Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Atebion o ran dodrefn (III)

Mae ein fframwaith atebion o ran dodrefn newydd (WGCD-BU-129-24) bellach yn fyw ac ar gael i'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

O'r 13 cyflenwr a benodwyd i'r fframwaith, mae naw wedi'u lleoli yng Nghymru, a saith yn fentrau bach a chanolig (BBaCh). Mae'r fframwaith yn cwmpasu'r tri lot canlynol:

  • Dodrefn Swyddfa
  • Dodrefn Addysg
  • Lot wedi'i neilltuo ar gyfer gweithdai cyflogaeth warchodol.

Mae dogfennau canllaw ar gyfer y fframwaith ar gael trwy'r Gofrestr Contractau Cyhoeddus ar GwerthwchiGymru (bydd angen i chi fewngofnodi).

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru