Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Nod y ddogfen hon yw darparu atebion i gwestiynau cyffredin ar derfynu prosiect o dan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 i 2020 i fuddiolwyr. Dylid ei darllen ar y cyd â chanllawiau WEFO ar baratoi i derfynu prosiect a rheolau cymhwystra a chydymffurfio cronfeydd strwythurol 2014 i 2020 ac ar gyfer gweithrediadau Iwerddon Cymru Rheolau a Chanllawiau Cymhwysedd Rhaglenni Iwerddon Cymru.

Defnyddir y term prosiect/gweithrediad yn gyfnewidiol yn y ddogfen hon. Dyma'r cynigion a nodir yn eich cais am gyllid ac a gymeradwywyd gennym ni neu gan Gorff Cyfryngol lle y'u dynodwyd gan WEFO.

Cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Prosiect (PDO) / Swyddog Gweithrediadau os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â therfynu prosiect/gweithrediad.

1. Pa mor hir fydd angen i mi gadw dogfennau ar ôl i fy ngweithrediad / prosiect ddod i ben?

Mae cadw cofnodion yn ofyniad rheoleiddio craidd yr EC (Erthygl 140 o Reoliad 1303/ 2013) ac un y mae'n rhaid i bob buddiolwr gadw ato. Amlinellir hyn fel amod i'ch cytundeb cyllido a gellir dod o hyd i ganllawiau yn Rhan 2 o 'Rheolau Cymhwystra ac Amodau ar gyfer cael Cymorth o’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 i 2020' neu ar gyfer gweithrediadau Cymru Iwerddon, Adran 5 o reolau a chanllawiau Rhaglen Iwerddon Cymru. 

Rhaid i chi hefyd ystyried y rhwymedigaethau pwysig canlynol a allai ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad hwn a'i gwneud yn ofynnol i chi gadw dogfennau am gyfnod hirach:

  • Cymorth gwladwriaethol - lle dyfarnwyd cyllid yr UE gan ddefnyddio cymorth gwladwriaethol yna mae'n ofynnol i chi gynorthwyo WEFO gyda'r gofyniad i gadw dogfennau am ddeng mlynedd ar ôl i'r cymorth gael ei roi.
  • Parhauster – os yw eich gweithrediad yn fuddsoddiad mewn seilwaith neu 'fuddsoddiad cynhyrchiol' yna bydd angen i chi gadw dogfennau sy'n cefnogi cydymffurfiaeth ag Erthygl 71 o Reoliad (UE) Rhif 1303/2013 am hyd at 5 mlynedd ar ôl i'r taliad terfynol gael ei wneud gennym ni. Mae cwestiwn 2 yn rhoi mwy o fanylion am y rheol ‘parhauster’.
  • Cynhyrchu refeniw – mae’n bosibl y bydd angen cadw dogfennau am gyfnod hirach ar gyfer prosiectau sy’n cynhyrchu refeniw sy’n dod o dan Erthygl 61 o Reoliad (UE) Rhif 1303/2013, h.y. hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau'r gwaith. Bydd angen i chi wirio eich Cytundeb Cyllido am fanylion ynghylch pa reolau sy'n berthnasol i'ch gweithrediad (Amod 10 'Gweithrediadau sy’n Cynhyrchu Refeniw Net'.
  • Asedau – ar gyfer unrhyw asedau a brynwyd gyda chronfeydd yr UE, mae'n ofynnol i chi ein hysbysu o unrhyw werthiant/trosglwyddiad neu warediad o’r asedau hynny am hyd at bum mlynedd yn dilyn y taliad terfynol. Felly, yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i chi barhau i gadw dogfennau sy'n dangos eich bod yn cydymffurfio â’r amod cyllid hwn. Mae cwestiwn 7 yn rhoi rhagor o fanylion ar reolau asedau.
  • Gofynion eraill – wrth benderfynu a ddylid gwaredu cofnodion, rhaid i chi hefyd ystyried unrhyw ofynion eraill y tu allan i reoliadau'r UE. Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, polisi cadw eich sefydliad eich hun a rheolau CThEM.

Yn ogystal, os yw archwiliadau neu ymchwiliadau ar y gweill, mae'n bosibl y cewch eich cynghori'n benodol i gadw'r trywydd archwilio hyd nes y clywir yn wahanol. Ar ôl terfynu eich prosiect, byddwn yn ysgrifennu a rhoi gwybod i chi am y dyddiadau cadw dogfennau sy'n berthnasol i'ch prosiect chi.

2. Beth mae’r rheolau ‘parhauster’ yn ei olygu i’m prosiect i ar ôl iddo derfynu?

Mae'r rheol 'parhauster' yn gosod rhwymedigaeth ar fuddiolwyr i gynnal buddsoddiadau a ariennir gan yr UE am 5 mlynedd ar ôl y taliad terfynol (3 blynedd mewn achosion yn ymwneud â buddsoddiadau neu swyddi a grëwyd gan fusnesau bach a chanolig) lle mae buddsoddiad mewn seilwaith neu fuddsoddiad cynhyrchiol.

Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd o fewn 5 mlynedd i'r taliad terfynol (i) mae'r gweithgaredd cynhyrchiol yn dod i ben (ii) mae gweithgaredd y prosiect yn cael ei adleoli y tu allan i ranbarth y rhaglen (iii) ceir newid yn y berchnogaeth ar eitem o seilwaith sy'n rhoi mantais gormodol i gorff cyhoeddus (vi) ceir newid sylweddol sy'n effeithio ar ei natur a fyddai'n tanseilio ei amcanion gwreiddiol, yna mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o gyfraniad yr UE.

Bydd Tîm Gwirio Rheoli WEFO yn cynnal ymweliadau prosiect i wirio cydymffurfiaeth â rheolau parhauster - bydd yr ymweliad yn digwydd o leiaf unwaith o fewn y pum mlynedd ar ôl cwblhau y gweithrediad.

Mae gweithrediadau nad ydynt yn fuddsoddiad mewn seilwaith nac yn fuddsoddiad cynhyrchiol wedi'u heithrio o'r rheolau hyn (oni bai bod rheolau Cymorth Gwladwriaethol cymwys yn gosod rhwymedigaeth i gynnal y buddsoddiad).

3. Beth caiff ei ystyried yn ‘Fuddsoddiad mewn Seilwaith neu fuddsoddiad cynhyrchiol’?

Nid yw Erthygl 71 o'r Rheoliadau Darpariaeth Gyffredin (UE 1303/2013) yn diffinio'n llawn y termau 'seilwaith' neu 'fuddsoddiad cynhyrchiol', fodd bynnag, mae rheoliadau/ cyhoeddiadau eraill y Gymuned Ewropeaidd yn cyfeirio at y ddau derm mewn ychydig mwy o fanylder. 

Gall eitemau o seilwaith gynnwys tir, adeiladau, eitemau mawr o offer, planhigion a pheiriannau, rhwydweithiau, cyfleustodau ac ati. Yn gyffredinol, ni fydd rheolau gwydnwch yn berthnasol i bethau fel nwyddau traul, offer symudol, dodrefn ac ati.

Buddsoddiadau cynhyrchiol yw buddsoddiadau a wneir i gynyddu capasiti cynhyrchiol menter. Gellir ei ddiffinio ymhellach fel buddsoddiad mewn cyfalaf sefydlog neu asedau anfaterol ar gyfer mentrau, sydd i'w defnyddio ar gyfer cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau, a thrwy hynny gyfrannu at ffurfio cyfalaf gros a chyflogaeth.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn fuddsoddiad mewn seilwaith neu fuddsoddiad cynhyrchiol, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Prosiect / Swyddog Gweithrediadau.

4. Pa mor hir mae angen imi barhau i arddangos plac yr UE ar ôl terfynu’r prosiect?

Ar gyfer gweithrediadau ESF nid oes gofyn parhau i arddangos plac coffa ar ôl iddynt ddod i ben.  Fodd bynnag, pan fyddant yn dod i ben, bydd angen i chi gynnal yr holl ddogfennau ategol nes bod eich cyfnod cadw priodol yn dod i ben (bydd WEFO yn eich hysbysu o'r dyddiadau cadw perthnasol) ac o ran placiau byddem yn eich cynghori i gynnal y rhain (er nad yw'n ofyniad i'w harddangos mwyach) gyda'r dogfennau ategol ar gyfer pob gweithrediad nes bod y cyfnod cadw wedi darfod.

Ar gyfer gweithrediadau cyfalaf ERDF, rhaid i chi arddangos arwyddion (un ai plac neu hysbysfwrdd) parhaol (h.y. am gyfnod amhenodol) mewn lleoliad sy'n hawdd i'r cyhoedd ei weld.

