Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Atebion o ran dodrefn

Mae hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw (PIN) ar gyfer aildendro ein fframwaith atebion o ran dodrefn wedi'i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi). Os ydych chi'n gyflenwr dodrefn lleol yng Nghymru ac yr hoffech gael eich diweddaru ar ddatblygiadau tendro, mynegwch eich diddordeb yn yr hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw drwy GwerthwchiGymru.

Rydym wedi dosbarthu arolwg rhanddeiliaid i gwsmeriaid ar ein fframwaith dodrefn er mwyn casglu adborth. Ar 11 Rhagfyr, byddwn yn cynnal grŵp ffocws rhithwir i gwsmeriaid i drafod y fframwaith newydd. Bydd y grŵp ffocws i gwsmeriaid yn dechrau am 2pm.

Os hoffech dderbyn dolen i'r arolwg rhanddeiliaid, neu wahoddiad i gyfarfod y grŵp ffocws i gwsmeriaid, cysylltwch â'r tîm yn: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru