Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Arolwg ymgysylltu y fframwaith buddion i weithwyr (III)

Mae'r fframwaith buddion i weithwyr (III) newydd yn gytundeb cydweithredol sy'n cynnig ystod eang o gynlluniau i gwsmeriaid. Gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaeth a reolir yn llawn neu wasanaethau unigol sy'n cynnwys ystod o gynlluniau aberthu cyflog a didyniad gwirfoddol sydd â'r potensial i gyflawni arbedion sylweddol i gyflogwyr a gweithwyr, gan ychwanegu gwerth yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.

Mae'r cytundeb fframwaith hwn yn cynnwys cyflenwi'r gwasanaethau canlynol o dan y Lotiau a ganlyn:

  • Lot 1: Darpariaeth gwasanaethau a reolir
  • Lot 2: Cynllun beicio i'r gwaith
  • Lot 3: Cynllun ceir gwyrdd

Mae Lot 1 yn cynnwys:

  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cynllun ceir gwyrdd
  • Cynllun technoleg cartref a ffonau clyfar
  • Cynllun iechyd a lles
  • Cynllun lles ariannol
  • Cynllun talebau gofal plant
  • Cynllun gostyngiad manwerthu a hamdden
  • Datrysiadau cydnabod a gwobrwyo
  • Llwyfan buddion ar-lein

Rydym wedi adnewyddu'r fframwaith yn ddiweddar a hoffem fesur y diddordeb mewn mynychu digwyddiad ‘cwrdd â'r prynwr’ wyneb yn wyneb. Byddai digwyddiad wyneb yn wyneb yn dwyn ynghyd holl gyflenwyr y fframwaith yn ogystal â'u darparwyr trydydd parti i arddangos pa wasanaethau sydd ar gael a'r manteision o ddefnyddio'r gwasanaethau a gynigir, gan gynnwys yr arbedion y gall sefydliadau cwsmeriaid eu gwneud.

Cwblhewch yr arolwg byr hwn.

Eich cyfle chi i ddod i adnabod Buddion Gweithwyr Vivup!

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu’r darparwr buddion a llesiant gweithwyr, Vivup fel yr unig gyflenwr ar gyfer y Ddarpariaeth Gwasanaethau a Reolir (Lot 1).

Mae’r fframwaith Darpariaeth gwasanaethau a reolir sydd ar gael i bob sefydliad sector cyhoeddus yn y DU, yn cynnwys gwasanaeth a reolir yn llawn ar gyfer buddion gweithwyr sy’n cwmpasu ystod o gynlluniau aberthu cyflog a didynnu gwirfoddol.

Mae Vivup yn cynnal dwy sesiwn unigryw ddydd Mawrth 30 Ebrill am 12 p.m. a dydd Mawrth 14 Mai am 12 p.m. i'ch helpu i ddysgu rhagor am yr hyn sydd ar gael.

Bydd y sesiynau’n rhoi sylw i’r canlynol:

  • Sut gallwch chi wella eich datganiad gwerth i weithwyr heb unrhyw gost i'r sefydliad
  • Dysgu sut i ddenu a chadw gweithwyr sydd ag ystod eang o fanteision ystyrlon
  • Archwilio cymorth costau byw heb godiadau cyflog
  • Sut i ymgysylltu â gweithwyr sy’n gweithio o bell a gweithwyr hybrid
  • Yr ateb i ddatblygu diwylliant o wobrwyo a chydnabod

Cofrestrwch yma: Introduction to Vivup Employee Benefits & Wellbeing Tickets, Multiple Dates | Eventbrite

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru