Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo

Bydd fframwaith newydd ar gyfer darparu deunydd ysgrifennu a phapur copïo ar gael yn fuan ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dyfarnwyd y fframwaith i Lyreco ar sail contract un cyflenwr, a bydd yn dechrau ar 1 Mehefin 2022 am gyfnod o bedair blynedd.

Am y tro cyntaf, roedd y broses gaffael yn cynnwys gwerthuso gwerth cymdeithasol; gan ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio a chymorth i fusnesau cynhenid Cymru o fewn cadwyn gyflenwi'r cyflenwr llwyddiannus. Bydd y gwaith o fesur ac adrodd ar ymrwymiadau gwerth cymdeithasol yn cael ei fonitro a'i gofnodi trwy gydol oes y cytundeb gan ddefnyddio model TOMs Cymru (Themâu, Amcanion, Mesurau) trwy ein casgliad DPA chwarterol.

Bydd canllawiau fframwaith ar gael ar GwerthwchiGymru pan fydd y cytundeb newydd yn mynd yn fyw ar 1 Mehefin 2022.

Cyfarpar Diogelu Personol a Dillad Gwaith - System Brynu Ddeinamig (DPS) (contract neilltuol)

Rydym yn bwriadu sefydlu System Brynu Ddeinamig ar gyfer cyflenwi cyfarpar diogelu personol (PPE) gwelededd uchel, gwisgoedd, dillad gwaith a dillad hamdden.

Gan ddefnyddio Rheoliad 20 o'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (2015), hysbysebir y System Brynu Ddeinamig ar GwerthwchiGymru ar sail neilltuol. Dim ond sefydliadau sy'n cael eu dosbarthu fel gweithdai cyflogaeth cysgodol a all wneud cais am le ar y System Brynu Ddeinamig. Gellir diffinio gweithdy cyflogaeth cysgodol fel busnes sydd ag o leiaf 30% o gyflogeion sy'n cael eu hystyried yn weithwyr anabl neu ddifreintiedig.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y marchnadoedd sydd ar gael ar gyfer unrhyw gyflenwyr llwyddiannus, bydd y System Brynu Ddeinamig ar gael i gyrff cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig brynu drwyddo.

Ar ôl ei sefydlu, bydd y System Brynu Ddeinamig yn darparu nifer o fanteision gan gynnwys:

  • Mwy o fynediad at gyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl neu ddifreintiedig
  • Cynyddu amrywiaeth sylfaen cyflenwyr y sector cyhoeddus, drwy dynnu o'r gronfa ehangach o dalent a sgiliau sydd ar gael yn y gweithlu, nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd h.y. gweithwyr difreintiedig sy'n wynebu rhwystrau rhag ymuno â'r farchnad lafur
  • Cyfrannu at fwy o gynhwysiant cymdeithasol a rhyngweithio rhwng pobl anabl yn y farchnad lafur a'u cymunedau.
  • Darparu llwybr syml i'r farchnad i gyrff cyhoeddus gaffael o'r busnesau hyn mewn modd sy’n cydymffurfio
  • Bydd yn parhau ar agor am ei holl gyfnod, gan roi cyfle i weithdai cyflogaeth cysgodol/busnesau a gefnogir newydd neu sydd eisoes wedi'u sefydlu ymuno â'r System Brynu Ddeinamig ar unrhyw adeg drwy gydol ei oes.

Bydd y cytundeb newydd hwn yn rhedeg ochr yn ochr â'r DPS presennol ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol a Dillad Gwaith a ddechreuodd ar 1 Hydref 2021.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru