Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diffodd gwasanaethau analog

Cyhoeddwyd y bydd BT yn diffodd y gwasanaethau analog presennol sy'n cynnwys Rhwydwaith Ffôn Cyfnewid Cyhoeddus (PSTN), Rhwydwaith Digidol Gwasanaethau Integredig (ISDN)2 ac ISDN30 erbyn Rhagfyr 2025 ac y bydd llinellau ffôn digidol (Internet Protocol-IP) yn cymryd eu lle.

Mae mudo graddol eisoes ar y gweill, gyda 'Stop Sell' Cenedlaethol i'w weithredu erbyn mis Medi 2023. Mae 'Stop Sell' yn derm a ddefnyddir pan fydd cyfyngiadau ar gyflenwad newydd a'r hyn y gellir ei wneud ar linellau sy'n bodoli eisoes.

Mae BT wedi cynhyrchu cyfres o daflenni ffeithiau defnyddiol ar sut y bydd symud i linellau ffôn digidol yn effeithio ar wasanaethau analog mewn diwydiannau penodol.

Am fwy o wybodaeth, adnoddau, ac i weld y taflenni ffeithiau, ewch i wefan BT (dolen allanol – Saesneg yn unig).

Gall Gwasanaethau Rhwydwaith 2 (RM3808) Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS)  gefnogi mudo i IP. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at CCS yn uniongyrchol, a chynnwys 'PTSN Expiry' yn eich pennawd pwnc: networkservices@crowncommercial.gov.uk