Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Datrysiadau dodrefn

Ar ôl prynu brand Ministry of Furniture ym mis Tachwedd 2023, mae MPS UK Group Ltd wedi ymuno â lot 2 o'r fframwaith datrysiadau dodrefn (NPS-CFM-0092-18) yn llwyddiannus ar 1 Chwefror 2024. I weld y dogfennau fframwaith wedi'u diweddaru, ewch i GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

Rydym wedi dechrau gwaith paratoi cyn tendro ar gyfer y fframwaith dodrefn newydd, a bydd y fframwaith presennol yn dod i ben ym mis Awst 2024. Os hoffech gymryd rhan yn y grŵp ffocws cwsmeriaid i drafod gofynion eich sefydliad, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Cyflenwi deunyddiau adeiladu

Mae'r fframwaith deunyddiau adeiladu cyfredol (NPS-CFM-0085-18) wedi'i ymestyn tan 31 Gorffennaf 2024. Mae'r estyniad yn cwmpasu cyfnod pontio awdurdodau contractio sy'n trosglwyddo i'r fframwaith deunyddiau newydd sy'n cael ei reoli gan Adra, sydd i fod ar waith ar 1 Mawrth 2024. Gellir dod o hyd i fanylion y cyflenwyr a gynhwysir yn y cyfnod ymestyn yn y gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y fframwaith newydd, cysylltwch â'r Rheolwr Fframwaith Martin Burger: martin.burger@adra.co.uk