Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith ar gyfer Chwefror 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Grŵp defnyddwyr eGaffael

Cynhaliwyd ein cyfarfod grŵp defnyddwyr diweddaraf ar 11 Ionawr. Os ydych chi’n brynwr sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn dymuno cael mynediad i'r recordiad, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru

Gwasanaeth gwirio credyd - gwybodaeth cyflenwyr

Mae'r contract gwasanaeth portffolio cyflenwyr a gwirio credyd, a ddarperir gan Dun & Bradstreet, yn dod i ben ar 27 Chwefror 2024. 

Bydd y contract newydd yn cael ei ddarparu gan Dun & Bradstreet a bydd yn dechrau ar 26 Chwefror 2024. Fel rhan o'r contract newydd, bydd y gwasanaeth yn defnyddio fersiwn newydd o'r offeryn.

Mae gennym ddwy sesiwn arddangos ar gael i ddefnyddwyr, wedi'u cynnal ar Microsoft Teams:

  • 6 Chwefror am 11:00 
  • 7 Chwefror am 11:00

Os ydych chi’n ddefnyddiwr cyfredol ac angen mynediad o dan y cytundeb newydd, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru. Er mwyn sicrhau bod gennych le ar ein sesiynau arddangos, e-bostiwch flwch negeseuon Caffael TGCh i gadarnhau pa sesiwn rydych chi'n ei mynychu.

Cynhyrchion a gwasanaethau TG (iii)

Yn dilyn ein sesiynau ymgysylltu â chwsmeriaid a chyflenwyr, rydym yn paratoi'r fanyleb fframwaith yr ydym yn disgwyl ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2024.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r paneli gwerthuso technegol, e-bostiwch CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru

Manylion gwariant ar gyfer Atamis

Dylai sefydliadau gyflwyno eu data gwariant i Atamis erbyn yr 20fedo bob mis i sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys yn y system am y mis perthnasol hwnnw.

Gofynnir i chi gynnwys y rhif Adnabod Contractio Agored (OCID) yn eich cyflwyniad gwariant i Atamis. Mae hyn er mwyn helpu Awdurdodau Contractio a Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer newidiadau a gyflwynir yn Neddf Caffael 2023.

Mae'r OCID, a gynhyrchir pan gyhoeddir hysbysiad ar GwerthwchiGymru, yn ddynodwr unigryw sy'n cysylltu data ar draws camau'r broses contractio.

Yn ogystal, ystyriwch gynnwys rhif cofrestru Tŷ'r Cwmnïau eich cyflenwyr, sy’n ddewisol, yn eich cyflwyniadau dadansoddi gwariant.

Staff yn symud

Mae gennym deimladau cymysg wrth ffarwelio â Paul Robertson a Phil Joslin sy'n gadael y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol, i ymgymryd â rolau newydd. Gan ddymuno pob llwyddiant iddynt gyda'u cyfleoedd newydd a'u llwyddiant parhaus.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'n contractau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru