Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Atebion o ran dodrefn

Mae'r Ministry of Furniture wedi rhoi'r gorau i fasnachu ac rydyn ni wedi sicrhau gwasanaeth Begbies Traynor. Os oes gennych unrhyw archebion heb eu bodloni, cysylltwch â: mof@btguk.com

Os ydych chi angen unrhyw gymorth i ddod o hyd i unrhyw gynnyrch a/neu wasanaethau o dan ein fframwaith dodrefn, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Deunyddiau glanhau a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi

Mae ein fframwaith deunyddiau glanhau a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2024. Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â grŵp ffocws cwsmeriaid i ddatblygu fframwaith newydd. Mae'r fframwaith newydd wedi'i llunio gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddo a bydd yn cynnwys amrywiaeth o nwyddau eco-gyfrifol arloesol.

Mae'r hysbysiad contract ar gyfer ein fframwaith newydd wedi’i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi). Mae'r tendr yn cau ar 30 Tachwedd 2023.

Byddwn yn gwerthuso'r ceisiadau ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Rydym yn awyddus i weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i werthuso'r ceisiadau a dderbynnir.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi’r gwaith o werthuso'n fframwaith newydd, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru