Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (10 Tachwedd 2017), cyhoeddodd Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £2.3 biliwn ychwanegol i foderneiddio'r seilwaith addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn gwneud ail don fuddsoddi'n bosibl i'r rhaglen flaenllaw, Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif - sy'n rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol hirdymor.

Bydd Band A y Rhaglen yn dod i ben yn 2019 ar ôl gwario £1.4 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd.  Bydd Band B, yr ail don fuddsoddi, yn cynnwys dwy ffrwd gyllido; un yn defnyddio cyfalaf traddodiadol, ac un yn defnyddio cyllid refeniw, drwy fath newydd o Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat sef y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Mae Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi cynnig gwerth £2.3 biliwn o brosiectau sy'n bodloni amcanion buddsoddi Band B y rhaglen, gan gynnwys:

  • ymdrin â'r cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg
  • lleihau'r nifer o leoedd dros ben ac aneffeithlonrwydd yn y system
  • ehangu ysgolion a cholegau mewn ardaloedd lle bu cynnydd yn y galw am wasanaethau addysgol
  • mynd i'r afael â chyflwr asedau addysgol
  • sicrhau bod asedau ar gael i'r gymuned eu defnyddio lle bo galw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i gefnogi'r holl brosiectau hyn, cyn belled â bod yr achosion busnes yn cael eu cymeradwyo.

Wrth agor Ysgol Cybi, ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyfer 540 o blant yng Nghaergybi a ariannwyd â £9.7 miliwn o gyllid Band A, dywedodd Kirsty Williams:

“Dw i wedi ymroi i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol drwyddi draw. Mae'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn un o'r dulliau rydyn ni'n eu defnyddio i gyflawni'r uchelgais hon. Dyma'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au.

“Bydd y don fuddsoddi gyntaf a ddarperir drwy'r Rhaglen yn golygu gwario dros £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben yn 2019, drwy helpu i ailadeiladu ac ailwampio dros 150 o ysgolion a cholegau yng Nghymru.

“Dyma pam dw i mor falch o gyhoeddi ail don fuddsoddi'r Rhaglen, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019.

“Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid i gytuno ar ein hamserlen ac i sefydlu cynlluniau buddsoddi sy'n fforddiadwy ac sy'n gydnaws â'r nod sydd gennym yn gyffredin, i greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy'n diwallu anghenion ein cymunedau.”

Bydd gwybodaeth ynghylch prosiectau unigol Band B yn cael ei chyhoeddi mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol maes o law.

Ysgolion yr 21ain ganrif (dolen allanol)