Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwasanaethau cyfreithwyr

Rydym ar fin dechrau gweithgareddau cyn-gaffael ar gyfer ein fframwaith gwasanaethau cyfreithwyr.

Fel rhan o'r gweithgareddau hyn, byddwn yn sefydlu grŵp ffocws cwsmeriaid gyda gwirfoddolwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Gall gwirfoddolwyr gynnwys cynrychiolwyr cyfreithiol a chaffael, rhanddeiliaid allweddol a defnyddwyr y fframwaith.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n grŵp ffocws cwsmeriaid, cyflwynwch eich datganiadau o ddiddordeb cyn gynted â phosibl. Ein nod yw cynnal y cyfarfod grŵp ffocws cwsmeriaid cyntaf tua diwedd mis Chwefror 2024.

Am fwy o wybodaeth am ein fframwaith a'r grŵp ffocws cwsmeriaid, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.GwasanaethauProffesiynol@llyw.cymru