Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2023.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £208 miliwn ar 31 Mawrth 2023, sy'n gyfwerth â £456 y disgybl. Gostyngodd lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn £93 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £117 miliwn.
  • Yn ystod 2020-21 a 2021-22, cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol oherwydd effaith pandemig COVID-19 a chyllid craidd ychwanegol a gyhoeddwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Yn ystod 22-23, gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol yn rhannol oherwydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chwyddiant uchel, cefnogi dysgwyr trwy effeithiau parhaus y pandemig a chostau anghenion dysgu ychwanegol cynyddol.
  • Gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd £58 miliwn yn y flwyddyn ddiweddaraf a gostyngodd cronfeydd wrth gefn ysgolion uwchradd £31 miliwn.
  • Roedd gan Gwynedd y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £725 , a Bro Morgannwg oedd yr isaf, gyda £298 y disgybl.
  • Roedd gan 93 o ysgolion cynradd, 19 o ysgolion uwchradd, 2 o ysgolion arbennig, 0 ysgol feithrin a 3 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £15 miliwn. Roedd gan y 1,359 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 616 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

Adroddiadau

Cronfeydd wrth gefn ysgolion: ar 31 Mawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 450 KB

PDF
Saesneg yn unig
450 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.