Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Problemau yn ymwneud â’r Gadwyn Gyflenwi

Dylai cwsmeriaid wybod bod problemau yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi o hyd, yn enwedig yn y sector TGCh.

Rydym yn cynghori rheolwyr caffael sector cyhoeddus Cymru i ystyried hyn yn eu gwaith cynllunio caffael ar gyfer Chwarter pedwar 2021/22. Mae cyflenwyr ar draws fframweithiau TGCh Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y mater, a chynghorir cwsmeriaid i osod archebion ar gyfer eu gofynion TGCh erbyn dechrau mis Ionawr 2022.

Nodwch efallai na fydd cyflenwyr yn gallu gwarantu danfon nwyddau ym mlwyddyn ariannol 2021/22.

Cynhyrchion a Gwasanaethau TG (ICT-0094-19)

Mae ein fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG yn cynnig siop un stop ar gyfer amrywiaeth o ofynion TGCh. XMA yw'r unig gyflenwr ar gyfer Lot 1: nwyddau caledwedd TG; gan gynnig ffordd gyflym a hawdd o brynu nwyddau gwerth isel.

Drwy ei e-gatalog siop XMA ar-lein, gall cwsmeriaid gael mynediad at ystod eang o gynhyrchion TG, o berifferolion cyfrifiadurol, nwyddau printio ac argraffu, i ddyfeisiau cleientiaid.

Mae'r siop ar-lein wedi'i chynllunio i gyd-fynd ag anghenion cymhleth sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac mae'n caniatáu i gwsmeriaid elwa ar ostyngiadau prisio’r fframwaith.

Yn ogystal, gall cwsmeriaid elwa ar:

  • Lefelau rhestr amser real
  • Cyfleuster syml er mwyn chwilio am gynnyrch
  • Ffurfweddwyr cynnyrch
  • Prosesau archebu syml a diogel
  • Mynediad llawn i olrhain archebion a gweld hanes
  • Integreiddio â llwyfannau caffael a chyllid

I gofrestru, ewch i wefan XMA.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: XMAWales@xma.co.uk