Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwasanaethau buddion i weithwyr (III)

Rydym wedi dyfarnu ein fframwaith gwasanaethau buddion i weithwyr newydd (III) (WGCD-PCS-123-23), sy'n mynd yn fyw ar 12 Chwefror. Mae gan y fframwaith newydd bum cyflenwr newydd dros dair lot ac mae'n cadw'r opsiwn o ddarpariaeth gwasanaeth a reolir gan gynnwys lotiau ar wahân ar gyfer cynlluniau beicio i'r gwaith a cheir gwyrdd.

Bydd hyn yn disodli'r fframwaith buddion i weithwyr (II) (NPS-PS-0095-19) sy'n dod i ben ar 9 Chwefror 2024. Bydd canllawiau i gwsmeriaid ar gael ar GwerthwchiGymru yn fuan.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru