Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Atebion o ran dodrefn (III)

Rydym wedi diweddaru'r canllawiau cynaliadwyedd ar gyfer ein fframwaith atebion o ran dodrefn (III). Bydd y canllawiau yn helpu awdurdodau contractio i ystyried dulliau cyrchu cynaliadwy, gan gyflawni nodau polisi Cymru fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Mae nhw’n cynnig camau ymarferol i:

  • Integreiddio egwyddorion economi gylchol i gaffael dodrefn
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol Cymru a'r DU, gan gynnwys Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024, Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) ar gyfer Pecynnu, a Rheoliadau Pren y DU
  • Cefnogi adrodd ar effeithiau carbon a gwastraff yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru
  • Darparu manteision cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach o dan y Nodau Llesiant

Mae'r canllawiau cynaliadwyedd i'w gweld yn adran 'Dogfennau' y Gofrestr Contractau ar GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi).

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am ein fframwaith dodrefn, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru