Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwirio trwyddedau gyrru

Mae ein fframwaith gwirio trwyddedau gyrru newydd wedi'i ddyfarnu ac mae ar gael i'n cwsmeriaid. I weld y canllawiau i gwsmeriaid, ewch i’r Gofrestr Contractau o fewn Hwb Caffael Cydweithredol Cymru ar wefan GwerthwchiGymru. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Tanwyddau a chynhyrchion cysylltiedig

Rydyn ni wedi dechrau gweithio ar y cytundeb newydd ar gyfer ein fframwaith tanwyddau a chynhyrchion cysylltiedig, sydd i fod i ddechrau ym mis Ebrill 2023. Os hoffech chi lunio'r fframwaith newydd, cofrestrwch i fynychu ein grŵp ffocws cwsmeriaid drwy e-bostio: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Adolygiadau prisiau

Mae ein fframwaith llogi cerbydau, a’n fframwaith teiars a chynhyrchion cysylltiedig ill dau wedi bod yn destun adolygiadau prisiau. Mae’r atodlenni masnachol wedi’u diweddaru ar gael yn y Gofrestr Contractau o fewn Hwb Caffael Cydweithredol Cymru ar wefan GwerthwchiGymru. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr adolygiadau prisiau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru