Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith ar gyfer Mai 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Offer digidol

Rydym wedi sefydlu blwch negeseuon e-bost newydd i ateb unrhyw ymholiadau am ein hoffer digidol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • eDendroCymru (Jaggaer)
  • AWARD (Commerce Decisions)
  • Dun and Bradstreet
  • eAnfonebu (Basware)
  • Cardiau pryniant (Barclaycard)  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'r offer uchod neu unrhyw ymholiadau digidol cysylltiedig, e-bostiwch: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Cynllun gweithredu digidol

Bydd y grŵp defnyddwyr eGaffael nesaf yn cael ei gynnal ar 21 Mai 2024. Os hoffech gael mynediad i'n hadnodd rhannu ffeiliau, sy'n cynnwys recordiadau o'n sesiynau grŵp defnyddwyr, anfonwch e-bost at: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Swyddogaeth cynllunio piblinellau

Mae'r swyddogaeth cynllunio piblinellau newydd bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru. Os hoffech chi fod yn rhan o beilota'r swyddogaeth cynllunio piblinellau newydd ar GwerthwchiGymru, anfonwch e-bost at: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Dysgu a datblygu

Bydd Commerce Decisions, sy'n rheoli'r system AWARD, yn cynnal sesiynau blasu dros y flwyddyn nesaf, yn rhad ac am ddim i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd dyddiadau’r cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Cynhaliodd Commerce Decisions weminar hefyd ar bwysoli'ch meini prawf gwerthuso. I wylio'r weminar AM DDIM ar alw, ewch i'w gwefan (dolen allanol – Saesneg yn unig).