Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynyddu Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2022

O 6 Ebrill 2022, bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol 1.25 pwynt canran. O ganlyniad, bydd cyfanswm y cyfraddau tâl o dan ein fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi [NPS-PSU-0088-18] yn cynyddu yn unol â hynny.

I gael rhagor o fanylion am y cynnydd, ewch i wefan GOV.UK (dolen allanol – Saesneg yn unig).

Gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi

Rydym wedi ymestyn ein fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi. Bydd Lot 1 i 4 ar gael tan 31 Hydref 2023 a bydd Lot 5 ar gael tan 31 Gorffennaf 2023. Byddwn yn dechrau ar y gwaith cychwynnol o bennu hyd a lled y fframwaith newydd cyn bo hir. I gael rhagor o wybodaeth, neu i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r fframwaith hwn, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru