Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bagiau gwastraff a chynhyrchion ailgylchu

Mae ein fframwaith presennol yn dod i ben ym mis Hydref 2025, ac rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i drafod cynlluniau ar gyfer ein fframwaith newydd.

Mae'r fframwaith presennol yn cwmpasu ystod eang o fagiau gwastraff, leineri, cadis a chynwysyddion, pob un yn cyd-fynd â chanllawiau arfer gorau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a WRAP. Rydym hefyd yn trefnu profi ac achredu cynnyrch i sicrhau mai dim ond cynhyrchion a chyflenwyr addas sy'n cael eu penodi i'n fframwaith.

Os hoffech chi fod yn rhan o'r broses hon, neu os hoffech rannu eich gofynion bagiau gwastraff gyda ni i sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried ar gyfer y fframwaith newydd, cysylltwch â: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru