu ar gyfer amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2024) i gyfrif am wahaniaethau cymharol mewn amddifadedd, cynhyrchiant a natur wledig:
- Amddifadedd (pwysoliad 60%): Wedi'i ddiffinio fel cyfran o ardaloedd bach ym mhob rhanbarth sydd o fewn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan ddefnyddio data MALlC 2025 gan Lywodraeth Cymru.
- Cynhyrchiant (pwysoliad 30%): Wedi'i ddiffinio fel cynhyrchiant rhanbarthol fesul awr a weithiwyd, gan ddefnyddio data cynhyrchiant is-ranbarthol 2023 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
- Natur wledig (pwysoliad 10%): Wedi'i ddiffinio fel cyfran o'r poblogaethau sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Pan fo ar gael, mae'r data a ddefnyddir ar gyfer rhanbarthau economaidd (Cyd-bwyllgorau Corfforedig). Fodd bynnag, mae data Awdurdodau Lleol yn cael eu cyfuno gan ddefnyddio pwysoliadau poblogaeth pan nad oes data rhanbarthol ar gael.
Mae dyraniad cyfalaf dangosol Cymru gyfan o oddeutu 20% (£25,000,000) y flwyddyn wedi'i nodi i gefnogi ymyriadau ar raddfa drawsranbarthol a chenedlaethol pan fo'r rhain yn cynnig manteision clir, megis arbedion maint, mynediad at arbenigedd, neu lai o ddyblygu. Mae'r dyraniad hwn wedi'i glustnodi ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ac fe'i cymerir o gyllidebau rhanbarthol yn unol â'r un fethodoleg a ddefnyddir i ddyrannu RDEL a CDEL sy'n weddill.
Canlyniadau dyraniadau
Dyma'r dyraniad rhanbarthol y mae hyn yn arwain ato:
| Rhanbarth | RDEL 2027-2028 | RDEL 2028-2029 | CDEL 2027-2028 | CDEL 2028-2029 | Pan-Wales Per-annum | TDEL 2027-2028 | TDEL 2028-2029 |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gogledd Cymru | £12,942,289 | £11,411,379 | £23,129,096 | £23,137,130 | £5,371,697 | £41,443,082 | £39,920,206 |
| Canolbarth Cymru | £4,439,610 | £3,914,460 | £7,934,004 | £7,936,760 | £1,842,660 | £14,216,274 | £13,693,880 |
| De-orllewin Cymru | £14,619,659 | £12,890,336 | £26,126,713 | £26,135,789 | £6,067,889 | £46,814,261 | £45,094,014 |
| De-ddwyrain Cymru | £28,232,154 | £24,892,645 | £50,453,532 | £50,471,058 | £11,717,754 | £90,403,440 | £87,081,457 |
