Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnodd yr ymgynghoriad i ymatebwyr a yw’r canllaw drafft yn cynnwys disgrifiad digonol o natur a chwmpas yr wybodaeth y byddai’n ofynnol ei chyflwyno i gefnogi cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo trwydded gan yr Awdurdod Glo. Cadarnhaodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad fod y canllaw yn addas i’r diben, ac felly caiff y canllaw ei gyhoeddi’n llawn.

Yn ogystal, mynegodd y mwyafrif o’r ymatebion wrthwynebiad clir i drwyddedu ac echdynnu glo yng Nghymru, ynghyd â’r safbwynt na ddylai Gweinidogion Cymru gymeradwyo trwyddedau. Amcan polisi Llywodraeth Cymru yw rhoi terfyn ar echdynnu a defnyddio glo mewn modd sydd wedi’i reoli. Felly nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymeradwyo trwyddedau newydd gan yr Awdurdod Glo ar gyfer gwaith cloddio am lo nac amrywiadau i drwyddedau presennol yng Nghymru. Mae’n bosibl y bydd angen trwyddedau glo o dan amgylchiadau cwbl eithriadol, a gwneir penderfyniad ar bob cais ar sail ei rinweddau unigol, ond bydd y rhagdybiaeth bob amser yn erbyn echdynnu glo.

Crynodeb o themâu yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a'n hymatebion

Mae’r canllawiau drafft yn addas i’r diben

Mae angen y canllaw er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ymgymryd â’u dyletswydd statudol i ystyried ceisiadau am gymeradwyaeth yn briodol, ac felly i’w gwneud yn bosibl cymhwyso polisïau glo a datgarboneiddio perthnasol. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi cyhoeddi’r canllawiau.

Mae gwrthwynebiad i drwyddedu ac echdynnu glo

Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid osgoi echdynnu a defnyddio tanwyddau ffosil. Nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymeradwyo trwyddedau newydd gan yr Awdurdod Glo ar gyfer gweithgareddau cloddio am lo nac amrywiadau i drwyddedau presennol. Fodd bynnag, mae ychydig o lofeydd gweithredol yng Nghymru sydd â thrwyddedau a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU, ac mae’n bosibl y bydd angen gwneud amrywiadau i’r trwyddedau hyn o dan amgylchiadau cwbl eithriadol. Caiff penderfyniad ei wneud ar bob cais am gymeradwyaeth ar sail ei rinweddau ei hun, yn amodol ar asesiad ohono yn erbyn pob gofyniad polisi perthnasol. 

Dylid cefnogi rheilffyrdd treftadaeth oherwydd eu bod yn bwysig yn y diwydiant twristiaeth 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ein rheilffyrdd treftadaeth ers cryn amser, ac rydym yn deall pwysigrwydd yr asedau treftadaeth a diwylliannol hyn. Rydym yn gwerthfawrogi’r rheilffyrdd fel profiadau i ymwelwyr ynddynt eu hunain, a’r ffordd y maent yn cysylltu cymunedau, yn galluogi ymwelwyr i brofi tirweddau gwledig ac yn creu canolfannau ar gyfer eu hadfywio. 

Dylid cydnabod nad yw trwyddedu amgylcheddol yn fecanwaith priodol ar gyfer cymhwyso polisïau

 Mae’n ofynnol cael caniatâd cynllunio a thrwydded Awdurdod Glo ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â chloddio am lo. Mae’r polisi glo yn ystyriaeth berthnasol ym mhob penderfyniad a wneir mewn perthynas â’r gyfundrefn cynllunio a thrwyddedu gweithgareddau cloddio am lo. Cydnabyddir bod y gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol yn seiliedig ar y cysyniad o derfynau allyriadau, nad yw’n darparu cwmpas priodol ar gyfer ystyried amcanion polisïau glo yn ehangach. 

Dylai fod yn ofynnol cynnal asesiad o’r ôl-troed carbon

 Mae’n ofynnol i weithredwyr glofeydd gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth briodol i Lywodraeth Cymru sy’n dangos sut mae’r gweithgareddau cloddio am lo yn cydymffurfio â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru. Cynghorir iddynt ddarparu unrhyw dystiolaeth a fyddai’n nodi’r effaith y byddai gweithgareddau cloddio am lo arfaethedig yn debygol o’i chael ar y newid yn yr hinsawdd. Er y gallai asesiad ôl troed carbon ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, rydym hefyd yn chwilio am dystiolaeth y gellir ei harchwilio’n llawn nad yw glo yn mynd i farchnadoedd thermol.

Cofrestr trwyddedau gyhoeddus

Yr Awdurdod Glo yw’r awdurdod trwyddedu o hyd ar gyfer yr holl weithgareddau cloddio am lo a gyflawnir yng Nghymru. Dylid cyflwyno unrhyw gais am fynediad at drwyddedau unigol ar gyfer gweithgareddau cloddio am lo i’r Awdurdod Glo.

Caiff unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru i gymeradwyo trwydded a roddir gan yr Awdurdod Glo ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.