5. Pa mor hir mae angen imi gadw gwefan fy mhrosiect yn fyw ar ôl terfynu’r prosiect?

Dim ond tan ddiwedd y prosiect y mae angen i fuddiolwyr gadw gwefannau'n fyw ac arddangos logo'r UE ar y wefan. Unwaith y bydd y prosiect wedi dod i ben ac nad yw'r wefan yn cael ei defnyddio bellach nid oes angen ei chadw ar-lein / yn fyw.

Fodd bynnag, dylai'r buddiolwyr sicrhau eu bod yn cadw tystiolaeth o'r cynnwys digidol / gwefan a gynhaliwyd i roi cyhoeddusrwydd i gefnogaeth ERDF/ESF. Nid oes rhaid i chi arbed pob tudalen o'r wefan o reidrwydd - yr unig ofyniad, fel y nodir yn y canllawiau gwybodaeth a chyhoeddusrwydd, yw bod cronfeydd yr UE yn cael eu cydnabod ar y wefan. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi logo ESF neu ERDF mewn fformat amlwg a hygyrch a disgrifiad byr o'r prosiect, gan gynnwys ei nodau a'i ganlyniadau, ac enw'r gronfa y mae'r gefnogaeth ariannol wedi'i chymeradwyo ohoni. Lle mae gwefan wedi ei datblygu at yr unig bwrpas o gyflwyno cynllun sy'n cael ei ariannu gan yr UE, yna dylai'r logo ynghyd â'r wybodaeth yma ymddangos ar hafan y wefan.

Felly, dylai buddiolwyr gadw tystiolaeth o'r elfennau uchod o'r wefan. Gellir gwneud hyn mewn ychydig o ffyrdd, naill ai drwy arbed y cynnwys digidol drwy archifo'r we neu drwy gasglu'r wybodaeth a geir ar y wefan a'i arbed (copi electronig neu galed) yn unol ag un o'r opsiynau yn adran 5.1.4.2 o'r rheolau cymhwysedd. Dylid cadw'r wybodaeth hon yn unol â chyfnod cadw dogfennau'r prosiectau.

6. Nawr bod y DU wedi gadael yr UE, oes dal angen imi gadw dogfennau prosiect ar gyfer archwiliadau yn y dyfodol?

Ydy, mae'r un gofynion cadw dogfennau yn parhau i fod yn berthnasol i chi ac ni ddylech dinistrio unrhyw ddogfennau nes cael cyngor yn ysgrifenedig i wneud hynny gan WEFO, fel y nodir yn y Cytundeb Cyllido a rheolau cymhwystra WEFO - Adran 5.1.4.1 Cyfnodau Cadw Dogfennau a Chadw Cofnodion.

Gall eich gweithrediad fod yn destun ymweliadau archwilio a monitro unrhyw bryd hyd at ddyddiad terfynol eich cyfnod cadw neu hyd at o leiaf 31 Rhagfyr 2027 (neu'n hwyrach os yw grant yr UE yn cael ei ddyfarnu o dan reolau Cymorth Gwladwriaethol).

7. Pa rwymedigaethau sydd ar waith ar gyfer asedau a brynwyd gyda chronfeydd yr UE?

Mae amod o fewn Cytundeb Cyllido WEFO sy'n ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwyr hysbysu WEFO (digwyddiad hysbysu) lle defnyddir asedau at ddibenion heblaw'r rhai a fwriedir yn wreiddiol neu sy'n cael eu gwaredu, o fewn 5 mlynedd i'r taliad terfynol. Mae Rheolau Cymhwystra WEFO a Rheolau Cymhwystra Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru yn nodi gofyniad i gynnal cofrestr asedau llawn ar gyfer yr holl asedau / offer a brynwyd gyda chymorth cronfeydd yr UE. Dylai'r gofrestr hon gynnwys manylion llawn dyddiadau prynu, cost, disgrifiad, lleoliad, dibrisiant a dyddiad gwerthu/gwaredu lle bo hynny'n berthnasol.

Yr arfer gorau yw cynnal a chadw log o'r holl offer a brynwyd gan ddefnyddio cymorth cronfeydd yr UE, er mwyn cefnogi unrhyw heriau archwilio. Gellir ystyried offer sydd ag oes o lai na blwyddyn yn gost refeniw.

8. A allaf werthu neu roi gliniaduron/ offer/ dodrefn prosiect ar ôl i’r prosiect ddod i ben os nad oes eu hangen mwyach?

Nid yw rheoliadau parhauster yr UE yn berthnasol i liniaduron neu ddodrefn swyddfa fodd bynnag, fel y nodir yn C7, mae gofyniad cyffredinol i sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio at y diben bwriadedig. Felly, lle rhoddir gliniaduron/ offer/ dodrefn yna dylid cynnal manylion h.y. rhifau cyfresol o liniaduron a roddwyd a dyddiad rhoi a chofnodir ar y gofrestr asedau. Os gwerthir offer, efallai y bydd angen rhoi gwybod i WEFO hefyd fel 'refeniw'. Ar gyfer unrhyw rodd neu werthu gliniaduron, bydd angen i fuddiolwyr sicrhau hefyd:

  • Lle mae data buddiolwyr wedi'u cynnwys ar liniaduron rhaid trosglwyddo hyn i unrhyw becyn newydd gan sicrhau bod gofynion cadw dogfennau a chywirdeb yn cael eu bodloni ynghyd â chydymffurfiaeth â gofynion GDPR.
  • Nad oes modd adfer y data sydd wedi’u storio (h.y. dileu data trwy ddileu neu ddiwygio gyriannau caled) a lle gwneir hyn, sicrhau bod y cymwysterau ISO priodol a'r achrediadau TG yn eu lle ar gyfer y rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn.

9. A allaf barhau i ddefnyddio deunyddiau dysgu / deunyddiau hyfforddi a ddatblygwyd gan ein prosiect ar ôl iddo ddod i ben?

Gallwch, gellir parhau i ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau dysgu/ hyfforddi sydd wedi'u datblygu gan eich prosiect a'u hariannu gan yr UE ar ôl i'r prosiect ddod i ben.

10. A yw costau diswyddo gan gynnwys taliadau diswyddo estynedig i staff sy'n cael eu hariannu gan yr UE yn gost gymwys?

Ydyn, gall costau diswyddo fod yn gymwys os yw’r costau hynny yn unol â'r egwyddorion a nodir yn adran 9.2.5 o'r rheolau cymhwystra neu adran 8.2.5 o reolau cymhwystra Iwerddon Cymru. Rhaid i gostau gael eu cynnwys yn y proffil cyflenwi / cyllideb costau staff presennol. Os yw polisi cytundebol / diswyddo safonol sefydliadau yn berthnasol i'r holl staff (waeth beth yw'r cynllun diswyddo) ac yn cynnig taliadau diswyddo gwell (h.y. gormodedd o ofynion statudol) yna mewn achosion o'r fath bydd unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r taliad diswyddo yn gymwys i gymorth drwy'r cronfeydd strwythurol.

11. Oes angen i mi ddarparu copi o hysbysiad preifatrwydd y prosiect i WEFO?

Dylai eich prosiect gael hysbysiad preifatrwydd cyfredol. Ar gyfer gweithrediadau sydd wedi cael cefnogaeth ariannol gan y cronfeydd strwythurol, WEFO yw'r Rheolydd Data, y prif fuddiolwr yw'r Prosesydd Data ac ystyrir unrhyw fuddiolwyr ar y cyd yn Is-Broseswyr. Amlinellir y rolau hyn ym mhob cytundeb ariannu unigol drwy Atodlen o'r enw, 'Gofynion y GDPR' (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data)'. Gall WEFO ofyn am weld copi o'ch hysbysiad preifatrwydd fel rhan o'i wiriadau terfynu.

I nodi: Mae WEFO wedi diwygio ei Hysbysiad Preifatrwydd yn ddiweddar.

12. A allaf wneud cais am daliadau ymlaen llaw i dalu am gostau penodol y bydd y prosiect yn eu talu ar ôl iddo ddod i ben?

Rhaid ysgwyddo a thalu costau yn ystod cyfnod gweithredu prosiect. Ni all gwasanaethau / nwyddau a brynwyd yn ystod cyfnod y prosiect, ond a fydd yn cael eu defnyddio ar ôl i'r prosiect ddod i ben gael eu had-dalu gan gronfeydd yr UE, a byddant yn cael eu hystyried yn anghymwys. Mae Dyddiad Cwblhau Ariannol y gweithrediad yn nodi’r dyddiad terfynol ar gyfer ysgwyddo a thalu costau.

Yr unig eithriad i hyn yw:

  • Costau Yswiriant Gwladol a chostau treth pensiynau sy’n gysylltiedig â thaliadau cyflog, gan fod WEFO yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd modd i fuddiolwyr dalu costau o’r fath o fewn yr un mis â’r costau cyflog cysylltiedig. Mae hyn ond yn berthnasol i gostau cyflog sydd wedi eu talu o fewn oes ariannol y gweithrediad y cytunwyd arno.
  • Costau gwerthuso terfynol, pan fo oedi mewn gwerthusiadau terfynol ac mae'r dyddiad talu yn disgyn y tu allan i ddyddiad terfynu'r prosiect. Ar gytundeb ag WEFO, gellir hawlio cost y gwerthusiad fel rhan o'r cais terfynol. Dylai buddiolwyr gynnwys trafodiad yn eu rhestr trafodion gyda dyddiad taliad o fewn oes y prosiect a naill ai'r gost derfynol neu'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r gost derfynol i'w hawlio. Ar ôl talu'r anfoneb derfynol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r taliad i dîm Taliadau WEFO h.y. cyfriflen banc, a chopi o'r anfoneb derfynol.   

Buddiolwyr y grant fydd yn gyfrifol am amsugno unrhyw gostau o ddigwyddiadau sy’n digwydd ar ôl i brosiectau ddod i ben, megis storio ac adalw cofnodion, arolygiadau archwilio ac ymchwiliadau.

13. Wrth i'r buddiolwyr gadw dogfennau prosiect am nifer o flynyddoedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben, a yw'r gost storio hon yn gymwys?

Gall gweithrediad / prosiect hawlio costau storio yn ystod ei gyfnod gweithredu, gan gynnwys taliadau ymlaen llaw ar gyfer cyfleusterau llogi storfa / trwyddedau TG ar gyfer y cyfnod ôl-gwblhau ond dim ond wrth gontractio gyda chyflenwyr allanol ar delerau masnachol safonol (h.y. talu ymlaen llaw am rentu gofod storio neu dalu ymlaen llaw am drwyddedau meddalwedd i helpu i storio e-gofnodion). Fodd bynnag, ni ddylech gynnig y trefniant hwn yn wirfoddol i gyflenwyr neu gamddefnyddio'r rheol er mwyn cyflymu mynediad i gronfeydd yr UE.  

14. Oes angen imi gyhoeddi fy ngwerthusiad?

Nid oes gofyniad i fuddiolwyr gyhoeddi gwerthusiadau terfynol. Fodd bynnag, at ddibenion tryloywder, byddem yn annog buddiolwyr yn gryf i gyhoeddi eu gwerthusiadau terfynol. Fel rhan o'r broses derfynu, bydd WEFO yn gofyn am gopi o fersiwn derfynol gwerthusiad eich prosiect. Bydd WEFO yn cyhoeddi rhestr o'r holl werthusiadau terfynol a wneir gan fuddiolwyr ar ei wefan, gan amlinellu:

  • y rhaglen berthnasol,
  • enw'r gweithrediad,
  • y buddiolwr,
  • teitl yr adroddiad/ blwyddyn,
  • awdur yr adroddiad

Yn ogystal, a phan fo ar gael, bydd WEFO yn cynnwys o fewn y rhestr hyperddolen i wefan buddiolwr lle gellir gweld yr adroddiad gwerthuso terfynol.

15. A fu unrhyw newidiadau i’r broses ar gyfer cyflwyno data monitro?

Mae’n bwysig bod gweithrediadau yn sicrhau cywirdeb a chyfanrwydd data monitro a gyflwynir drwy’r broses hawlio i adrodd yn llawn yn erbyn y dangosyddion targed ar gyfer eich gweithrediadau. Mae hyn yn bwysig nid yn unig ar lefel gweithredol ond hefyd er mwyn galluogi WEFO i adrodd ar y buddiannau a gyflawnwyd gan raglenni ERDF ac ESF yng Nghymru.

Ar gyfer gweithrediadau sy’n adrodd yn erbyn mentrau a/neu gyfranogwyr, y llynedd fe wnaethom gyflwyno gwelliannau i’r adroddiadau dilysu sy’n cael eu cynhyrchu pan fyddwch yn uwchlwytho Mentrau ERDF neu Gyfranogwyr ESF a/neu Mentrau ESF ar eich hawliadau. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Ychwanegu sgriniau ar wahân ar gyfer pob maes o fewn yr adroddiad dilysu;
  • Manylion y rheol ddilysu sy’n cael ei chymhwyso i unrhyw faes penodol, gan gynnwys fformat y data gofynnol a’r rhestr o werthoedd data dilys;
  • Cyfansymiau ar gyfer nifer y rhesi gyda data annilys a chyfansymiau ar gyfer nifer y rhesi sydd â data ar goll; a
  • Rhestr o’r ugain rhes gyntaf o wallau, yn dangos a yw’r data ar goll neu a yw’n cynnwys data annilys.

Mae cyfyngiadau yn parhau o ran yr adroddiadau dilysu a gynhyrchir, gan eu bod yn rhai generig, ac nid ydynt yn benodol i weithrediadau. Felly, gallai’r adroddiad ddangos bod gwallau, fel data ar goll o feysydd nad ydych yn adrodd yn eu herbyn ar gyfer eith gweithrediad. Felly, gwiriwch yr adran ‘manylion dangosydd’ ar yr hawliad, unwaith y byddwch wedi uwchlwytho unrhyw ffeil/ffeiliau Cyfranogwyr neu Mentrau a gwirio’r adroddiad/adroddiadau dilysu a derbyn y ffeil/ffeiliau, er mwyn sicrhau bod y data a gyflawnwyd cronnol a gyfrifir gan y system yn dychwelyd y gwerthoedd a gyflawnwyd yr ydych yn eu disgwyl.

Ar gyfer data cyflawni dangosydd sy’n cael eu mewnbynnu â llaw ar yr adran ‘manylion dangosydd’, sicrhewch fod y data yn gyfredol ac yn gywir. Os dewch ar draws unrhyw broblemau, cysylltwch â Blwch Post RME WEFO neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Prosiectau/Swyddog Gweithrediadau am gymorth.

16. Ydy'r Comisiwn Ewropeaidd wedi ymestyn cyfnod cau'r rhaglen

Nid oes unrhyw gynigion i ymestyn dyddiad gorffen cymhwysedd y rhaglen, sy'n parhau ar 31 Rhagfyr 2023. 

Mae cynnig wedi'i gyhoeddi i ymestyn y terfynau amser ar gyfer cyflwyno dogfennau cais terfynol a chau WEFO i'r Comisiwn o 12 mis. Ni fyddai hyn yn effeithio ar yr amserlen cau ar gyfer buddiolwyr gan fod angen inni brosesu hawliadau yn brydlon o hyd, ond byddai'n golygu y gallai pob un ohonom fod yn agored i brosesau archwilio am flwyddyn yn hwy na'r disgwyl. 

Mae'r newidiadau arfaethedig yn rhan o fenter llawer mwy o'r enw 'Llwyfan Technolegau Strategol ar gyfer Ewrop' sydd wedi'i osod yng nghyd-destun yr adolygiad canol tymor o Fframwaith Ariannol Amlflwydd 2021-2027. Mae'r gwaith ar hyn yn cael ei wneud drwy weithgor benodol ac ni ddisgwylir cytundeb gwleidyddol terfynol ar y cynigion, gan gynnwys ymestyn terfynau cau rhaglenni 2014-20, tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn galendr hon. 

Yn y cyfamser, rhaid i bob buddiolwr barhau i weithio i'r terfynau cau a ddarperir gan eu PDO/CG.

17. Pwy ddylwn i gysylltu â hwy i nodi bod 'Digwyddiad Hysbysu' wedi digwydd neu ar fin digwydd a bod fy mhrosiect wedi dod i ben?

Mae 'Digwyddiadau Hysbysu' a all ddigwydd wrth weithredu ac ar ôl cwblhau gweithgaredd prosiect cymeradwy yn cael eu hamlinellu yn Atodlen 2 eich Cytundeb Cyllid WEFO. Hefyd, mae Amod 9 Cytundeb Cyllid WEFO yn cyfarwyddo buddiolwyr a WEFO o'r broses i'w dilyn o ran 'Digwyddiadau Hysbysu'. Bydd angen i'r un broses hon gael ei mabwysiadu gan fuddiolwyr a WEFO unwaith y bydd prosiect wedi'i gwblhau/cau a bod 'Digwyddiad Hysbysu' wedi bod. Bydd angen i fuddiolwyr gysylltu â'u Swyddog Datblygu Prosiect/ Swyddog Gweithrediadau yn y lle cyntaf ac yn syth ar ôl nodi bodolaeth 'Digwyddiad Hysbysu'. Lle nad yw eich Swyddog Datblygu Prosiect/ Swyddog Gweithrediadau ar gael mwyach, cewch eich cyfeirio at aelod arall o WEFO a/neu at Adran Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am sicrhau bod Rhaglenni Cronfa Strwythurol 2014-2020 wedi'u gweinyddu, eu gweithredu, eu cau, eu monitro, eu harchwilio ac ati; yn unol â rheoliadau'r UE.