Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig (III)

Mae disgwyl i'n fframwaith iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig (WGCD-PCS-118-22) ddod i ben ym mis Ebrill 2027. Rydym wedi dechrau ymgysylltu'n gynnar i lywio datblygiad y fframwaith fydd yn ei olynu, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Rydym yn ceisio adborth gan gwsmeriaid i helpu i lunio fframwaith at y dyfodol, gan gynnwys ei gwmpas, ei fanyleb a'i ddull masnachol. Mae dwy ffordd y gallwch chi gymryd rhan:

Ymunwch â'n Grŵp Ffocws Cwsmeriaid

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan awdurdodau contractio i ymuno â Grŵp Ffocws Cwsmeriaid. Bydd y Grŵp yn rhoi mewnbwn a mewnwelediad ymarferol trwy gydol y broses ddatblygu.

I fynegi diddordeb, anfonwch e-bost at CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru erbyn 29 Mai 2026.

Cwblhewch ein harolwg byr

Gallwch hefyd rannu eich barn ar y fframwaith cyfredol, trwy gwblhau ein harolwg byr, na ddylai gymryd mwy na phum munud. Bydd eich adborth yn llywio'n uniongyrchol sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynllunio yn y dyfodol.

Cwblhewch yr arolwg yma erbyn 29 Mai 2026.

Mae eich mewnbwn yn hanfodol wrth lunio dyfodol darpariaeth iechyd galwedigaethol ledled Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru