Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llogi cerbydau IV 

Bellach mae gan gwsmeriaid fynediad i'n fframwaith llogi cerbydau IV newydd. Mae'r fframwaith newydd yn ehangu ar y cytundeb blaenorol, gyda mynediad pellach at ystod o gerbydau a dewisiadau trydan amgen i helpu sefydliadau cwsmeriaid i gyflawni eu huchelgeisiau sero net.

Mae'r lotiau o dan y fframwaith hwn yn cynnwys:

Lot 1 – Ceir

Gan gynnwys ceir bach, canolig, mawr, cerbydau amlbwrpas a cherbydau cyfatebol sy’n gwbl drydanol.

Lot 2: Cerbydau Masnachol Ysgafn

Gan gynnwys cerbydau Peiriannau Tanio Mewnol a faniau trydan (Peiriannau Tanio Mewnol hyd at 3.5T / Cerbydau Trydan hyd at 4.2T), cerbydau picyp, bysiau mini (hyd at 17 sedd), lorïau codi, cerbydau Luton ac amrywiadau arbenigol.

Lot 3: Cerbydau Arbenigol

Yn cynnwys naw categori arbenigol gan gynnwys cerbydau sbwriel,  lorïau ysgubo, lorïau codi, lorïau gwacáu cwteru, cerbydau cynnal a chadw’r gaeaf, tractorau, unedau lles, unedau cludo a cherbydau fflyd trwm eraill.

Bydd y ddogfennau canllaw i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru yn fuan. Fel arall, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru.