Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Prynu cyfryngau, ymgyrchoedd marchnata integredig a gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus

Rydym wedi cyhoeddi'r hysbysiad tendro ar gyfer ein fframwaith cyfryngau newydd, gyda chyflwyniadau i ddod i law erbyn 19 Rhagfyr. I weld yr hysbysiad, ewch i GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).

I gael mynediad at ddogfennau tendro, ewch i borth Cyflenwyr Proactis. Mae'r dogfennau ar gael o dan y cyfeirnod RFX1000007 o'r enw Fframwaith Prynu Cyfryngau, Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Gwasanaethau Cysylltiadau Cyhoeddus Tîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru.

Bydd y fframwaith newydd yn olynu dau gytundeb cyfredol sy'n dod i ben yn fuan. Y fframweithiau sy'n dod i ben yw

  • Ymgyrchoedd marchnata integredig a gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus (NPS-CS-107-20), a fydd yn dod i ben ar 14 Rhagfyr 2025.
  • Gwasanaethau prynu cyfryngau (III) (WGCD-PCS-116-22), sydd wedi'i ymestyn ac a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.

Os ydych chi'n defnyddio'r cytundebau hyn ar hyn o bryd ac yr hoffech ymuno â'r panel gwerthuso ar gyfer ymatebion technegol, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru

Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2026.

Bagiau gwastraff a chynhyrchion ailgylchu

Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau dyfarnu'r fframwaith bagiau gwastraff a chynhyrchion ailgylchu newydd.

Mae ein fframwaith newydd yn rhoi mynediad at ystod eang o gynhyrchion casglu gwastraff, sy’n cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Glasbrint ar gyfer Casgliadau Gwastraff Llywodraeth Cymru, WRAP Cymru, gwerth cymdeithasol a pholisi cynaliadwyedd.

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r Glasbrint ar gyfer Casgliadau Gwastraff yn argymell yn benodol defnyddio'r fframwaith hwn wrth brynu yn y categori hwn.

Mae'r cynhyrchion sydd ar gael yn cynnwys sachau sbwriel untro, leinin a chadis bwyd, bagiau hesian y gellir eu hailddefnyddio, cynwysyddion a bocsys wrth ymyl y palmant.

I gael mynediad at ddogfennau canllaw, ewch i GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi). Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru