Crynoadau adar: canllawiau ar sut i wneud cais am drwydded benodol
Canllawiau ar sut i wneud cais am drwydded ar gyfer crynhoi adar sy’n cynnwys Anseriformes.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r Crynoadau adar: ffurflen gais trwydded benodol yn caniatáu i chi wneud cais am drwydded ar gyfer crynhoad o ddofednod neu adar caeth eraill nad ydynt wedi'u cynnwys o gan drwydded gyffredinol.
Os ydych chi'n bwriadu cynnal mwy nag un crynhoad, mae'n rhaid i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob digwyddiad.
E-bostiwch eich cais i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o leiaf 20 diwrnod cyn y crynhoad.
Rhaid i chi lenwi'r holl adrannau yn rhannau 1 a 2 o'r ffurflen. Os yw'ch cais yn anghyflawn, ni fydd y cyfnod o 20 diwrnod yn dechrau nes bod yr holl wybodaeth yn cael ei derbyn.
Mae modd cyflwyno cais yn gynharach.
Rhan 1: cais
Enw'r person sy'n gwneud cais am drwydded
Rhaid gofyn am y drwydded a'i llofnodi gan y person sy'n gyfrifol am drefnu'r crynhoad. Bydd yr ymgeisydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gydymffurfio ag amodau'r drwydded fel y manylir yn atodiad y drwydded.
Dylech gynnwys eich manylion cyswllt. Byddwn yn eu defnyddio i gysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais.
Cyfeiriad lleoliad y crynhoad
Mae angen i ni allu gwirio a oes cyfyngiadau penodol ar waith ar y safle. Byddwn yn penderfynu beth all ddigwydd ac na all ddigwydd yn seiliedig ar yr wybodaeth hon.
Os gallwch ddarparu'r rhif CPH ar gyfer y safle (os yw'n berthnasol) gall hyn leihau'r amser y mae'n ei gymryd i ni brosesu eich cais.
Rhaid i chi ddweud wrthym y dyddiad rydych chi'n bwriadu cynnal y crynhhoad gan ei fod yn caniatáu inni flaenoriaethu prosesu ceisiadau.
Math o adar a fydd yn bresennol yn y crynhoad
Mae angen i ni wybod y math o grynhoad rydych chi'n gwneud cais i'w gynnal i wneud yn siŵr ein bod yn dyfarnu'r drwydded gywir. Ticiwch bob blwch sy'n berthnasol ar gyfer y mathau o adar a fydd yn mynychu.
- mae "anseriformes" yn cyfeirio at urdd o adar sy'n cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch
- mae "ratites" yn cyfeirio at grŵp o adar sy'n cynnwys estrys, emws a rheas
- mae "galliformes" yn cyfeirio at urdd o adar sy'n cynnwys twrcwn, ieir, soflieir, petrys a ffesantod
- mae "columbiformes" yn cyfeirio at urdd o adar sy'n cynnwys colomennod dof, turturod a cholomennod rasio
- mae "passeriformes" yn cyfeirio at urdd o adar gan gynnwys caneris a phincod
- mae "psittaciformes" yn cyfeirio at urdd o adar sy'n cynnwys parotiaid, byjis, parotynod, macawiaid a chocatŵod
- mae "adar ysglyfaethus" yn cyfeirio at adar gan gynnwys hebogau, eryrod, barcutiaid, gweilch y pysgod, cudyllod a characaraod
Disgrifiad o'r adar a fydd yn bresennol yn y crynhoad
Rhaid i chi gynnwys rhestr o ba rywogaethau a faint fydd yn mynychu ar gyfer pob math (urdd) o adar rydych chi'n gwneud cais iddynt fod yn y crynhoad.
Uchafswm nifer yr adar a fydd yn y crynhoad
Dylech fod mor fanwl â phosibl yn yr adran hon, gan gynnwys:
- uchafswm nifer yr adar sy'n mynd i fod yn bresennol
- nifer disgwyliedig o bob math o adar a fydd yn bresennol
Uchafswm nifer y safleoedd gwreiddiol
Mae angen i ni wybod y nifer uchaf y safleoedd y bydd yr adar sydd yn y crynhoad d yn tarddu ohonynt.
Uchafswm nifer yr arddangoswyr
Mae angen i ni wybod y nifer uchaf o arddangoswyr sy'n dod ag adar i'r crynhoad.
Lleoliadau disgwyliedig y safleoedd gwreiddiol uchod ac arddangoswyr
Ar gyfer y nifer uchaf uchod o safleoedd gwreiddiol ac arddangoswyr, bydd angen i ni wybod y lleoliadau disgwyliedig ar gyfer safleoedd gwreiddiol adar.
Pwrpas y crynhoad
Mae angen i ni wybod pa fath o grynhoad fydd yn cael ei gynnal. Ticiwch bob blwch sy'n berthnasol ar gyfer y crynhoad arfaethedig.
Enw'r milfeddyg dynodedig ac enw'r arbenigwr adar
Rhaid i chi ddynodi a dweud wrthym enw a manylion cyswllt yr isod:
- milfeddyg
- arbenigwr adar
Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd APHA yn dweud wrthych a yw eich crynhoad ad yn gofyn am fwy neu lai o fesurau lliniaru risg.
Os oes angen llai o fesurau lliniaru risg ar eich crynhoad, bydd yr arbenigwr adar dynodedig yn gyfrifol am archwilio adar yn unigol cyn iddynt gael mynediad i'r crynhoad.
Dylai'r person hwn fod yn geidwad adar profiadol, a dylai fod ganddo wybodaeth benodol am y rhywogaeth sy'n mynychu'r crynhoad. Rhaid iddo fod yn ddigon profiadol i adnabod arwyddion o salwch yn yr adar.
Os oes angen rhagor o fesurau liniaru risg ar eich crynhoad, bydd y milfeddyg dynodedig yn gyfrifol am archwilio adar yn unigol cyn iddynt fynd i mewn i'r crynhoad.
Yn y naill fath o grynhoad neu'r llall, bydd angen milfeddyg dynodedig arnoch y byddwch chi'n ymgynghori ag ef os bydd unrhyw adar yn y crynhoad yn dangos unrhyw arwyddion o salwch neu broblemau lles.
Diheintyddion
Rhowch wybodaeth am y math o ddiheintydd a gymeradwywyd gan y llywodraeth rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio yn y crynhoad.
Gallwch ddarllen rhestr o ddiheintyddion a gymeradwywyd gan Defra i'w defnyddio yn erbyn clefydau dofednod.
Rhan 2: datganiad
Os yw unrhyw ran o'r datganiad yn anghyflawn, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais.
Cynllun wrth gefn
Pan fyddwch chi'n anfon eich ffurflen gais am drwydded at APHA, mae angen i chi gynnwys cynllun wrth gefn ysgrifenedig sy'n gwneud trefniadau ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os oes amheuaeth neu gadarnhad o glefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad. Rhaid i'r cynllun gwmpasu:
- sut y bydd adar yr amheuir bod clefyd adar hysbysadwy arnynt yn cael eu gwahanu oddi wrth adar eraill
- lle amheuir clefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad, sut y bydd adar yn cael eu cadw yn y safle nes bod arolygydd milfeddygol APHA wedi rhoi cyfarwyddiadau i adar adael y safle
- trefniadau i sicrhau bod adar yn aros ar safle'r crynhoad os yw symudiadau oddi ar y safle yn cael eu cyfyngu oherwydd bod y crynhoad, yn sgil hynny, yn dod yn barth rheoli clefyd adar hysbysadwy
- datganiad ysgrifenedig a llofnod sy'n cadarnhau bod y cynllun wedi'i drafod a'i gymeradwyo gan filfeddyg
Cymorth
Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, cysylltwch â thîm Gorchmynion Casglu Crynoadau Anifeiliaid APHA.
thîm Gorchmynion Casglu Crynoadau Anifeiliaid APHA
E-bost: APHAWalesAGO@apha.gov.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
