Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymgyrchoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus integredig

Mae cyflenwr ar ein fframwaith ymgyrchoedd marchnata a cysylltiadau cyhoeddus integredig (NPS-CS-107-20) wedi newid ei enw. Mae Lynn PR Ltd wedi newid eu henw i Lynn Group Ltd.

Mae dogfennau canllaw ar GwerthwchiGymru wedi'u newid i adlewyrchu'r newid enw hwn.

Athrawon cyflenwi

Yn dilyn ymgynghoriad â chwsmeriaid, rydym wedi ymestyn ein fframwaith athrawon cyflenwi am 12 mis, tan fis Awst 2023. Mae un o'r darparwyr ar y fframwaith, Bay Resourceing, wedi cyhoeddi eu bwriad i dynnu'n ôl, sy'n golygu nad ydynt bellach yn rhan o'r fframwaith. Mae canllawiau i gwsmeriaid ar gael ar GwerthwchiGymru.

Rydym yn gweithio ar y cytundeb fframwaith newydd. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru

Deunydd ysgrifennu a phapur copïwr

Mae ein fframwaith deunydd ysgrifennu a phapur chopïwr (WGCD-CS-111-21), a ddyfarnwyd i Lyreco UK Ltd, yn dechrau ar 1 Mehefin. Mae'r holl ddogfennau canllaw i gwsmeriaid bellach ar gael ar GwerthwchiGymru.

Iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig

Ar hyn o bryd rydym yn drafftio dogfennau tendro ar gyfer ein fframwaith iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig newydd (NPS-PSU-0091-18) sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023. Os hoffech gymryd rhan yn y broses, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru