Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deunyddiau glanhau a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi

Mae ein fframwaith deunyddiau glanhau a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi newydd (WGCD - BU -125 -23) yn weithredol erbyn hyn. Am ragor o wybodaeth, dogfennau canllaw i gwsmeriaid, ac i gael mynediad i becyn dogfennau contractau yn ôl y galw, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Cyflenwi deunyddiau adeiladu

Mae Ffrâm24, y fframwaith deunyddiau adeiladu newydd ar gyfer Cymru gyfan a reolir gan Adra, bellach yn weithredol. Mae'r fframwaith newydd yn olynydd i fframwaith deunyddiau adeiladu tîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) (NPS-CFM-0085-18), sy'n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2024 ac sy'n rhan o Hwb Caffael Cydweithredol Cymru.

Mae Ffrâm24 yn ymgorffori nwyddau a gwasanaethau dros 17 Lot, gan gynnwys 7 parth daearyddol ledled Cymru. Mae 35 o ddarparwyr wedi cael lle ar y fframwaith, gydag 80% wedi'u lleoli yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y fframwaith hwn, e-bostiwch: martin.burger@adra.co.uk neu info@ffram24.co.uk